Part of the debate – Senedd Cymru am 7:20 pm ar 25 Ebrill 2018.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n sylweddoli ei bod wedi bod yn ddiwrnod hir, ond credaf ei fod yn faes pwysig i'w drafod a chroesawaf y cyfle i gyflwyno'r ddadl fer ar wead cymdeithasol a lles cymunedau'r Cymoedd yn y dyfodol. Hoffwn hysbysu'r Senedd fy mod wedi rhoi amser i Dawn Bowden gyfrannu at y ddadl hon.
Yn y ddadl fer hon, rwyf am fynd i'r afael ag agweddau ar gymunedau'r Cymoedd sy'n dylanwadu ar les cymdeithasol a chydlyniant y rhai sy'n byw yno a sut y mae'r ffactorau hyn wedi newid tirwedd wleidyddol ac economaidd y Cymoedd. Byddaf hefyd yn ystyried y dylanwad y mae polisïau Llywodraeth Cymru wedi'u cael, ac y gallent eu cael ar y cymunedau hynny yn ogystal â mynd i'r afael ag effaith agenda cyni ddiangen Llywodraeth y DU.
I ddeall beth a olygir wrth 'wead cymdeithasol', mae'n ddefnyddiol myfyrio efallai ar hanes unigryw'r Cymoedd a'i gymharu â lle rydym heddiw. Mae gan Gymru dreftadaeth falch o orffennol diwydiannol, sydd wedi siapio ein hanes a diffinio ein tirwedd. Wrth wraidd ein treftadaeth ddiwydiannol, mae cymunedau'r Cymoedd, sydd, fel y gwyddom, wedi'u dylanwadu'n fawr gan y diwydiannau glo a metel. Roedd y rhain yn gymunedau integredig iawn, a ddibynnai'n helaeth ar ei gilydd am gymorth a dyma lle y digwyddai llawer o'r gweithgareddau cymdeithasol a chyhoeddus. Ac o ganlyniad, ni ellid anwybyddu cryfder y parch a'r ysbryd a oedd yn amlwg yn y cymunedau hyn. Roedd y rhyngweithio cymdeithasol a'r ddealltwriaeth rhwng y rheini a oedd yn byw yn y Cymoedd yn ffurfio gwead cymdeithasol cryf, a rwymai'r cymunedau hyn ynghyd.
Ers dad-ddiwydiannu'r cymunedau hyn yn ail hanner yr ugeinfed ganrif, cafwyd llawer o heriau a ddogfennwyd yn dda yn ymwneud â chyfleoedd cyflogaeth, trafnidiaeth a seilwaith, yn ogystal ag anghydraddoldebau ar draws iechyd, lles ac addysg. Er bod yr heriau hyn yn bodoli ac na ddylid eu hanwybyddu, nid ydynt yn diffinio'r Cymoedd. Mae'r ymdeimlad cryf o ddiwylliant a chymuned yn parhau. Fodd bynnag, mae hynny bellach mewn perygl. Yr her i Lywodraeth Cymru yw nid yn unig buddsoddi ymhellach yn y Cymoedd, ond gweithio'n agos hefyd gyda'r cymunedau hyn i sicrhau bod lleisiau'n cael eu clywed a bod pobl wedi eu grymuso i gymryd yr awenau ar benderfyniadau polisi allweddol y Llywodraeth sy'n ymwneud â'r rhyngweithio cymdeithasol a'r gymuned sy'n byw yn y Cymoedd ac yn dylanwadu arno.
Roedd cyflogaeth ar y cyd mewn cymunedau glofaol yn rhwymo'r Cymoedd gyda'i gilydd ar un adeg, ond rydym bellach yn wynebu tirlun economaidd newydd. O ganlyniad, mae nifer o heriau wedi codi. Yn y gorffennol, roedd Cymoedd ffyniannus, diwydiannol a thynn yn cynnal hunaniaeth ddiwylliannol, ddeinamig wrth i gyfranogiad cymunedol o amgylch cyflogaeth ar y cyd ddylanwadu ar gydlyniant cymdeithasol yr ardal. Nid y cymunedau hyn a oedd yn gyfrifol am eu dirywiad economaidd eu hunain, a rhaid i'r ymateb atgyfnerthu'r ymdeimlad hwn o hunaniaeth a diwylliant cymuned. Mae hanes a threftadaeth y Cymoedd, ynghyd â diwylliant a'r celfyddydau, yn elfennau hanfodol o gymunedau glofaol, a'r pethau hyn sy'n cynyddu brwdfrydedd a chefnogaeth i newid, gan gynnal y cydlyniant cymdeithasol amhrisiadwy.
Bob dydd, gwelaf y potensial am fwy o lwyddiant a ffyniant yn fy etholaeth fy hun. Fodd bynnag, rhaid imi grybwyll y pwynt pwysig hwn, oherwydd, er gwaethaf y weledigaeth a'r buddsoddiad a wneir yn y Cymoedd gan Lywodraeth Cymru, ac rwy'n ei groesawu i gyd, Ysgrifennydd y Cabinet—felly, gallwch gofnodi hynny yn awr—ni allwn osgoi'r ffaith fod y gwaith cadarnhaol hwn yn cael ei wneud yn erbyn cefndir agenda o gyni Llywodraeth Dorïaidd y DU. Mae'r wyth mlynedd diwethaf o gyni wedi cael effaith anochel ar gyllidebau gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, a bob blwyddyn a aeth heibio, mae llai o arian ar gael i'w fuddsoddi mewn gwasanaethau lleol hanfodol anstatudol. Mae ein cynghorau'n wynebu mwy o gyfyngiadau ariannol nag erioed oherwydd bod toriadau cyni San Steffan yn cael eu trosglwyddo iddynt hwy, a bellach mae'r toriadau hynny'n bygwth gwasanaethau statudol. Gan fod toriadau gwariant San Steffan i les a gwasanaethau cyhoeddus yn difrodi ein gwasanaethau cyhoeddus, mae'n hanfodol ein bod yn parhau i ddod o hyd i atebion i helpu ein pobl ifanc i gael gwaith, i helpu'r rhai sy'n agored i niwed yn ein cymunedau ac i gysylltu ein Cymoedd yn well â'r trefi a'r dinasoedd ledled Cymru.
Ers sefydlu'r Cynulliad, darparodd Llywodraeth Cymru gryn dipyn o gymorth ar gyfer Cymoedd Cymru. Mae'n hanfodol edrych ar effeithiolrwydd y rhaglenni hyn wrth inni edrych ymlaen at yr hyn sydd i ddod ar gyfer yr ardaloedd hyn.