Ceratoconws

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:22 pm ar 25 Ebrill 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 3:22, 25 Ebrill 2018

Roedd triniaeth groes-gysylltu ar gael i gleifion Cymreig a oedd â’r cyflwr yma yn Ysbyty Llygaid Bryste tan 2015. Ers hynny, roedd gen i un achos—merch 18 mlwydd oed a’i golwg yn dirywio ac wedi’i chynghori bod y cyflwr yn datblygu’n gyflym. Penderfynodd ei mam hi i dalu am driniaeth breifat, oherwydd roedd hi’n ofni y byddai hi’n mynd yn ddall. Ers hynny, mae Abertawe Bro Morgannwg nawr yn darparu’r driniaeth yma eto. Ond rŷm ni wedi cael sefyllfa lle mae yna nifer o bobl wedi cael eu dal yn y sefyllfa o gwympo rhwng y cyfnodau hyn lle nad oedd opsiwn gyda nhw heblaw mynd yn breifat. A ydy'r Ysgrifennydd y Cabinet yn gallu edrych ar yr achosion yma, edrych ar y gofid yr oedd hyn wedi'i achosi a’r posibilrwydd o ad-dalu costau fy etholwr i a phobl eraill?