– Senedd Cymru am 7:20 pm ar 25 Ebrill 2018.
Symudwn yn awr at y ddadl fer. Os yw'r Aelodau'n gadael y Siambr, gwnewch hynny'n gyflym ac yn dawel os gwelwch yn dda. Galwaf ar David Rees i siarad ar y pwnc y mae wedi'i ddewis. David.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n sylweddoli ei bod wedi bod yn ddiwrnod hir, ond credaf ei fod yn faes pwysig i'w drafod a chroesawaf y cyfle i gyflwyno'r ddadl fer ar wead cymdeithasol a lles cymunedau'r Cymoedd yn y dyfodol. Hoffwn hysbysu'r Senedd fy mod wedi rhoi amser i Dawn Bowden gyfrannu at y ddadl hon.
Yn y ddadl fer hon, rwyf am fynd i'r afael ag agweddau ar gymunedau'r Cymoedd sy'n dylanwadu ar les cymdeithasol a chydlyniant y rhai sy'n byw yno a sut y mae'r ffactorau hyn wedi newid tirwedd wleidyddol ac economaidd y Cymoedd. Byddaf hefyd yn ystyried y dylanwad y mae polisïau Llywodraeth Cymru wedi'u cael, ac y gallent eu cael ar y cymunedau hynny yn ogystal â mynd i'r afael ag effaith agenda cyni ddiangen Llywodraeth y DU.
I ddeall beth a olygir wrth 'wead cymdeithasol', mae'n ddefnyddiol myfyrio efallai ar hanes unigryw'r Cymoedd a'i gymharu â lle rydym heddiw. Mae gan Gymru dreftadaeth falch o orffennol diwydiannol, sydd wedi siapio ein hanes a diffinio ein tirwedd. Wrth wraidd ein treftadaeth ddiwydiannol, mae cymunedau'r Cymoedd, sydd, fel y gwyddom, wedi'u dylanwadu'n fawr gan y diwydiannau glo a metel. Roedd y rhain yn gymunedau integredig iawn, a ddibynnai'n helaeth ar ei gilydd am gymorth a dyma lle y digwyddai llawer o'r gweithgareddau cymdeithasol a chyhoeddus. Ac o ganlyniad, ni ellid anwybyddu cryfder y parch a'r ysbryd a oedd yn amlwg yn y cymunedau hyn. Roedd y rhyngweithio cymdeithasol a'r ddealltwriaeth rhwng y rheini a oedd yn byw yn y Cymoedd yn ffurfio gwead cymdeithasol cryf, a rwymai'r cymunedau hyn ynghyd.
Ers dad-ddiwydiannu'r cymunedau hyn yn ail hanner yr ugeinfed ganrif, cafwyd llawer o heriau a ddogfennwyd yn dda yn ymwneud â chyfleoedd cyflogaeth, trafnidiaeth a seilwaith, yn ogystal ag anghydraddoldebau ar draws iechyd, lles ac addysg. Er bod yr heriau hyn yn bodoli ac na ddylid eu hanwybyddu, nid ydynt yn diffinio'r Cymoedd. Mae'r ymdeimlad cryf o ddiwylliant a chymuned yn parhau. Fodd bynnag, mae hynny bellach mewn perygl. Yr her i Lywodraeth Cymru yw nid yn unig buddsoddi ymhellach yn y Cymoedd, ond gweithio'n agos hefyd gyda'r cymunedau hyn i sicrhau bod lleisiau'n cael eu clywed a bod pobl wedi eu grymuso i gymryd yr awenau ar benderfyniadau polisi allweddol y Llywodraeth sy'n ymwneud â'r rhyngweithio cymdeithasol a'r gymuned sy'n byw yn y Cymoedd ac yn dylanwadu arno.
Roedd cyflogaeth ar y cyd mewn cymunedau glofaol yn rhwymo'r Cymoedd gyda'i gilydd ar un adeg, ond rydym bellach yn wynebu tirlun economaidd newydd. O ganlyniad, mae nifer o heriau wedi codi. Yn y gorffennol, roedd Cymoedd ffyniannus, diwydiannol a thynn yn cynnal hunaniaeth ddiwylliannol, ddeinamig wrth i gyfranogiad cymunedol o amgylch cyflogaeth ar y cyd ddylanwadu ar gydlyniant cymdeithasol yr ardal. Nid y cymunedau hyn a oedd yn gyfrifol am eu dirywiad economaidd eu hunain, a rhaid i'r ymateb atgyfnerthu'r ymdeimlad hwn o hunaniaeth a diwylliant cymuned. Mae hanes a threftadaeth y Cymoedd, ynghyd â diwylliant a'r celfyddydau, yn elfennau hanfodol o gymunedau glofaol, a'r pethau hyn sy'n cynyddu brwdfrydedd a chefnogaeth i newid, gan gynnal y cydlyniant cymdeithasol amhrisiadwy.
Bob dydd, gwelaf y potensial am fwy o lwyddiant a ffyniant yn fy etholaeth fy hun. Fodd bynnag, rhaid imi grybwyll y pwynt pwysig hwn, oherwydd, er gwaethaf y weledigaeth a'r buddsoddiad a wneir yn y Cymoedd gan Lywodraeth Cymru, ac rwy'n ei groesawu i gyd, Ysgrifennydd y Cabinet—felly, gallwch gofnodi hynny yn awr—ni allwn osgoi'r ffaith fod y gwaith cadarnhaol hwn yn cael ei wneud yn erbyn cefndir agenda o gyni Llywodraeth Dorïaidd y DU. Mae'r wyth mlynedd diwethaf o gyni wedi cael effaith anochel ar gyllidebau gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, a bob blwyddyn a aeth heibio, mae llai o arian ar gael i'w fuddsoddi mewn gwasanaethau lleol hanfodol anstatudol. Mae ein cynghorau'n wynebu mwy o gyfyngiadau ariannol nag erioed oherwydd bod toriadau cyni San Steffan yn cael eu trosglwyddo iddynt hwy, a bellach mae'r toriadau hynny'n bygwth gwasanaethau statudol. Gan fod toriadau gwariant San Steffan i les a gwasanaethau cyhoeddus yn difrodi ein gwasanaethau cyhoeddus, mae'n hanfodol ein bod yn parhau i ddod o hyd i atebion i helpu ein pobl ifanc i gael gwaith, i helpu'r rhai sy'n agored i niwed yn ein cymunedau ac i gysylltu ein Cymoedd yn well â'r trefi a'r dinasoedd ledled Cymru.
Ers sefydlu'r Cynulliad, darparodd Llywodraeth Cymru gryn dipyn o gymorth ar gyfer Cymoedd Cymru. Mae'n hanfodol edrych ar effeithiolrwydd y rhaglenni hyn wrth inni edrych ymlaen at yr hyn sydd i ddod ar gyfer yr ardaloedd hyn.
Mae Cymunedau yn Gyntaf bellach yn dod i ben, ac yn fy nghwm penodol i, Cwm Afan, mae wedi dylanwadu'n gadarnhaol ar nifer o unigolion, grwpiau cymunedol a'u cymdogaethau, yn ogystal ag mewn lleoliadau eraill ar draws Cymru rwy'n ymwybodol ohonynt. Dyna un raglen roeddem yn gwbl gefnogol iddi, ac roedd yn brosiect blaenllaw i Lywodraeth Cymru am flynyddoedd lawer. Mae tasglu'r Cymoedd a chyhoeddi 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol' wedi nodi nifer o flaenoriaethau allweddol i gefnogi swyddi a sgiliau o ansawdd da, mwy o wasanaethau cyhoeddus a chymunedau lleol. Nawr, mae'r grŵp hwn o arbenigwyr yn cynrychioli sectorau allweddol ar draws y Cymoedd, ac mae'r gwaith hwn yn seiliedig ar ymgysylltiad parhaus â'r cymunedau. Rwyf am weld hyn yn parhau, er mwyn sicrhau bod lleisiau'r Cymoedd yn siapio'r ffordd y mae'r tasglu hwn yn parhau i weithredu, er nad yw eto'n cynnwys y Cymoedd i gyd ar hyn o bryd; mae'n dal i fod yn gyfyngedig o ran pwy mae'n ei gael.
Nawr, mae'r weledigaeth hon yn bwysicach nag erioed, yn enwedig o ystyried penderfyniad Llywodraeth y DU i fwrw ymlaen â'i pholisi cyni diffygiol, sy'n golygu, yma yng Nghymru, ein bod yn wynebu mwy o doriadau i'n cyllidebau wrth iddynt barhau i leihau'r effaith ar ein lles, ar ein pobl agored i niwed, ar ein cymdeithas. Cawsom ein hatgoffa gan yr Ysgrifennydd cyllid yr wythnos diwethaf, mewn ymateb i gwestiwn ar godiadau yn y dreth gyngor yng Nghymru, fod yr wyth mlynedd o gyni yn y gwasanaethau cyhoeddus yn achosi heriau mawr i awdurdodau lleol wrth iddynt geisio cyflawni gwaith hanfodol yn ein cymunedau. Fe ddyfynnaf y cyhoeddiad 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol', lle mae'n dweud na fydd llwyddiant yn cael ei gyflawni
'heb gynnwys cymunedau yn y gwaith' o gynllunio a chyflawni'r gwaith arfaethedig. Rwy'n cytuno'n llwyr â hynny, Ysgrifennydd y Cabinet, ond mae'n bwysig fod lleisiau fy etholwyr yn cael eu clywed yn uchel ac yn glir yn y broses honno, ac mae angen inni ei gael yn iawn. Ceir nifer o feysydd allweddol sy'n rhaid eu blaenoriaethu. Rhaid inni edrych tua'r dyfodol, gan gofio ein gorffennol diwydiannol cyfoethog, harneisio'r ysbryd i gyflawni newid cymdeithasol sy'n clymu cymunedau at ei gilydd ac sy'n galluogi pobl ifanc i ffynnu. Drwy'r holl waith a'r newid hwn, rhaid inni hefyd sicrhau bod yr egwyddorion sydd wedi'u hymgorffori yn ein Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol yn sail i'n gweithredoedd.
Rydym yn gwybod bod llywodraeth leol yn cynnal baich agenda cyni Llywodraeth y DU. Nawr, y llynedd, canfu adroddiad Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2025 fod gweithgaredd, gan gynnwys trafnidiaeth, diogelwch, diwylliant, llyfrgelloedd, gwasanaethau amgylcheddol, wedi cynnal pwysau gostyngiadau yn y gyllideb, y gwelir toriad o hyd at 40 y cant ynddi. Mae trafnidiaeth gyhoeddus yn aml yn anodd ei chynnal. Mae gwell cysylltedd ledled de Cymru yn hanfodol, ac mae'n rhaid inni sicrhau bod y gwelliannau hyn yn galluogi mwy o gapasiti a chynyddu amlder teithio. Rwy'n falch iawn fod y tasglu'n edrych yn eang ar draws y Cymoedd, wrth iddo roi cyfle go iawn inni greu system drafnidiaeth a fydd o fudd i'r bobl sy'n byw ac yn gweithio yn y Cymoedd—er hynny, yng Nghwm Afan, darpariaeth gyfyngedig iawn a geir ar y hyn o bryd, felly mae llawer o waith i'w wneud o hyd. Pan fyddwn yn ystyried gwelliannau i'n rhwydweithiau trafnidiaeth yn y Cymoedd, rhaid inni bwysleisio pwysigrwydd cysylltu'r rhai sydd bellaf o'r farchnad lafur yn well yn ffisegol â swyddi da ledled de Cymru, er y byddai dod â'r swyddi hyn yn nes at y cymunedau yn well byth.
Mae llawer o gymunedau'r Cymoedd wedi eu hynysu oddi wrth y cyfleoedd cyflogaeth sy'n bodoli ar draws de Cymru, ac i'n pobl ifanc, nid yw hyn yn ddigon da. A phan soniwn am swyddi gwell yn nes at adref, nid lefel gynyddol o gyfleoedd cyflogaeth yn y sector cyhoeddus yn unig ddylai'r ateb fod i'r weledigaeth hon. Er bod y rolau hyn yn bwysig ac yn aml yn gwasanaethu'r gymuned leol drwy ddarparu gwasanaethau hollbwysig, ceir rôl allweddol hefyd i'r sector preifat adeiladu buddsoddiad a chynnig cyfleoedd newydd ar draws ein rhanbarth, ac rydym am weld cymuned y Cymoedd sy'n gallu gwneud y gorau o'r sgiliau a'r cyfleoedd sy'n bodoli o'r tu mewn. Er enghraifft, gartref yn fy etholaeth i, mae gennym gynnig cyrchfan Cwm Afan, a fydd yn gwneud defnydd o'n tirwedd naturiol unigryw i ddatblygu'r hyn a fydd, gobeithio, yn lleoliad poblogaidd sy'n darparu cyfleoedd cyflogaeth i bobl yn yr ardal, ac i hybu twristiaeth nid yn unig yn fy nghwm i, ond ar draws y Cymoedd, oherwydd y gwasanaethau eraill a'r gweithgareddau eraill a fydd ar gael mewn mannau eraill a gerllaw. Bydd yn adeiladu ar y Cymoedd fel lle ar gyfer hamdden, twristiaeth a buddsoddiad ehangach yn y sector cyhoeddus.
Mae dod â swyddi newydd i bobl yn hollbwysig, ond rhaid inni hefyd edrych ar yr agenda sgiliau, sy'n bwysig iawn, oherwydd, wrth inni siarad am swyddi a chyfleoedd newydd, rhaid inni fanteisio i'r eithaf hefyd ar yr economi sylfaenol. Mae angen set o sgiliau arnom. Nawr, mae yna brinder sgiliau, rydym yn cydnabod hynny, a rhaid inni wella hynny er mwyn denu busnesau i'r Cymoedd. Mae'r partneriaethau sgiliau rhanbarthol yn gweithio i ddadansoddi'r heriau economaidd a nodi'r meysydd twf lle mae bylchau sgiliau'n bodoli yn y gweithlu, ac mae hynny'n galw am ymagwedd gydweithredol gan ddarparwyr hyfforddiant drwodd i fusnesau, i sicrhau y bydd y genhedlaeth nesaf yn dysgu sgiliau yn y dyfodol. Mae'n bwysig fod datblygu sgiliau'n dechrau yn ein hysgolion, ac os ydym i gael polisi cadarn ar gyfer ein Cymoedd, rhaid inni sicrhau y cyflawnir yr anghenion addysgol o'u mewn, gan sicrhau bod yr agwedd hanfodol hon ar gydlyniant cymdeithasol yn parhau i fod yn ganolog i'r cymunedau hynny ac na chaiff ei gweld yn cael ei throsglwyddo i ardaloedd eraill gan amddifadu ein cymunedau yn y Cymoedd unwaith eto o elfen hanfodol o'r gwead cymdeithasol hwnnw. Er enghraifft—a byddech yn disgwyl i mi ddweud hyn—mae'r cynigion presennol yng Nghwm Afan i gau'r ysgol uwchradd leol, Cymer Afan, a throsglwyddo'r disgyblion i ysgol newydd y tu allan i'r cwm bellach wedi cynnau marwydos y tân a oedd yn bodoli o'r blaen yng nghymunedau'r cwm, a bellach mae wedi tanio'n goelcerth gynyddol, ac wedi ein hatgoffa am y rôl y mae'r ysgol yn ei chwarae yn y cydlyniant cymdeithasol ar draws y cwm. Mae'r enghraifft ddiweddaraf hon o'r posibilrwydd o golli gwasanaeth cyhoeddus—a gwasanaeth cyhoeddus ydyw—ar ben colli gwasanaethau cyhoeddus eraill, yn atgyfnerthu'r effaith y mae cyni yn ei chael yn y cymunedau hynny. Mae'n ddyletswydd ar Lywodraeth Cymru i warchod y gwead cymdeithasol sydd bellach wedi treulio, a gweithredu'n unol â deddfwriaeth llesiant cenedlaethau'r dyfodol i gryfhau hyd yn oed yr angen sylfaenol hwn mewn cwm, ac i ailbwysleisio'r cydlyniant sydd wedi bodoli o fewn y cymunedau hynny. Rhaid iddynt beidio â theimlo eu bod wedi'u hamddifadu a'u gadael ar ôl mwyach.
Wrth gloi'r ddadl fer hon, hoffwn ailadrodd fy mhwyntiau allweddol ynglŷn â gwrando ar ein cymunedau, a chyflawni cynllun sy'n darparu'r hyn y maent ei eisiau a'i angen ar gyfer ein Cymoedd. Rwy'n cydnabod bod yr her hon wedi'i gwneud hyd yn oed yn fwy anodd oherwydd yr agenda o gyni dan arweiniad Llywodraeth Dorïaidd ddigydymdeimlad yn y DU, ac effaith yr wyth mlynedd hynny o gyni ar y modd y darparwn ein gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Mae'n golygu bod llai o arian ar gael i gefnogi'r cymunedau sydd gymaint o angen y cymorth hwnnw, ac sydd ymhlith ein cymunedau mwyaf agored i niwed. Ond ar gyfer llunwyr polisi yma yn y Cynulliad Cenedlaethol, er gwaethaf y cyfyngiadau ariannol hyn sy'n deillio o ideoleg cyni, mae angen inni gydnabod yr ysbryd hwnnw, yr ymasiad cymdeithasol hwnnw, sydd wedi gludo cymunedau'r Cymoedd at ei gilydd. Mae angen inni wneud yn siŵr fod hynny'n parhau i ffynnu. Rhaid inni harneisio'r ynni a'r brwdfrydedd i weithio gyda phobl er mwyn adeiladu dyfodol lle mae lles a chyfle i'r rhai sy'n byw ac yn gweithio yn y Cymoedd yn rhywbeth i bawb.
Mae gan yr hyn sydd wedi dod yn gymunedau ynysig, sy'n ffisegol ac yn economaidd agored i newidiadau yn y tirlun gwleidyddol, botensial erbyn hyn i ddod yn rhan o weledigaeth ehangach ar gyfer Cymru, a de Cymru'n benodol, tra'n cadw eu hysbryd a'u gwytnwch cymunedol diysgog. Ysgrifennydd y Cabinet, mae'n bwysig ein bod yn manteisio ar y cyfle hwnnw yn awr.
Ddirprwy Lywydd, credaf fod Dai Rees wedi dweud y cyfan. Mae'r difrod a achosir drwy gyni i wead cymdeithasol ein cymunedau yn niweidio pawb ohonom. Rwyf wedi hen flino ar glywed lleisiau Torïaidd yn y Siambr hon yn galw ar Lywodraeth Cymru i fuddsoddi mwy yn ein gwasanaethau, ac eto nid ydym byth yn clywed yr un lleisiau'n mynegi unrhyw gondemniad o'r £1 biliwn neu fwy y mae eu Llywodraeth wedi'i dorri o'n cyllideb. Ni chlywn unrhyw ddatganiadau o ddicter ynghylch y biliynau—ie, biliynau—sydd i'w golli drwy doriadau lles.
Ac wrth i ni sôn am gyni, gadewch i ni gofio mai dewis gwleidyddol ydyw, a'r hyn y mae cyni'n ei olygu yw 'toriadau Torïaidd'—toriadau Torïaidd i gymunedau'r Cymoedd, toriadau Torïaidd sy'n niweidio dyfodol ein plant, toriadau Torïaidd sy'n taro'r bobl fwyaf agored i niwed, toriadau Torïaidd i wasanaethau cyhoeddus sy'n gwbl ganolog i les cymaint o gymunedau'r Cymoedd. A dyna'r rhesymau pam y safaf ochr yn ochr â Dai Rees a fy holl gyd-Aelodau Llafur Cymru yma ac yn San Steffan i ddadlau fod yna ffordd well—ffordd well o adeiladu cymuned ar gyfer y mwyafrif ac nid y lleiafrif, ffordd well o adeiladu cymuned sy'n credu mewn gwasanaethau cyhoeddus a buddsoddi yn y seilwaith y mae pawb ohonom ei angen i ddod â ffyniant a chydlyniant yn ôl i'n Cymoedd.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus i ymateb i'r ddadl? Alun Davies.
Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Mae'n bleser gennyf ymateb i'r ddadl, a hynny mewn llawer o ffyrdd gwahanol. Dechreuodd David Rees ei gyfraniad drwy ddisgrifio hanes cymdeithasol ac economaidd cymunedau'r Cymoedd, a chredaf mai camgymeriad a wneir yn eithaf aml yw gweld y Cymoedd fel un cyfanrwydd unffurf, er bod pob un ohonom yma sy'n cynrychioli etholaethau yn y Cymoedd yn gwybod mewn gwirionedd fod pob un o'r etholaethau hynny a phob un o'r cymunedau hynny yn rhannu diwylliant tebyg iawn, ond yn bwysig ynddynt eu hunain ac yn meddu ar eu hanghenion eu hunain a gydnabyddir ac a nodir gennym. Gwn mai'r Dirprwy Lywydd yw llais y Rhyl yn y lle hwn, ac mae hi'n cydnabod pwysigrwydd cymunedau, a chyhyd â bod gennym lais y Rhyl dros ein trafodion, fe wyddom y bydd pwysigrwydd cymunedau bob amser yn rhan bwysig o'n trafodaethau yma.
Mewn llawer o ffyrdd, mae'r cyfraniad y mae'r Aelod dros Aberafan wedi'i gyflwyno i'r Siambr y prynhawn yma yn ddisgrifiad o'r Gymru fodern. Gadawodd fy nheulu ganolbarth Cymru—ardal Aberystwyth—i weithio ym meysydd glo Tredegar a oedd yn tyfu. Gwnaeth miloedd lawer y daith honno a chreu diwylliant y gellir ei adnabod fel diwylliant Cymreig ac sy'n cael ei gydnabod ar hyd a lled y byd fel rhywbeth y mae iddo le unigryw yng Nghymoedd de Cymru. Ac mae gennym gyfrifoldeb unigryw i sicrhau bod y cymunedau hynny'n parhau i fod yn ffocws y trafodaethau yma, ac mae'r diwylliant, yr hunaniaeth a'r gymuned yn gwbl ganolog i hynny. Ymunodd yr Aelod dros Islwyn â'r ddadl y prynhawn yma a gwn ei bod hi'n gyson yn sôn am bwysigrwydd ein cerddoriaeth a'n treftadaeth a'n gweithgareddau cerddorol yn y Cymoedd a chymunedau'r Cymoedd. Dyna rywbeth yr wyf fi'n ei rannu hefyd, ac mae'n rhywbeth y gobeithiaf y bydd pawb ohonom yn gallu canolbwyntio arno.
Un o'r materion sy'n rhaid i mi roi sylw iddo yn nes ymlaen heno yw edrych ar Ferthyr a tharddle'r chwyldro diwydiannol. Gwyn Alf Williams, rwy'n credu, a siaradodd am y bwa tân o Flaenafon i Ferthyr a greodd y byd modern. Rydym yn dal i fyw yn y byd hwnnw, wrth gwrs, ac mae'r byd hwnnw, heddiw, yn wynebu heriau nad yw wedi'u creu ei hun ac nad yw'r bobl sy'n byw yno a'r bobl sy'n gweithio yno wedi'u creu, ond newidiadau ydynt sydd wedi'u gorfodi ar y bobl hynny gan bobl o'r tu allan a chan bobl nad ydynt yn poeni fawr ddim am y cymunedau hynny.
Mae'r pwyntiau a wnaeth yr Aelod dros Ferthyr am gyni yn rhai da ac yn rhai cyfarwydd iawn. Pan feddyliaf am y gymuned rwy'n ei chynrychioli yng Nghymoedd de Cymru, rwy'n teimlo'n gryf iawn ein bod ni a hwythau, gyda'n gilydd, ar reng flaen cyni. Bydd llawer o'r Aelodau ar bob ochr i'r Siambr yn sôn weithiau mewn modd eithaf academaidd am yr economi a macroeconomi ehangach Cymru, y Deyrnas Unedig a gweddill Ewrop. Ond i bobl yn y Cymoedd, maent yn gweld realiti cyni; sut y gall cyni effeithio ar gymuned, sut y gall atal y gymuned honno rhag gallu gwneud ei ffordd yn y byd a sut y gall atal pobl rhag cyflawni'r hyn y byddai pawb ohonom yn disgwyl ei weld a'i eisiau i'n teuluoedd. Cost ddynol real cyni yw'r hyn a welwn yn y Cymoedd ar hyn o bryd yn fy marn i. Ond rydym hefyd yn gweld canlyniad degawdau lawer o ddirywiad. Nid oedd y problemau sy'n ein hwynebu yn y Cymoedd yn broblemau a grëwyd gan y chwalfa ariannol yn 2008 neu 2009. Nid creadigaeth yr unfed ganrif ar hugain oeddent. Ond rydym yn cydnabod, drwy'r rhan fwyaf o'r ugeinfed ganrif, na welsom lwyddiant economaidd yng Nghymoedd de Cymru; ni welsom y buddsoddiad yr oedd ei angen arnom er mwyn symud o economi a gâi ei dominyddu gan y diwydiannau trwm a ddisgrifiwyd gan yr Aelod dros Aberafan.
Yr hyn rwyf am ei weld a'r hyn rydym am ei weld gyda'n gilydd, gobeithio, yw chwistrelliad o fuddsoddiad yn y cymunedau hyn, ond mae'n fwy na hynny—rydym eisiau creu dadeni yng nghymunedau'r Cymoedd. A gobeithio bod y gwaith a wnawn—. Mae Aelodau eisoes wedi cyfeirio at waith tasglu'r Cymoedd. Dyna gynllun, nid ar gyfer y Cymoedd, ond cynllun o'r Cymoedd, a ysgrifennwyd yn y Cymoedd a'i siarad gan leisiau o'r Cymoedd. Rydym wedi treulio ac wedi buddsoddi llawer o amser yn siarad ac yn gwrando ar yr hyn sydd gan bobl i'w ddweud o bob rhan o'r Cymoedd, oherwydd un o'r problemau a wynebwn—. Ymunodd y Cwnsler Cyffredinol â ni ar gyfer yr areithiau agoriadol yma. Nawr, mae gan y cymunedau y mae'n eu cynrychioli yn yr ardal y buaswn i'n ei ystyried fel y Cymoedd gorllewinol—cwm Nedd a mannau eraill—mae ganddynt ddisgwyliadau gwahanol i'r rheini ohonom yng Nghymoedd Sir Fynwy a Chymoedd Gwent. Mae'n bwysig ein bod yn cydnabod safbwynt pawb yn y lleoedd hynny. Mae yna broblemau sy'n gyffredin i'r holl leoedd hynny, ac mae'r Aelodau eisoes wedi cyfeirio at broblemau lleol yn ymwneud â thrafnidiaeth leol a dyfodol canol ein trefi—maent yn gwbl hanfodol i ni ac i'r hyn rydym am ei wneud.
Ond yn fwy na dim, rydym eisiau gallu buddsoddi yn yr economi a chael model economaidd cynaliadwy a fydd yn cynnal cymunedau. Nid darparu parciau diwydiannol ac ystadau diwydiannol ac ystadau tai mewn cymunedau yn y Cymoedd yw fy unig ddiben na fy unig ddymuniad. Yr hyn rwyf am ei wneud a'r hyn y credaf y mae pawb ohonom am ei wneud yw sicrhau ein bod yn gallu creu sylfaen economaidd gynaliadwy ar gyfer cymunedau yn y Cymoedd. Ac mae'r cysylltiad â phwy ydym ni, fe gredaf, yn gwbl hanfodol. Cawsom drafodaeth yn gynharach gyda'r Aelod dros Sir Fynwy, Nick Ramsay, a oedd yn sôn am ei ran ef o'r byd, ond i mi, yn tyfu i fyny yn Nhredegar, roedd y rhan honno o'r wlad bron fel iard chwarae i mi. Byddwn yn beicio o Dredegar i'r parc cenedlaethol, dros Drefil ac i lawr i Dal-y-bont, i Langynidr, drosodd i'r Fenni a mannau eraill. Gwelem ein hunain fel rhan o gymuned ehangach. Nid cymuned lofaol y Cymoedd yn unig oedd hi, ond cymuned a oedd yn gysylltiedig â lleoedd eraill, ac un o'r pethau rwy'n gobeithio y gallwn ei wneud fel rhan o'r gwaith hwn yn y Cymoedd yw ailgysylltu ein hunain â'r dreftadaeth honno a'r hanes a'r ymdeimlad hwnnw o le.
Mae un o'r llyfrau rwy'n ei ddarllen ar hyn o bryd yn sôn am y teithiau cerdded hir hynny sydd gennym yn cysylltu rhai o'r safleoedd crefyddol, safleoedd pererindod, yng nghymunedau'r Cymoedd o Benrhys drosodd i Dyddewi, ond rwy'n gobeithio y gallwn ailgyflwyno, os hoffech chi, neu ddod o hyd i ffordd o ddysgu a'n galluogi i werthfawrogi'r hanes a'r dreftadaeth a roddodd fywyd i'r lleoedd rydym yn byw ynddynt heddiw, a sicrhau ar yr un pryd ein bod yn gallu edrych eto a buddsoddi yn ein sylfeini economaidd. Rwyf am allu darparu polisi diwydiannol, strategaeth ddiwydiannol, Ddirprwy Lywydd, ar gyfer Cymoedd de Cymru i geisio sicrhau bod gennym yr ansawdd bywyd yr ydym yn dymuno ei gael, ond mae angen mesur yr ansawdd bywyd hwnnw mewn mwy na ffigurau cynnyrch domestig gros yn unig. Ansawdd bywyd sy'n adlewyrchu ein treftadaeth gyfoethog a phwy ydym a phwy y dymunwn fod.
Rydym yn cyflawni nifer o ymyriadau, o'r cynllun cyflenwi cyflogadwyedd i'r cynllun gweithredu economaidd. Cynhelir nifer o seminarau. Roeddwn yn falch iawn fod yr Aelod dros Ferthyr wedi gallu ymuno â ni ar gyfer seminar, chwe wythnos yn ôl rwy'n credu, ym Merthyr, i edrych ar sut y gallwn gynyddu effaith gwaith deuoli'r A465, ffordd Blaenau'r Cymoedd, i'n galluogi i sicrhau'r effaith fwyaf ac i ysgogi gweithgarwch economaidd yn y rhan honno o'r byd. Gwn hefyd fod yr Aelod dros Aberafan sydd wedi rhoi'r ddadl y prynhawn yma eisiau sicrhau, ac angen sicrhau, ein bod yn gallu buddsoddi yn y Cymoedd y mae'n eu cynrychioli uwchben Port Talbot, a manteisio i'r eithaf ar effaith buddsoddiadau a wneir yno. Nid wyf am dderbyn ei wahoddiad i fentro i'r anghydfod ar leoliad yr ysgol yn ei etholaeth. Mae hynny y tu hwnt i fy ngraddfa gyflog a thu hwnt i fy ngallu y prynhawn yma mewn dadl fer. Cefais fy nhemtio o'r blaen, fel y gwyddoch, Ddirprwy Lywydd, ac mae hynny bob amser wedi arwain at helynt. Nid wyf am ildio i'r demtasiwn y prynhawn yma.
Ond yr hyn a wnaf yw rhoi ymrwymiad llwyr i chi a'r Aelodau fod hon yn Llywodraeth sydd wedi ei gwreiddio yng Nghymoedd de Cymru—nid ar draul cymunedau eraill, ond rydym yn cydnabod bod y Cymoedd yn wynebu problemau penodol a materion penodol, ac rydym yn cydnabod bod hynny'n galw am atebion penodol, atebion na ellir dod o hyd iddynt ar Google neu yn y llyfrgell, ond atebion a geir ym meddyliau a dychymyg ac uchelgeisiau'r bobl: y rhai ohonom sy'n cynrychioli'r Cymoedd, a aned yn y Cymoedd, sy'n byw yn y Cymoedd, a phobl y Cymoedd. Oherwydd gyda'n gilydd, credaf y gallwn hybu newid go iawn, gallwn arwain newid. Rwyf am fuddsoddi yn ein hawdurdodau lleol, ac rwyf am i'n hawdurdodau lleol arwain y newid hwnnw yn ogystal. Felly, gan weithio gyda'n gilydd gallwn greu cymunedau yng Nghymoedd de Cymru y byddwn yn falch o fyw ynddynt, ac yn falch o'u trosglwyddo i genedlaethau'r dyfodol. Diolch yn fawr iawn.
Diolch yn fawr iawn. Daw hynny â thrafodion heddiw i ben.