Sgrinio Coluddion Cymru

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:38 pm ar 25 Ebrill 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie Morgan Julie Morgan Labour 2:38, 25 Ebrill 2018

(Cyfieithwyd)

Yr wythnos diwethaf, cafwyd cyfarfod o'r grŵp trawsbleidiol ar ganser, lle roeddem yn edrych ar y gweithlu diagnostig yng Nghymru, a chafodd y mater a gododd David Rees sylw mawr, ynglŷn â diffyg nyrsys endosgopi, gyda chyfradd swyddi gwag o 11 y cant. Gyda'r dystiolaeth a roddwyd hefyd ynglŷn â nyrsys yn gadael i fynd i weithio i gwmnïau preifat, roeddwn yn meddwl tybed beth arall y gallai'r Llywodraeth ei wneud i geisio sicrhau ein bod yn llwyddo i gadw'r nyrsys hyn, sy'n amlwg yn hanfodol os ydym am ddatblygu ein rhaglen sgrinio yn y ffordd y mae wedi'i ddisgrifio.