Part of the debate – Senedd Cymru am 7:25 pm ar 25 Ebrill 2018.
Mae Cymunedau yn Gyntaf bellach yn dod i ben, ac yn fy nghwm penodol i, Cwm Afan, mae wedi dylanwadu'n gadarnhaol ar nifer o unigolion, grwpiau cymunedol a'u cymdogaethau, yn ogystal ag mewn lleoliadau eraill ar draws Cymru rwy'n ymwybodol ohonynt. Dyna un raglen roeddem yn gwbl gefnogol iddi, ac roedd yn brosiect blaenllaw i Lywodraeth Cymru am flynyddoedd lawer. Mae tasglu'r Cymoedd a chyhoeddi 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol' wedi nodi nifer o flaenoriaethau allweddol i gefnogi swyddi a sgiliau o ansawdd da, mwy o wasanaethau cyhoeddus a chymunedau lleol. Nawr, mae'r grŵp hwn o arbenigwyr yn cynrychioli sectorau allweddol ar draws y Cymoedd, ac mae'r gwaith hwn yn seiliedig ar ymgysylltiad parhaus â'r cymunedau. Rwyf am weld hyn yn parhau, er mwyn sicrhau bod lleisiau'r Cymoedd yn siapio'r ffordd y mae'r tasglu hwn yn parhau i weithredu, er nad yw eto'n cynnwys y Cymoedd i gyd ar hyn o bryd; mae'n dal i fod yn gyfyngedig o ran pwy mae'n ei gael.
Nawr, mae'r weledigaeth hon yn bwysicach nag erioed, yn enwedig o ystyried penderfyniad Llywodraeth y DU i fwrw ymlaen â'i pholisi cyni diffygiol, sy'n golygu, yma yng Nghymru, ein bod yn wynebu mwy o doriadau i'n cyllidebau wrth iddynt barhau i leihau'r effaith ar ein lles, ar ein pobl agored i niwed, ar ein cymdeithas. Cawsom ein hatgoffa gan yr Ysgrifennydd cyllid yr wythnos diwethaf, mewn ymateb i gwestiwn ar godiadau yn y dreth gyngor yng Nghymru, fod yr wyth mlynedd o gyni yn y gwasanaethau cyhoeddus yn achosi heriau mawr i awdurdodau lleol wrth iddynt geisio cyflawni gwaith hanfodol yn ein cymunedau. Fe ddyfynnaf y cyhoeddiad 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol', lle mae'n dweud na fydd llwyddiant yn cael ei gyflawni
'heb gynnwys cymunedau yn y gwaith' o gynllunio a chyflawni'r gwaith arfaethedig. Rwy'n cytuno'n llwyr â hynny, Ysgrifennydd y Cabinet, ond mae'n bwysig fod lleisiau fy etholwyr yn cael eu clywed yn uchel ac yn glir yn y broses honno, ac mae angen inni ei gael yn iawn. Ceir nifer o feysydd allweddol sy'n rhaid eu blaenoriaethu. Rhaid inni edrych tua'r dyfodol, gan gofio ein gorffennol diwydiannol cyfoethog, harneisio'r ysbryd i gyflawni newid cymdeithasol sy'n clymu cymunedau at ei gilydd ac sy'n galluogi pobl ifanc i ffynnu. Drwy'r holl waith a'r newid hwn, rhaid inni hefyd sicrhau bod yr egwyddorion sydd wedi'u hymgorffori yn ein Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol yn sail i'n gweithredoedd.
Rydym yn gwybod bod llywodraeth leol yn cynnal baich agenda cyni Llywodraeth y DU. Nawr, y llynedd, canfu adroddiad Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru 2025 fod gweithgaredd, gan gynnwys trafnidiaeth, diogelwch, diwylliant, llyfrgelloedd, gwasanaethau amgylcheddol, wedi cynnal pwysau gostyngiadau yn y gyllideb, y gwelir toriad o hyd at 40 y cant ynddi. Mae trafnidiaeth gyhoeddus yn aml yn anodd ei chynnal. Mae gwell cysylltedd ledled de Cymru yn hanfodol, ac mae'n rhaid inni sicrhau bod y gwelliannau hyn yn galluogi mwy o gapasiti a chynyddu amlder teithio. Rwy'n falch iawn fod y tasglu'n edrych yn eang ar draws y Cymoedd, wrth iddo roi cyfle go iawn inni greu system drafnidiaeth a fydd o fudd i'r bobl sy'n byw ac yn gweithio yn y Cymoedd—er hynny, yng Nghwm Afan, darpariaeth gyfyngedig iawn a geir ar y hyn o bryd, felly mae llawer o waith i'w wneud o hyd. Pan fyddwn yn ystyried gwelliannau i'n rhwydweithiau trafnidiaeth yn y Cymoedd, rhaid inni bwysleisio pwysigrwydd cysylltu'r rhai sydd bellaf o'r farchnad lafur yn well yn ffisegol â swyddi da ledled de Cymru, er y byddai dod â'r swyddi hyn yn nes at y cymunedau yn well byth.
Mae llawer o gymunedau'r Cymoedd wedi eu hynysu oddi wrth y cyfleoedd cyflogaeth sy'n bodoli ar draws de Cymru, ac i'n pobl ifanc, nid yw hyn yn ddigon da. A phan soniwn am swyddi gwell yn nes at adref, nid lefel gynyddol o gyfleoedd cyflogaeth yn y sector cyhoeddus yn unig ddylai'r ateb fod i'r weledigaeth hon. Er bod y rolau hyn yn bwysig ac yn aml yn gwasanaethu'r gymuned leol drwy ddarparu gwasanaethau hollbwysig, ceir rôl allweddol hefyd i'r sector preifat adeiladu buddsoddiad a chynnig cyfleoedd newydd ar draws ein rhanbarth, ac rydym am weld cymuned y Cymoedd sy'n gallu gwneud y gorau o'r sgiliau a'r cyfleoedd sy'n bodoli o'r tu mewn. Er enghraifft, gartref yn fy etholaeth i, mae gennym gynnig cyrchfan Cwm Afan, a fydd yn gwneud defnydd o'n tirwedd naturiol unigryw i ddatblygu'r hyn a fydd, gobeithio, yn lleoliad poblogaidd sy'n darparu cyfleoedd cyflogaeth i bobl yn yr ardal, ac i hybu twristiaeth nid yn unig yn fy nghwm i, ond ar draws y Cymoedd, oherwydd y gwasanaethau eraill a'r gweithgareddau eraill a fydd ar gael mewn mannau eraill a gerllaw. Bydd yn adeiladu ar y Cymoedd fel lle ar gyfer hamdden, twristiaeth a buddsoddiad ehangach yn y sector cyhoeddus.
Mae dod â swyddi newydd i bobl yn hollbwysig, ond rhaid inni hefyd edrych ar yr agenda sgiliau, sy'n bwysig iawn, oherwydd, wrth inni siarad am swyddi a chyfleoedd newydd, rhaid inni fanteisio i'r eithaf hefyd ar yr economi sylfaenol. Mae angen set o sgiliau arnom. Nawr, mae yna brinder sgiliau, rydym yn cydnabod hynny, a rhaid inni wella hynny er mwyn denu busnesau i'r Cymoedd. Mae'r partneriaethau sgiliau rhanbarthol yn gweithio i ddadansoddi'r heriau economaidd a nodi'r meysydd twf lle mae bylchau sgiliau'n bodoli yn y gweithlu, ac mae hynny'n galw am ymagwedd gydweithredol gan ddarparwyr hyfforddiant drwodd i fusnesau, i sicrhau y bydd y genhedlaeth nesaf yn dysgu sgiliau yn y dyfodol. Mae'n bwysig fod datblygu sgiliau'n dechrau yn ein hysgolion, ac os ydym i gael polisi cadarn ar gyfer ein Cymoedd, rhaid inni sicrhau y cyflawnir yr anghenion addysgol o'u mewn, gan sicrhau bod yr agwedd hanfodol hon ar gydlyniant cymdeithasol yn parhau i fod yn ganolog i'r cymunedau hynny ac na chaiff ei gweld yn cael ei throsglwyddo i ardaloedd eraill gan amddifadu ein cymunedau yn y Cymoedd unwaith eto o elfen hanfodol o'r gwead cymdeithasol hwnnw. Er enghraifft—a byddech yn disgwyl i mi ddweud hyn—mae'r cynigion presennol yng Nghwm Afan i gau'r ysgol uwchradd leol, Cymer Afan, a throsglwyddo'r disgyblion i ysgol newydd y tu allan i'r cwm bellach wedi cynnau marwydos y tân a oedd yn bodoli o'r blaen yng nghymunedau'r cwm, a bellach mae wedi tanio'n goelcerth gynyddol, ac wedi ein hatgoffa am y rôl y mae'r ysgol yn ei chwarae yn y cydlyniant cymdeithasol ar draws y cwm. Mae'r enghraifft ddiweddaraf hon o'r posibilrwydd o golli gwasanaeth cyhoeddus—a gwasanaeth cyhoeddus ydyw—ar ben colli gwasanaethau cyhoeddus eraill, yn atgyfnerthu'r effaith y mae cyni yn ei chael yn y cymunedau hynny. Mae'n ddyletswydd ar Lywodraeth Cymru i warchod y gwead cymdeithasol sydd bellach wedi treulio, a gweithredu'n unol â deddfwriaeth llesiant cenedlaethau'r dyfodol i gryfhau hyd yn oed yr angen sylfaenol hwn mewn cwm, ac i ailbwysleisio'r cydlyniant sydd wedi bodoli o fewn y cymunedau hynny. Rhaid iddynt beidio â theimlo eu bod wedi'u hamddifadu a'u gadael ar ôl mwyach.
Wrth gloi'r ddadl fer hon, hoffwn ailadrodd fy mhwyntiau allweddol ynglŷn â gwrando ar ein cymunedau, a chyflawni cynllun sy'n darparu'r hyn y maent ei eisiau a'i angen ar gyfer ein Cymoedd. Rwy'n cydnabod bod yr her hon wedi'i gwneud hyd yn oed yn fwy anodd oherwydd yr agenda o gyni dan arweiniad Llywodraeth Dorïaidd ddigydymdeimlad yn y DU, ac effaith yr wyth mlynedd hynny o gyni ar y modd y darparwn ein gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Mae'n golygu bod llai o arian ar gael i gefnogi'r cymunedau sydd gymaint o angen y cymorth hwnnw, ac sydd ymhlith ein cymunedau mwyaf agored i niwed. Ond ar gyfer llunwyr polisi yma yn y Cynulliad Cenedlaethol, er gwaethaf y cyfyngiadau ariannol hyn sy'n deillio o ideoleg cyni, mae angen inni gydnabod yr ysbryd hwnnw, yr ymasiad cymdeithasol hwnnw, sydd wedi gludo cymunedau'r Cymoedd at ei gilydd. Mae angen inni wneud yn siŵr fod hynny'n parhau i ffynnu. Rhaid inni harneisio'r ynni a'r brwdfrydedd i weithio gyda phobl er mwyn adeiladu dyfodol lle mae lles a chyfle i'r rhai sy'n byw ac yn gweithio yn y Cymoedd yn rhywbeth i bawb.
Mae gan yr hyn sydd wedi dod yn gymunedau ynysig, sy'n ffisegol ac yn economaidd agored i newidiadau yn y tirlun gwleidyddol, botensial erbyn hyn i ddod yn rhan o weledigaeth ehangach ar gyfer Cymru, a de Cymru'n benodol, tra'n cadw eu hysbryd a'u gwytnwch cymunedol diysgog. Ysgrifennydd y Cabinet, mae'n bwysig ein bod yn manteisio ar y cyfle hwnnw yn awr.