Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:24 pm ar 25 Ebrill 2018.
Buaswn yn annog pawb, ac rwy'n siŵr eu bod eisoes—os oes ganddynt bryderon ynghylch yr hysbysiad statudol a roddwyd gan Gastell-nedd Port Talbot, mae angen iddynt gymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwnnw. Fel y dywedais yn gynharach, mae rhywfaint o ganllawiau ar gael sy'n sôn am amseroedd teithio tybiannol, yr hyn a fyddai'n cael ei ystyried yn amser rhy hir i blentyn deithio i gael addysg, ond ni allaf roi unrhyw sylwadau pellach ar unrhyw gynigion penodol, rhag ofn y byddant yn dod yma i Lywodraeth Cymru i mi eu hystyried.