Bwydo ar y Fron

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:32 pm ar 25 Ebrill 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 2:32, 25 Ebrill 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch i chi am eich cwestiwn. Rwy'n croesawu'r camau a wnaed gan Gasnewydd i'w gwneud yn hollol glir ein bod yn croesawu bwydo ar y fron ledled y ddinas. Mae yna fodel i bobl eraill ei ddilyn, oherwydd mae'n ymwneud ag annog mamau i fwydo ar y fron pan fyddant allan o'r cartref, ac annog pob un ohonom i fod yn gefnogol yn yr amgylchedd hwnnw yn ogystal. Sefydlais grŵp gorchwyl a gorffen i edrych ar wella cyfraddau bwydo ar y fron yng Nghymru y llynedd, yn dilyn cyfarfod gyda Choleg Brenhinol y Bydwragedd. Mae ein cyfraddau bwydo ar y fron wedi gwella dros y 10 mlynedd diwethaf—hyd at 61 y cant adeg genedigaeth—ond gwyddom ein bod (a)  eisiau i'r gyfradd honno fod yn uwch, ond rydym hefyd eisiau i fwydo ar y fron barhau. Rwy'n disgwyl adroddiad y grŵp gorchwyl a gorffen, gyda'r argymhellion hynny o fewn mis ac rwy'n disgwyl y byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau, nid yn unig ar ôl derbyn yr adroddiad, ond yn dilyn ymateb y Llywodraeth i'r adroddiad hwnnw a'i hargymhellion.