Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 25 Ebrill 2018.
Diolch am hynny, Darren. Buaswn yn disgwyl i bob cwestiwn arholiad a holl dasgau Bagloriaeth Cymru gael eu hysgrifennu mewn modd addas. A gaf fi ddweud yn gwbl glir mai'r hyn rydym yn sôn amdano yma yw gamblo cymhellol a chydnabod hynny fel mater iechyd, mater o ddibyniaeth, yn union fel y mae modd bod yn gaeth i bethau eraill? Credaf fod angen inni fod yn weddol ofalus wrth gymharu chwarae'r loteri â gamblo cymhellol. Rwy'n credu bod angen inni fod yn weddol ofalus ynglŷn â hynny, ond buaswn yn disgwyl i bob cwestiwn ym mhob papur arholiad fod wedi'u hysgrifennu mewn ffordd sy'n addas i'r plant sy'n eu darllen ac sy'n defnyddio'r adnoddau hynny.