Recriwtio a Chadw Staff yn y GIG

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:02 pm ar 25 Ebrill 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 3:02, 25 Ebrill 2018

(Cyfieithwyd)

Er gwaethaf sŵn y dicter o feinciau'r Torïaid, mae'r hyn a ddywed yr Aelod yn ddiymwad ac yn ffeithiol gywir. Mae angen i'r Aelodau Ceidwadol yn y lle hwn gydnabod eu bod wedi bod yn hyrwyddo cyni dros dri etholiad cyffredinol olynol. Dros dri etholiad cyffredinol olynol, rydych wedi bod yn hyrwyddo cyni. Ni allwch osgoi canlyniad anorfod y cyni hwnnw yn awr. Er gwaethaf wyth mlynedd o gyni Torïaidd, mae gennym y nifer uchaf erioed o staff yn y gwasanaeth iechyd, oherwydd penderfyniadau a wnaed gan Lywodraeth Lafur Cymru. Er gwaethaf wyth mlynedd o gyni Torïaidd, mae gennym y nifer uchaf erioed o nyrsys cofrestredig, oherwydd penderfyniadau a wnaed gan Lywodraeth Lafur Cymru. Bydd y Torïaid yn dadlau dros gyni, ni fyddant yn dadlau dros y gwasanaeth iechyd, ni fyddant yn dadlau dros setliad ariannu priodol i Gymru, oherwydd bod hynny er budd iddynt ac oherwydd ei fod yn obsesiwn ideolegol ganddynt. Ni fydd y Torïaid byth yn newid.