Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 25 Ebrill 2018.
Dai, rydych yn llygad eich lle: mae angen inni ystyried y materion hyn y tu hwnt i faes dysgu a phrofiad iechyd a lles yn unig. Bydd addysg ariannol yn elfen allweddol yn y cwricwlwm newydd, gan gynnig darpariaeth gref i gynorthwyo dysgwyr i ddatblygu eu sgiliau ariannol, gan gynnwys rheoli eu harian. Bûm yn ddigon ffodus yn ddiweddar i fynychu ysgol arloesi yn eich rhanbarth, ysgol Olchfa, dosbarth mathemateg blwyddyn 8, lle roeddent yn sôn am y system dreth a sut y byddech yn rheoli eich arian ac yn cyfrifo eich dyledion treth. Felly, rydym eisoes yn gweld gwersi yn hyn o beth ar lawr gwlad yn ein hysgolion ar hyn o bryd, ac wrth gwrs, wrth inni agosáu at ddefnydd statudol o'r cwricwlwm, buaswn yn disgwyl gweld mwy o hynny. Roedd yn hollol wych gweld dysgwyr cymharol ifanc yn eu gyrfa addysg uwchradd yn meddu ar y gallu i ddatblygu eu sgiliau rhifedd a dysgu a deall ar yr un pryd sut y mae treth yn gweithio a chael trafodaeth foesol iawn mewn gwirionedd ynglŷn ag a ddylid codi mwy neu lai o dreth ar bobl.