Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:36 pm ar 25 Ebrill 2018.
Ysgrifennydd y Cabinet, rwyf innau hefyd yn edrych ymlaen at weld cynnydd yn nifer y rhai sy'n manteisio ar y prawf sgrinio, oherwydd mae'r prawf imiwnocemegol ysgarthol newydd yn amlwg yn fwy sensitif ac yn brawf gwell. Ond mae dau beth yn codi. Rwyf hefyd yn edrych ymlaen at eich gweld yn ystyried edrych ar rai 50 i 60 oed, oherwydd nid yw'r oedran hwnnw wedi'i dderbyn, ond mae'n bosibl y bydd unigolion sydd â hanes teuluol yn gwneud hynny, ac mae'n bosibl y byddwch eisiau arbenigo ynddo. Ond mae'r mathau hynny o bethau'n golygu mwy o atgyfeiriadau, ac os ydych yn gwneud y prawf imiwnocemegol ysgarthol, sy'n fwy sensitif na'r prawf a gynigir ar hyn o bryd, bydd gennych fwy o atgyfeiriadau yn bendant ac mae gennym broblem gydag endosgopi a nyrsys a meddygon yn y maes hwnnw—mae gennym broblem gyda diagnosteg. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei wneud i fynd i'r afael â'r broblem honno fel y gallwn sicrhau, os cawn fwy o atgyfeiriadau, y byddant yn cael eu gweld yr un mor gyflym neu'n gyflymach nag ar hyn o bryd?