Sgrinio Coluddion Cymru

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:39 pm ar 25 Ebrill 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 2:39, 25 Ebrill 2018

(Cyfieithwyd)

Wel, mae yna ddau bwynt. Mae un yn ymwneud â'r hyn a wnawn i gadw ein gweithlu cyfredol yn y dyfodol, ac mae'r ail yn ymwneud â'n cynlluniau ar gyfer y dyfodol, o ran cynyddu ein capasiti a gallu sicrhau bod y niferoedd sy'n cael hyfforddiant yn cyfateb i'r capasiti hwnnw yn y dyfodol. A dyna'r gwaith y mae'r Llywodraeth eisoes yn ei wneud. Siaradais am y mater hwn mewn cyfarfod o Gynghrair Canser Cymru ddechrau'r wythnos hon mewn gwirionedd. Roeddent yn lleisio pryderon a godwyd ganddynt yn y grŵp trawsbleidiol, felly rwy'n cydnabod y broblem sy'n bodoli, fel y dywedais yn fy ateb i David Rees. Bydd angen i ni gamu ymlaen yng nghyfnod nesaf ein proses gynllunio—ac mae gwaith Addysg a Gwella Iechyd Cymru yn rhan o hyn o ran deall beth sydd angen i ni ei wneud i gynllunio ar gyfer y dyfodol, yn ogystal â gwneud yn siŵr fod yr amgylchedd gwaith cyfredol yn un lle y byddwn yn cadw mwy a mwy o'n staff ac wrth gwrs, ein profiad yn y maes gwaith hwn.