Bwydo ar y Fron

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:30 pm ar 25 Ebrill 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 2:30, 25 Ebrill 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi am y cwestiwn. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd bwydo ar y fron, ac mae wedi ymrwymo i hyrwyddo a chynyddu nifer y rhai sy'n dewis bwydo ar y fron. Iechyd Cyhoeddus Cymru sy'n gyfrifol am gyflwyno'r rhaglen hon, a hwy sy'n arwain wythnos genedlaethol bwydo ar y fron, rhwng 20 a 26 Mehefin. Bydd hyn yn cynnwys ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol yn ogystal â chefnogi gweithwyr proffesiynol gyda digwyddiadau lleol, a gobeithio y bydd ACau ar draws y Siambr yn cefnogi ac yn hyrwyddo'r wythnos honno, a bwydo ar y fron yn fwy cyffredinol.