Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:03 pm ar 25 Ebrill 2018.
Ysgrifennydd y Cabinet, fel sydd eisoes wedi cael sylw, amlygwyd pryderon ynghylch recriwtio staff gan y grŵp trawsbleidiol ar ganser yr wythnos diwethaf. Nododd hefyd fod bandio staff mewn meysydd arbenigol yn is yng Nghymru nag yn Lloegr mewn gwirionedd. Mae rhai ym mand 6 yng Nghymru, tra bo'r rhai sydd yn y swydd gyfatebol yn Lloegr ym mand 7. Mae staff felly naill ai'n mudo i swyddi cyfatebol ar gyflogau gwell yn Lloegr neu ni fyddant yn dod i Gymru yn y lle cyntaf hyd yn oed. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei wneud i sicrhau cydraddoldeb wrth fandio staff ar gyfer gwaith cyfatebol ledled y DU?