– Senedd Cymru am 7:16 pm ar 25 Ebrill 2018.
Os caf fi ofyn i'r Aelodau fynd i'w seddau, os gwelwch yn dda. Symudwn ymlaen yn awr i bleidleisio, a phleidleisiwn yn gyntaf ar ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar ddiwygio llywodraeth leol. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Os na dderbynnir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 18, neb yn ymatal, 37 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y cynnig.
Symudwn yn awr i bleidleisio ar welliant 1. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2 a 3 yn cael eu dad-ddethol. Felly, galwaf am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Julie James. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 34, neb yn ymatal, 21 yn erbyn. Felly, derbyniwyd gwelliant 1. Caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol.
Galwaf am bleidlais ar welliant 4 a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 46, roedd 5 yn ymatal, 4 yn erbyn. Felly, derbyniwyd gwelliant 4.
Galwn yn awr am bleidlais ar y cynnig fel y'i diwygiwyd.
Cynnig NDM6707 fel y'i diwygiwyd:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi Papur Gwyrdd Llywodraeth Cymru—Cryfhau Llywodraeth Leol: Cyflawni dros ein Pobl— sy’n destun ymgynghoriad ar hyn o bryd.
2. Yn nodi nad yw’r patrwm presennol o 22 awdurdod lleol yng Nghymru yn gynaliadwy.
3. Yn credu y dylai unrhyw gynigion ar gyfer ad-drefnu llywodraeth leol fod gyda’r bwriad o gryfhau democratiaeth leol, integreiddio iechyd a gofal, cryfhau’r Iaith Gymraeg a chynnig gwasanaethau mwy effeithiol i’w defnyddwyr.
Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig fel y'i diwygiwyd 34, roedd 8 yn ymatal, 13 yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd.
Symudwn yn awr i bleidleisio ar ddadl Plaid Cymru ar y bwriad i ailenwi Ail Bont Hafren. A galwaf am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Os na dderbynnir y cynnig hwn, pleidleisiwn ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 14, roedd 1 yn ymatal, 40 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y cynnig.
Symudwn yn awr i bleidleisio ar y gwelliannau, a galwaf am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Julie James. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 45, roedd 1 yn ymatal, 9 yn erbyn. Felly, derbyniwyd gwelliant 1.
Galwaf yn awr am bleidlais ar y cynnig fel y'i diwygiwyd.
Cynnig NDM6706 fel y'i diwygiwyd:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi’r ffaith bod ail Bont Hafren wedi cael ei hailenwi gan Lywodraeth y DU, sydd â’r cyfrifoldeb drosti.
2. Yn croesawu bwriad Llywodraeth Cymru i gynnal ymgynghoriadau lleol ar enwi pontydd newydd ar gefnffyrdd yng Nghymru.
Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 44, roedd 1 yn ymatal, 9 yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd.
Symudwn yn awr i bleidleisio ar ddadl Plaid Cymru ar y grant ar gyfer gwisg ysgol, a galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Unwaith eto, os na dderbynnir y cynnig hwn, pleidleisiwn ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 26, neb yn ymatal, 29 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y cynnig.
Galwaf am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Julie James. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 29, neb yn ymatal, 26 yn erbyn. Felly, derbyniwyd gwelliant 1.
Galwaf yn awr am bleidlais ar y cynnig fel y'i diwygiwyd.
Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 29, neb yn ymatal, 26 yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd.