Part of the debate – Senedd Cymru am 3:29 pm ar 25 Ebrill 2018.
Ar 1 Ebrill 1918, cymeradwyodd David Lloyd George gynlluniau i greu'r Awyrlu Brenhinol (RAF), y llu awyr cyntaf yn y byd i fod yn gwbl annibynnol ac ar wahân. Byddai'r RAF yn datblygu i fod yn llu awyr mwyaf pwerus y byd, gyda mwy na 290,000 o bersonél a 23,000 o awyrennau. Yna, ar adeg hollbwysig yn hanes y byd, amddiffynnodd yr RAF ein hynys yn erbyn ymosodiad y Natsïaid, yn yr hyn a ddaeth yn frwydr awyr enwocaf hanes, sef Brwydr Prydain. Ond nid yw hanes a llwyddiant yr RAF yn beth dieithr i ni yng Nghymru. Cafodd bom bowndiog enwog y dambusters ei brofi yng Nghwm Elan. Gweithwyr ffatri ym Mrychdyn a adeiladodd yr awyren Lancaster, sy'n dal i hedfan heddiw gyda'r RAF yn y daith hedfan i goffáu Brwydr Prydain. Ac fe gafodd y syniad sy'n sail i Red Arrows yr RAF ei ffurfio yng Nghymru, pan grëwyd yr Yellowjacks yn RAF y Fali, yn 1963.
Lywydd, er mwyn dathlu'r flwyddyn bwysig hon yn hanes yr RAF, bydd digwyddiadau arbennig, gweithgareddau a mentrau eraill yn cael eu cynnal ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol, o'r mis hwn hyd at ddiwedd mis Tachwedd. Un o'r digwyddiadau mwyaf nodedig fydd y daith gyfnewid baton ganmlwyddiannol, lle bydd baton sydd wedi'i ddylunio'n arbennig yn ymweld â 100 o safleoedd sy'n gysylltiedig â'r RAF mewn 100 diwrnod. Bydd y baton yn ymweld â nifer o leoliadau yng Nghymru, o 1 Mai hyd at 11 Mai, gan ddechrau yn Sain Tathan, a gorffen yn RAF y Fali.
Mae gennym lawer i fod yn ddiolchgar amdano, gan fod yr RAF wedi amddiffyn ein rhyddid yn ddewr. Os caf orffen gyda geiriau David Lloyd George, a ddywedodd,
'I’r awyrennau hyn, y ffurfafen yw maes y gad. Nhw yw Marchoglu’r Cymylau.'