Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:23 pm ar 25 Ebrill 2018.
Buaswn bob amser eisiau ystyried sut—. Credaf eich bod yn cydnabod ei fod yn gyflwr prin a chymhleth, a'r her yw sut y darparwn wasanaeth priodol i bobl sydd yn y sefyllfa hon, hyd yn oed os yw hynny'n golygu comisiynu gwasanaeth sy'n bell iawn, boed yng Nghymru neu y tu hwnt. Mewn gwirionedd, rwy'n disgwyl adolygiad a gynhelir gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru a Thechnoleg Iechyd Cymru. Rydym yn disgwyl y bydd hwnnw ar gael yn ystod y mis neu ddau nesaf a bydd yn cael ei gyhoeddi, ac efallai y bydd yn helpu i fwrw ymlaen â'r mater yn y dyfodol, ond os hoffech drafod y materion sy'n ymwneud â'ch etholwr, mae'n bosibl y bydd yn fwy synhwyrol i ni ohebu mwy, ac rwy'n ddiolchgar i chi am ysgrifennu ataf yn y gorffennol. Ond efallai y byddai'n fwy synhwyrol i ni gael trafodaeth mewn gwirionedd, a chael trafodaeth pan fydd yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi efallai, ac wedyn gallwn gysylltu hwnnw â sefyllfa eich etholwr ac ystyried eu hamgylchiadau a'r darlun ehangach yn y gwasanaeth arbenigol hwn.