Part of the debate – Senedd Cymru am 4:41 pm ar 25 Ebrill 2018.
Wel, Lywydd, rwy'n teimlo'n sicr pan fydd yr Aelod yn cael cyfle i astudio'r hyn a gytunwyd y bydd peth o'r pryder y mae wedi'i fynegi y prynhawn yma'n cael ei liniaru. Mae'n unigolyn rhesymol, rwy'n gwybod, ac rwy'n credu o ddifrif pan ddaw i edrych ar y manylion, y bydd yn teimlo y gall edrych yn wahanol ar rai o'r pwyntiau a wnaeth.
Dywedodd nad oedd gwrthdroi cymal 11 yn ddigon, ac wrth gwrs mae'n iawn, ac wrth gwrs roeddem yn cytuno â hynny. Ac yna gofynnodd beth oedd wedi digwydd ddoe i ddod i gytundeb mor gyflym. Roedd ddoe yn ddiwrnod cyflym iawn o symud yn ôl ac ymlaen rhwng y tri chyfranogwr yn y Cyd-bwyllgor Gweinidogion. Dyfarniad ydoedd: dyfarniad ar ran y Llywodraeth hon, pe na baem wedi dynodi ddoe ein bod yn barod i gyflwyno cynnig cydsyniad deddfwriaethol gerbron y Cynulliad Cenedlaethol hwn, y byddai popeth a gyflawnwyd gennym yn ystod y negodiadau hyn, popeth a amlinellais y prynhawn yma sy'n wahanol ac yn gam ymlaen i ddatganoli ar y cymal 11 gwreiddiol, heb gytundeb gyda ni a heb gytundeb gyda Llywodraeth yr Alban, y byddai Llywodraeth y DU yn dychwelyd at y gwelliant gwreiddiol a gyflwynodd yn Nhŷ'r Arglwyddi. Popeth a gyflawnwyd gennym, popeth y mae Prif Weinidog yr Alban yn cyfeirio atynt fel 'datblygiadau sylweddol': ni fyddai dim o hynny wedi'i sicrhau. A dyna a newidiodd ddoe: y datganiad gan Weinidog yr Alban; negodiadau a thrafodaethau pellach rhyngom ni a Llywodraeth y DU; a'r Llywodraeth hon yn sicrhau popeth a sicrhawyd gennym dros wythnosau a misoedd o negodi poenus a manwl. Credaf mai dyna pam yr ystyriaf hyn yn gyflawniad mawr.
Gofynnodd Dr Lloyd gwestiwn pwysig iawn ynglŷn â phwy sy'n penderfynu ar y fframweithiau a ddaw i'r amlwg wrth i bwerau ddychwelyd i'r gweinyddiaethau datganoledig. Wel, bydd penderfyniadau'n digwydd mewn dwy ffordd wahanol. Yn gyntaf oll, rydym wedi sicrhau set gyfartal o drefniadau lle bydd y tair—ac os oes gennym weinyddiaeth ddatganoledig yng Ngogledd Iwerddon, pedair—Llywodraeth yn gweithio ar y cyd i sicrhau'r fframweithiau hynny. Ni fydd yn fater, fel sydd wedi digwydd yn rhy aml o lawer yn y gorffennol, o Lywodraeth y DU yn gweithio ar y pethau hyn ar ei phen ei hun a chynhyrchu darn o bapur ar yr unfed awr ar ddeg a dweud wrthym, 'Dyna fe, gallwch ei gael os ydych ei eisiau.' Na. Mae hyn yn hollol wahanol. Mae pawb ohonom yn gweithio gyda'n gilydd ar y fframweithiau, a dyna sut y cânt eu cytuno.
Wedyn, pwy sy'n penderfynu? Cynulliad Cenedlaethol Cymru sy'n penderfynu. Oherwydd lle bydd gofyn cael sail ddeddfwriaethol i'r fframweithiau hyn, boed drwy ddeddfwriaeth sylfaenol neu is-ddeddfwriaeth, cymhwysir Confensiwn Sewel. Ac mae hynny hefyd yn gam mawr ymlaen yn y cytundeb hwn. Am y tro cyntaf, caiff Sewel ei warantu yn y rheoliadau. Caiff ei gymhwyso i ddeddfwriaeth sylfaenol bob amser, a bydd yn digwydd os oes angen deddfwriaeth sylfaenol ar fframweithiau. Nawr, bydd yn gymwys i fframweithiau sy'n galw am wneud rheoliadau yn ogystal, a bydd hynny'n dod yma, i lawr y Cynulliad Cenedlaethol hwn i'w benderfynu. Dyna pam, yn y pen draw, os ydych yn negodi'n ddidwyll â llywodraethau eraill, rhaid caniatáu i ymddiriedaeth weithredu.
Nid ymddiriedaeth ydyw, wrth gwrs, yn rhaglen bolisi Llywodraeth y cawsom gymaint o anghytundeb dwfn â hi, ond trefniant sy'n seiliedig ar ymddiriedaeth rhwng Llywodraethau pan fydd y trefniadau hynny wedi'u nodi mewn deddfwriaeth, pan geir cytundeb rhynglywodraethol i gyd-fynd â hwy y bydd pob parti sy'n barod ac yn abl i wneud hynny wedi'i gefnogi'n ffurfiol ac yn gyhoeddus.