Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 25 Ebrill 2018.
Wrth gynnal cymhorthfa ym Maesteg, gofynnodd rhieni i mi ynglŷn â chau ysgolion yn eu hardal. Dywedasant nad oedd digon o blant yn byw yn yr ardal leol i lenwi lleoedd yr ysgol fawr newydd sy'n cael ei hadeiladu ym Mhort Talbot, ac o ganlyniad i hynny, fod plant yn dod o ardaloedd llawer pellach a disgwylir iddynt lenwi'r lleoedd hyn. Roeddent yn bryderus y byddai rhai o'r plant sy'n byw yn bell ar y bws ysgol am bron i ddwy awr mewn un diwrnod. Felly, pa drafodaethau a gawsoch gyda'r rhieni sy'n mynegi'r pryderon hyn, ac onid ydych yn cytuno fod hyn yn disgwyl gormod gan rieni a phlant?