Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:53 pm ar 25 Ebrill 2018.
Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, yn ôl yr arolwg cenedlaethol ar gyfer Cymru 2016-17, mae gordewdra yn waeth yng Nghymru nag unrhyw wlad arall yn y DU. Ystyrir bod 59 y cant o oedolion dros bwysau, a bod 26 y cant o blant sy'n dechrau yn yr ysgol gynradd yn ordew neu dros bwysau. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â gordewdra ymhlith plant yng Nghymru, ac yn enwedig yn y rhanbarthau o Gymru sy'n ddifreintiedig yn economaidd, megis fy rhanbarth i, Gorllewin De Cymru?