Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:35 pm ar 25 Ebrill 2018.
Rwy'n cydnabod y pryder. Mae hyn yn rhan o'r dewis anodd a'r her wrth wneud penderfyniadau. Fel pob gwlad yn y DU, fe'n cynghorir gan Bwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU, ac mae hwnnw'n argymell sgrinio rheolaidd hyd at 74 oed. Yn ddiweddar, mae Pwyllgor Sgrinio Cymru wedi bod yn ystyried a ddylid cynnig prawf sgrinio'r coluddyn i bobl sy'n hunanatgyfeirio dros 74 oed mewn gwirionedd, ond eu hargymhelliad i ni yw nad yw'r dystiolaeth yn cefnogi gwneud hynny; nid yw'r safbwynt wedi newid. Rhan o'n her ni, fel bob amser, yw lle mae gennym yr effaith fwyaf ar iechyd, ac mae hynny'n anodd oherwydd bydd amgylchiadau unigol yn codi lle mae pobl yn dweud, 'Hoffwn pe bai dewis gwahanol yn cael ei wneud gan y system gyfan.' Rydym yn canolbwyntio ar gyflwyno'r prawf newydd a gwell i'r boblogaeth sydd gennym ar hyn o bryd, a chynyddu nifer y rhai sy'n manteisio arno mewn gwirionedd. Y newyddion cadarnhaol yw bod cynlluniau peilot y prawf newydd wedi dangos cynnydd yn nifer y rhai sy'n manteisio arno yn yr ardaloedd peilot hynny. Felly, rwy'n edrych am welliant sylweddol wrth i ni gyflwyno'r prawf newydd, ac wrth gwrs, byddwn yn parhau i gael ein harwain gan y dystiolaeth a'r cyngor gorau sydd ar gael. Ac os yw'n newid, yna byddaf yn hapus i ystyried newid y dewis y mae'r Llywodraeth a'r gwasanaeth iechyd gwladol yn ei wneud.