Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:54 pm ar 25 Ebrill 2018.
Mae gennym amrywiaeth o fesurau ar waith eisoes, er enghraifft y rhwydwaith ysgolion iach, y 10 cam i bwysau iach, ac yn wir, y filltir ddyddiol a gyflwynwyd gan fy nghyd-Aelod Rebecca Evans pan oedd hi'n Weinidog iechyd y cyhoedd. Mae amrywiaeth o bethau rydym eisoes yn eu gwneud i gymell mwy o weithgarwch corfforol, mwy o ymwybyddiaeth o ymddygiad iechyd, gan gynnwys deiet wrth gwrs, ond rydym hefyd yn edrych ar y strategaeth ordewdra, a basiwyd gan y Cynulliad hwn yn rhan o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017, ac rwy'n edrych ymlaen, cyn yr haf, i adrodd yn ôl yn ffurfiol i'r lle hwn ar y camau rydym yn eu cymryd i ddatblygu ymgynghoriad ar ddyfodol y strategaeth honno.