2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru ar 25 Ebrill 2018.
1. Beth y mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i hyrwyddo bwydo ar y fron? OAQ52042
Diolch i chi am y cwestiwn. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd bwydo ar y fron, ac mae wedi ymrwymo i hyrwyddo a chynyddu nifer y rhai sy'n dewis bwydo ar y fron. Iechyd Cyhoeddus Cymru sy'n gyfrifol am gyflwyno'r rhaglen hon, a hwy sy'n arwain wythnos genedlaethol bwydo ar y fron, rhwng 20 a 26 Mehefin. Bydd hyn yn cynnwys ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol yn ogystal â chefnogi gweithwyr proffesiynol gyda digwyddiadau lleol, a gobeithio y bydd ACau ar draws y Siambr yn cefnogi ac yn hyrwyddo'r wythnos honno, a bwydo ar y fron yn fwy cyffredinol.
Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae manteision bwydo ar y fron i famau a babanod wedi'u cofnodi'n helaeth. Fodd bynnag, mae'n bwysig iawn fod mamau newydd yn cael y cymorth y maent ei angen. Y llynedd, roeddwn yn falch iawn o fynychu'r uned famolaeth yn Ysbyty Brenhinol Gwent i weld Bwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan yn derbyn gwobr arbennig Cyfeillgar i Fabanod, ac i dalu teyrnged i'r bydwragedd a'r gweithwyr cymorth am eu hymrwymiad ar hyn. Yn ogystal, mae cynnydd wedi'i wneud, gyda Chyngor Dinas Casnewydd a'r bwrdd iechyd yn lansio Cynllun Croesawu Bwydo ar y Fron. Drwy arddangos logo Croesawu Bwydo ar y Fron, mae sefydliadau'n dangos y byddant yn gyfeillgar ac yn gefnogol i famau sydd eisiau bwydo ar y fron. Sut y gellir cefnogi mentrau arfer da o'r fath? A tybed a allwch roi'r newyddion diweddaraf i ni am y grŵp gorchwyl a gorffen a chynnydd y grŵp hwnnw a nodi pryd rydych yn disgwyl ei adroddiad.
Diolch i chi am eich cwestiwn. Rwy'n croesawu'r camau a wnaed gan Gasnewydd i'w gwneud yn hollol glir ein bod yn croesawu bwydo ar y fron ledled y ddinas. Mae yna fodel i bobl eraill ei ddilyn, oherwydd mae'n ymwneud ag annog mamau i fwydo ar y fron pan fyddant allan o'r cartref, ac annog pob un ohonom i fod yn gefnogol yn yr amgylchedd hwnnw yn ogystal. Sefydlais grŵp gorchwyl a gorffen i edrych ar wella cyfraddau bwydo ar y fron yng Nghymru y llynedd, yn dilyn cyfarfod gyda Choleg Brenhinol y Bydwragedd. Mae ein cyfraddau bwydo ar y fron wedi gwella dros y 10 mlynedd diwethaf—hyd at 61 y cant adeg genedigaeth—ond gwyddom ein bod (a) eisiau i'r gyfradd honno fod yn uwch, ond rydym hefyd eisiau i fwydo ar y fron barhau. Rwy'n disgwyl adroddiad y grŵp gorchwyl a gorffen, gyda'r argymhellion hynny o fewn mis ac rwy'n disgwyl y byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau, nid yn unig ar ôl derbyn yr adroddiad, ond yn dilyn ymateb y Llywodraeth i'r adroddiad hwnnw a'i hargymhellion.
Andrew R.T. Davies.
Diolch i chi, Lywydd, a byddaf yn cadw at y pwnc. Fel un sy'n cefnogi bwydo ar y fron yn frwd, gyda phedwar o blant a gafodd eu bwydo ar y fron, gallaf weld manteision hynny. Ond yn anffodus, mae llawer o famau newydd yn rhoi'r ffidl yn y to ar ôl cyfnod byr o amser ac yn nodi diffyg cymorth, neu'r canfyddiad o ddiffyg cymorth, y gallent fod wedi'i gael gan fydwraig ddynodedig, oherwydd pwysau ar wasanaethau cymunedol a gwasanaethau mamolaeth. A ydych chi, yn ystod eich cyfnod fel Ysgrifennydd iechyd, wedi nodi'r diffyg cefnogaeth hwnnw yn y gymuned, ac yn arbennig, y cyfnod o amser y gall mamau beichiog ei dreulio gyda bydwraig benodol i'w cynorthwyo i fwydo ar y fron er mwyn caniatáu iddynt barhau yn y ffordd gywir drwy'r rhan orau o fywyd y plentyn?
Rwy'n cydnabod y pwynt a wnaed ynglŷn â sut y caiff pobl gymorth ymarferol i gychwyn ac yna i barhau i fwydo ar y fron. Mae yna rywbeth ynglŷn â'r disgwyliadau ehangach ar famau eu hunain, drwy'r beichiogrwydd, yn ogystal â phartneriaid, aelodau o'r teulu a'r gymdeithas ehangach. Ac mae'r pwynt a wneir ynglŷn â phwy yw'r gweithiwr gofal iechyd proffesiynol cywir i gynorthwyo'r fam honno, i gefnogi'r teulu hwnnw, yn rhan o'r hyn rwy'n disgwyl i'r adroddiad—adroddiad y grŵp gorchwyl a gorffen—roi gwybod i mi yn ei gylch. Ac os oes angen inni feddwl eto ynglŷn â'r cymysgedd o staff sydd gennym—oherwydd efallai nad oes angen iddynt fod yn fydwraig; mae yna weithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill, gan gynnwys y rheini sy'n weithwyr gofal iechyd proffesiynol profiadol sydd, o bosibl, yn dychwelyd i'r gwaith, yn wir, fel gwirfoddolwyr. Oherwydd mae llawer o fenywod yn dweud eu bod yn ystyried grwpiau cymorth gan gymheiriaid yn effeithiol hefyd. Felly, mae yna waith ehangach rwy'n disgwyl i'r grŵp gorchwyl a gorffen ei wneud i ddeall beth sydd angen i ni ei wneud, yn staff gofal iechyd a gyflogir, gwirfoddolwyr, a'r newidiadau ehangach sydd angen i bawb ohonom helpu i'w cefnogi yn ein cymdeithas.