Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 25 Ebrill 2018.
Yn ychwanegol at y sylwadau hynny—ac rwy'n cytuno â'r holl sylwadau hyd yn hyn—byddai Mick Antoniw yn gwybod bod astudiaeth ddiweddar gan Brifysgol De Cymru wedi dangos nad yw un o bob pedwar gamblwr yn ystyried eu hunain yn gamblwyr, ac mae hynny'n cynnwys plant hefyd. Felly, gan bwyso ymhellach ar y mater hwn o addysg mewn ysgolion, yn amlwg mae fy nghyd-Aelod Bethan Sayed eisoes wedi crybwyll egwyddorion addysg ariannol a fyddai'n cynnwys addysg o'r fath, ond mae angen inni bwysleisio hyn yn gryf fel y crybwyllwyd eisoes, oherwydd natur lechwraidd y diwydiant gamblo yn gwthio'i hun i bob agwedd ar fywyd ac yn ceisio normaleiddio'r peth. Nid yw bod yn gamblwr yn normal, a buaswn yn gwerthfawrogi eich cefnogaeth ar y mater.