2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru ar 25 Ebrill 2018.
2. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am raglen Sgrinio Coluddion Cymru? OAQ52035
Diolch. Mae gennym raglen genedlaethol wedi'i sefydlu'n dda ar gyfer sgrinio coluddion y boblogaeth yng Nghymru, gyda bron i 147,000 o ddynion a menywod wedi cael eu sgrinio yn ystod 2016-17. Rydym yn chwilio'n gyson am ffyrdd i gynyddu'r niferoedd, ac yn ddiweddar, cyhoeddasom y bydd system brofi well a mwy hwylus yn cael ei chyflwyno o fis Ionawr 2019 ymlaen.
Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gwybod, yn y flwyddyn ddiweddaraf y mae ffigurau ar gael ar ei chyfer, fod nifer y rhai cymwys sydd wedi manteisio ar y prawf sgrinio wedi gostwng o 54.4 y cant i 53.4 y cant, felly gostyngiad o 1 y cant. Gobeithio na fydd hyn yn datblygu i fod yn duedd. Hefyd, ar hyn o bryd, ni chynigir prawf sgrinio i unrhyw un dros 75 oed. Ac mae gennyf etholwr sydd wedi bod yn bryderus iawn ynglŷn â hyn oherwydd ei fod wedi cymryd rhan yn y rhaglen. Maent yn cyrraedd 75 oed ac yna ni allant gael y pecynnau sgrinio, ac rwy'n credu y dylid adolygu'r elfen hon o'r rhaglen sgrinio.
Rwy'n cydnabod y pryder. Mae hyn yn rhan o'r dewis anodd a'r her wrth wneud penderfyniadau. Fel pob gwlad yn y DU, fe'n cynghorir gan Bwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU, ac mae hwnnw'n argymell sgrinio rheolaidd hyd at 74 oed. Yn ddiweddar, mae Pwyllgor Sgrinio Cymru wedi bod yn ystyried a ddylid cynnig prawf sgrinio'r coluddyn i bobl sy'n hunanatgyfeirio dros 74 oed mewn gwirionedd, ond eu hargymhelliad i ni yw nad yw'r dystiolaeth yn cefnogi gwneud hynny; nid yw'r safbwynt wedi newid. Rhan o'n her ni, fel bob amser, yw lle mae gennym yr effaith fwyaf ar iechyd, ac mae hynny'n anodd oherwydd bydd amgylchiadau unigol yn codi lle mae pobl yn dweud, 'Hoffwn pe bai dewis gwahanol yn cael ei wneud gan y system gyfan.' Rydym yn canolbwyntio ar gyflwyno'r prawf newydd a gwell i'r boblogaeth sydd gennym ar hyn o bryd, a chynyddu nifer y rhai sy'n manteisio arno mewn gwirionedd. Y newyddion cadarnhaol yw bod cynlluniau peilot y prawf newydd wedi dangos cynnydd yn nifer y rhai sy'n manteisio arno yn yr ardaloedd peilot hynny. Felly, rwy'n edrych am welliant sylweddol wrth i ni gyflwyno'r prawf newydd, ac wrth gwrs, byddwn yn parhau i gael ein harwain gan y dystiolaeth a'r cyngor gorau sydd ar gael. Ac os yw'n newid, yna byddaf yn hapus i ystyried newid y dewis y mae'r Llywodraeth a'r gwasanaeth iechyd gwladol yn ei wneud.
Ysgrifennydd y Cabinet, rwyf innau hefyd yn edrych ymlaen at weld cynnydd yn nifer y rhai sy'n manteisio ar y prawf sgrinio, oherwydd mae'r prawf imiwnocemegol ysgarthol newydd yn amlwg yn fwy sensitif ac yn brawf gwell. Ond mae dau beth yn codi. Rwyf hefyd yn edrych ymlaen at eich gweld yn ystyried edrych ar rai 50 i 60 oed, oherwydd nid yw'r oedran hwnnw wedi'i dderbyn, ond mae'n bosibl y bydd unigolion sydd â hanes teuluol yn gwneud hynny, ac mae'n bosibl y byddwch eisiau arbenigo ynddo. Ond mae'r mathau hynny o bethau'n golygu mwy o atgyfeiriadau, ac os ydych yn gwneud y prawf imiwnocemegol ysgarthol, sy'n fwy sensitif na'r prawf a gynigir ar hyn o bryd, bydd gennych fwy o atgyfeiriadau yn bendant ac mae gennym broblem gydag endosgopi a nyrsys a meddygon yn y maes hwnnw—mae gennym broblem gyda diagnosteg. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei wneud i fynd i'r afael â'r broblem honno fel y gallwn sicrhau, os cawn fwy o atgyfeiriadau, y byddant yn cael eu gweld yr un mor gyflym neu'n gyflymach nag ar hyn o bryd?
Rwy'n cydnabod y mater y mae David Rees yn ei godi mewn perthynas â'r ddau bwynt, y ffaith nad ydym yn cynnig y prawf ar gyfer pobl sydd rhwng 50 a 59 oed ar hyn o bryd—. Ac unwaith eto, mae ein huchelgais yn glir: rydym eisiau gallu gwneud hynny. Ond mewn gwirionedd, pan ydym yn gweld gostyngiad yn nifer y rhai sy'n manteisio ar y prawf sgrinio yn y boblogaeth rydym yn darparu sgrinio ar ei chyfer ar hyn o bryd, yr her yw ein bod angen gwell dealltwriaeth o sut y gallwn weithredu'r prawf hwnnw'n fwy llwyddiannus gan fod gennym uchelgais wedyn i'w gyflwyno i'r grŵp oedran iau hefyd, sy'n unol â'r cyngor rydym wedi'i gael. Felly, rydym wedi cael ein cynghori i beidio â chyflwyno'r prawf ar gyfer unigolion dros 75 oed. Rydym wedi cael ein cynghori i gyrraedd sefyllfa lle y gallwn gyflwyno'r prawf, gyda nifer llwyddiannus yn manteisio arno, i bobl rhwng 50 a 59 oed.
Ar eich ail bwynt ynglŷn â diagnosteg, rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol ar leihau amseroedd aros diagnostig yn fwy cyffredinol mewn gwirionedd, ond rydym yn cydnabod y byddwn, gyda'r prawf newydd, yn disgwyl mwy o alw. Dyna pam fod byrddau iechyd wedi bod yn buddsoddi mewn gwasanaethau endosgopi dros nifer o flynyddoedd, ac rydym hefyd yn disgwyl gweld y grŵp gweithredu endosgopi yn cyflwyno mwy o gynlluniau a chynigion ar wella effeithlonrwydd, ansawdd a chapasiti yn y gwasanaethau hynny—nid yn unig yn y maes hwn, ond capasiti diagnostig yn fwy cyffredinol.
Yr wythnos diwethaf, cafwyd cyfarfod o'r grŵp trawsbleidiol ar ganser, lle roeddem yn edrych ar y gweithlu diagnostig yng Nghymru, a chafodd y mater a gododd David Rees sylw mawr, ynglŷn â diffyg nyrsys endosgopi, gyda chyfradd swyddi gwag o 11 y cant. Gyda'r dystiolaeth a roddwyd hefyd ynglŷn â nyrsys yn gadael i fynd i weithio i gwmnïau preifat, roeddwn yn meddwl tybed beth arall y gallai'r Llywodraeth ei wneud i geisio sicrhau ein bod yn llwyddo i gadw'r nyrsys hyn, sy'n amlwg yn hanfodol os ydym am ddatblygu ein rhaglen sgrinio yn y ffordd y mae wedi'i ddisgrifio.
Wel, mae yna ddau bwynt. Mae un yn ymwneud â'r hyn a wnawn i gadw ein gweithlu cyfredol yn y dyfodol, ac mae'r ail yn ymwneud â'n cynlluniau ar gyfer y dyfodol, o ran cynyddu ein capasiti a gallu sicrhau bod y niferoedd sy'n cael hyfforddiant yn cyfateb i'r capasiti hwnnw yn y dyfodol. A dyna'r gwaith y mae'r Llywodraeth eisoes yn ei wneud. Siaradais am y mater hwn mewn cyfarfod o Gynghrair Canser Cymru ddechrau'r wythnos hon mewn gwirionedd. Roeddent yn lleisio pryderon a godwyd ganddynt yn y grŵp trawsbleidiol, felly rwy'n cydnabod y broblem sy'n bodoli, fel y dywedais yn fy ateb i David Rees. Bydd angen i ni gamu ymlaen yng nghyfnod nesaf ein proses gynllunio—ac mae gwaith Addysg a Gwella Iechyd Cymru yn rhan o hyn o ran deall beth sydd angen i ni ei wneud i gynllunio ar gyfer y dyfodol, yn ogystal â gwneud yn siŵr fod yr amgylchedd gwaith cyfredol yn un lle y byddwn yn cadw mwy a mwy o'n staff ac wrth gwrs, ein profiad yn y maes gwaith hwn.