Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:34 pm ar 25 Ebrill 2018.
Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gwybod, yn y flwyddyn ddiweddaraf y mae ffigurau ar gael ar ei chyfer, fod nifer y rhai cymwys sydd wedi manteisio ar y prawf sgrinio wedi gostwng o 54.4 y cant i 53.4 y cant, felly gostyngiad o 1 y cant. Gobeithio na fydd hyn yn datblygu i fod yn duedd. Hefyd, ar hyn o bryd, ni chynigir prawf sgrinio i unrhyw un dros 75 oed. Ac mae gennyf etholwr sydd wedi bod yn bryderus iawn ynglŷn â hyn oherwydd ei fod wedi cymryd rhan yn y rhaglen. Maent yn cyrraedd 75 oed ac yna ni allant gael y pecynnau sgrinio, ac rwy'n credu y dylid adolygu'r elfen hon o'r rhaglen sgrinio.