Part of the debate – Senedd Cymru am 5:21 pm ar 25 Ebrill 2018.
Diolch yn fawr, a diolch am y cyfle i drafod y Papur Gwyrdd ar ddiwygio llywodraeth leol, sef canlyniad, wrth gwrs, tro pedol annisgwyl y Llywodraeth hon ychydig yn ôl. 'Cryfhau Llywodraeth Leol: Cyflawni dros ein Pobl' ydy teitl y ddogfen ddiweddaraf yma, ac rydw i'n cytuno'n llwyr efo'r angen i gryfhau ein cynghorau ni. Mae llywodraeth leol wydn, gynaliadwy, sy’n darparu cefnogaeth i’r rhai mwyaf bregus yn ein cymunedau, yn bwysig mewn cenedl lle mae tegwch yn un o’n gwerthoedd craidd. Ond nid wyf i'n hollol argyhoeddedig mai cyflwyno ad-drefnu costus ar adeg o lymder ydy’r ffordd fwyaf effeithiol o gryfhau llywodraeth leol.
Mae’r gwasanaethau sy’n cael eu darparu gan lywodraeth leol yn gwegian, a hynny yn sgil blynyddoedd ar flynyddoedd o doriadau sy’n deillio yn uniongyrchol o ideoleg wrthun y Torïaid yn San Steffan. Mae’n cynghorau ni wedi gorfod torri eu cyllidebau i’r asgwrn, ac mae’r cynghorau yn y broses o ganfod miliynau ar filiynau o arbedion eto er mwyn gallu gosod cyllidebau ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Mi glywais i ddoe fod cyngor Ceredigion wedi colli 700 o swyddi yn barod. Felly, mae o'n her anferth, ac mae sylw arweinwyr, penaethiaid a chynghorwyr yn hollol ddealladwy ar sut i gynnal gwasanaethau efo cyllideb sy’n crebachu. Mae cynghorau Plaid Cymru yn ceisio gwneud hynny mewn ffordd sydd yn diogelu y rhai sydd angen y gefnogaeth fwyaf, gan hefyd gefnogi staff sydd yn aml yn darparu’r gefnogaeth honno.
Hyd yn oed mewn cyfnod o gyni, rydw i'n falch o weld bod Cyngor Gwynedd wedi cyflwyno’r cyflog byw, neu fwy, i bawb o’r staff, ac wedi dileu contractau dim oriau yn llwyr. Ond erbyn hyn, nid ydy hi bob tro yn bosib gwarchod grwpiau anghenus rhag toriadau wrth i bolisïau llymder frathu go iawn. Dim rhyfedd, felly, fod yna ddim awydd ar gyfer ad-drefnu ymhlith arweinwyr cynghorau Cymru, fel y canfu’r Ysgrifennydd Cabinet pan aeth o i ffau llewod y WLGA yn ddiweddar.
Mae yna lawer iawn o arbedion effeithlonrwydd wedi cael eu gwneud yn barod, ac mae’n gwestiwn erbyn hyn faint o arbedion ychwanegol y gellir eu gwneud drwy uno cynghorau, o gofio’r costau sylweddol a fyddai ynghlwm â’r broses ei hun. Mae’r cynghorau eisoes wrthi'n sefydlu trefniadau rhanbarthol mewn sawl maes, ac mae ffordd esblygol y cyn-Ysgrifennydd Cabinet yn mynd ymlaen yn hwylus mewn sawl rhan o Gymru.
Er bod yr Ysgrifennydd Cabinet presennol wedi honni bod arweinwyr llywodraeth leol wedi dweud wrtho fo nad oedden nhw eisiau symud ymlaen efo awgrymiadau a chynigion ynglŷn â gweithio’n rhanbarthol, rydw i yn meddwl mai’r elfen fandadol oedd asgwrn y gynnen, nid y rhanbartholi ei hun. Beth oedd y cynghorau ddim yn licio oedd bod Papur Gwyn Mark Drakeford yn symud y cynghorau i drefniadau rhanbarthol drwy ddeddfwriaeth mewn tri maes, ac mae hon yn enghraifft o un o’r tensiynau parhaus sy’n bodoli rhwng llywodraeth leol a Llywodraeth ganol, wrth gwrs. Ond mae ddim yn licio cael eu gorfodi i weithio’n rhanbarthol wedi troi yn ddicter gwirioneddol am y tro pedol yma, am yr ymgais i fynd yn ôl at gynigion methiannus y cyn-cyn-Ysgrifennydd Cabinet a wnaeth godi gwrychyn pawb o bob lliw gwleidyddol. Mae cynnal perthynas a chydweithio adeiladol rhwng Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yn greiddiol i wella gwasanaethau.
Mae angen i unrhyw ddiwygio neu ad-drefnu ddigwydd i bwrpas, ac mae Plaid Cymru wedi gosod nifer o egwyddorion craidd a ddylai fod wrth wraidd unrhyw ddiwygio, sef gwneud y gwasanaethau yn fwy effeithiol i'r defnyddwyr, cryfhau democratiaeth leol, symud tuag at integreiddio iechyd a gofal, a chryfhau’r iaith Gymraeg.
I sôn, wrth gloi, am un o’r egwyddorion hynny yn unig, mae yna lawer o arfer da yn digwydd o ran integreiddio iechyd a gofal o’r henoed, ac mae o'n digwydd orau os ydy o’n digwydd o’r gwaelod i fyny ac yn digwydd yn gwbl naturiol os mai anghenion y person y mae’r gwasanaeth ar ei gyfer sydd yn cael eu blaenoriaethu. Yng Ngwynedd mae yna bump o dimau integredig pobol hŷn yn gweithio ar draws y sir, lle mae’r gweithwyr cymdeithasol a’r nyrsys cymunedol ac ati—pobl o'r ddwy sector—yn gweithio efo’i gilydd gan roi’r person yng nghanol bob dim y maen nhw'n ei wneud. Ar lefel ranbarthol, mae’r cynghorau yn comisiynu gwasanaethau cymdeithasol ar y cyd.
Felly, mae yna newid yn digwydd. Mae'r cynghorau yn gweithio efo'i gilydd ac yn gweithio tuag at fod yn fwy cynaliadwy, ac mae arnaf i ofn nad oes yna lawer o groeso i'r Papur Gwyrdd newydd yma.