Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:31 pm ar 25 Ebrill 2018.
Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae manteision bwydo ar y fron i famau a babanod wedi'u cofnodi'n helaeth. Fodd bynnag, mae'n bwysig iawn fod mamau newydd yn cael y cymorth y maent ei angen. Y llynedd, roeddwn yn falch iawn o fynychu'r uned famolaeth yn Ysbyty Brenhinol Gwent i weld Bwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan yn derbyn gwobr arbennig Cyfeillgar i Fabanod, ac i dalu teyrnged i'r bydwragedd a'r gweithwyr cymorth am eu hymrwymiad ar hyn. Yn ogystal, mae cynnydd wedi'i wneud, gyda Chyngor Dinas Casnewydd a'r bwrdd iechyd yn lansio Cynllun Croesawu Bwydo ar y Fron. Drwy arddangos logo Croesawu Bwydo ar y Fron, mae sefydliadau'n dangos y byddant yn gyfeillgar ac yn gefnogol i famau sydd eisiau bwydo ar y fron. Sut y gellir cefnogi mentrau arfer da o'r fath? A tybed a allwch roi'r newyddion diweddaraf i ni am y grŵp gorchwyl a gorffen a chynnydd y grŵp hwnnw a nodi pryd rydych yn disgwyl ei adroddiad.