– Senedd Cymru ar 25 Ebrill 2018.
Yr eitem nesaf, felly, yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar ddiwygio llywodraeth leol. Rwy'n galw ar Janet Finch-Saunders i wneud y cynnig. Janet Finch-Saunders.
Cynnig NDM6707 Paul Davies
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi mai Papur Gwyrdd Llywodraeth Cymru—Cryfhau Llywodraeth Leol: Cyflawni dros ein Pobl —yw'r trydydd cynnig mewn tair blynedd a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru ar ddiwygio llywodraeth leol.
2. Yn nodi hefyd fod yr awdurdodau lleol yn gweithio tuag y trefniadau rhanbarthol a gyflwynwyd gan ragflaenydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus.
3. Yn gresynu fod y cynnig diweddaraf wedi achosi cyfnodau parhaus o ansicrwydd i gynghorau a'u staff rheng flaen.
4. Yn pryderu am y natur o'r brig i'r bôn gyson o ran diwygio llywodraeth leol yng Nghymru, fel y dangosir gan y diffyg ymgysylltiad ystyrlon ag arweinwyr cynghorau a Phrif Weithredwyr wrth baratoi'r papur hwn, yn ogystal ag absenoldeb dadansoddiad strategol o’r costau a’r manteision ar y cynigion blaenorol i ddiwygio llywodraeth leol.
Diolch, Lywydd. Rwy'n gwneud y cynnig yn enw Paul Davies AC. Y cyhoeddiad diweddar ynglŷn â Phapur Gwyrdd gan Ysgrifennydd y Cabinet ar 20 Mawrth, heb unrhyw drafodaethau blaenorol gyda ni fel ACau, yw'r trydydd ymgais gan y Llywodraeth Lafur hon i ddiwygio strwythur llywodraeth leol yng Nghymru. Byddai rhywun wedi meddwl, o ganlyniad i ddau gynnig aflwyddiannus blaenorol i gyflwyno deddfwriaeth i ddiogelu ein hawdurdodau lleol ar gyfer y dyfodol, y byddai'r cynnig hwn wedi'i wneud mewn modd mwy strategol, ystyrlon a diddorol. Er gwaethaf rhethreg flaenorol ynghylch y dymuniad i weithio mewn ffordd barchus gydag aelodau awdurdodau lleol ac Aelodau'r Cynulliad, mae'r cynigion a gyflwynir yn dangos diffyg cydnabyddiaeth amlwg mewn gwirionedd o effaith y dictad o'r brig i'r bôn hwn ar y rhai sy'n gweithio yn y sector.
Am siomedig hefyd fod addewidion gan yr Ysgrifennydd Cabinet blaenorol, Mark Drakeford AC, a ymgysylltodd â ni, mewn gwirionedd, i gynnig ffurf ranbarthol o weithio a sicrhau platfform sefydlog 10 mlynedd i gynghorau allu symud ymlaen ar ddiwygio, wedi cael eu diystyru mewn modd mor llawdrwm ac unbenaethol. Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi mynegi pryderon, gan eich cyhuddo chi, Ysgrifennydd y Cabinet, yn eu geiriau hwy, o 'ailgylchu cynlluniau aflwyddiannus', drwy barhau â'r wleidyddiaeth o'r brig i'r bôn tuag at awdurdodau lleol a welsom yn methu yn y pedwerydd Cynulliad o dan y cynigion blaenorol ar uno gorfodol. Mae eich bwriad i ddefnyddio fframweithiau statudol i orfodi uno yn sarhad ar y rhai yn y sector sydd wedi gwneud mwy na neidio drwy ddigon o gylchoedd i fodloni Llywodraeth Llafur Cymru dros yr 20 mlynedd diwethaf o dan eich goruchwyliaeth chi. Mae CLlLC ac eraill wedi dweud bod y rhan fwyaf o ddadansoddiadau academaidd wedi dod i'r casgliad mai anaml y bydd rhaglenni diwygio o'r fath yn darparu'r arbedion neu'r newidiadau mewn perfformiad y gobeithiwyd eu gweld.
Pan gawsoch eich craffu ar y cynigion hyn, dywedasoch yn glir eich bod wedi ymgysylltu ac ymgynghori â'r sector. Fodd bynnag, gwn o fy ymweliadau ag awdurdodau lleol ar draws y rhaniadau gwleidyddol, a thrwy siarad â llawer o aelodau etholedig, eu bod wedi eu synnu gymaint â minnau gan yr ymagwedd ymwthiol wrth gyhoeddi'r cynlluniau aflonyddgar a gwrthgynhyrchiol hyn. Dywedodd y Cynghorydd Thomas, arweinydd Bro Morgannwg, yn bendant
Fel arfer ni fu unrhyw drafodaeth neu ymgysylltiad ystyrlon â chynghorau, neu'n bwysicach y trigolion lleol yr effeithir arnynt, cyn i'r cynlluniau hyn gael eu cyhoeddi.
Mae cynghorydd yn Wrecsam hefyd wedi galw'r uno arfaethedig gyda Sir y Fflint yn drychineb ddrud sy'n aros i ddigwydd, tra bo arweinydd annibynnol y cyngor wedi disgrifio'r ddadl barhaus fel cymysgedd o Fawlty Towers, Some Mothers Do 'Ave 'Em a Yes Minister.
Nododd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wrth y pwyllgor cydraddoldeb a llywodraeth leol yn ystod y cynigion uno gorfodol blaenorol y byddai'n amhosibl i awdurdodau dalu costau'r cynnig i uno heb wneud toriadau sylweddol i wasanaethau rheng flaen. Heb ddull cydlynol, strategol a phroffesiynol o weithredu, mae cyfres arall eto o gynigion uno gorfodol, heb unrhyw ddadansoddiad cost a budd neu risg, wedi'i thynghedu i fethu. Nid y dull trwsgl o'r brig i'r bôn hwn o'r fan hon yw'r ffordd ymlaen. Mewn cefndir busnes, byddai diwygio'n dechrau ac yn gorffen drwy gael ei arwain o'r union sector y mae rhywun yn ceisio ei ddiwygio—gyda llaw, yn yr achos hwn, sector y mae gennyf hyder aruthrol ynddo a pharch tuag ato. Fel y dywedodd arweinydd CLlLC, y Cynghorydd Debbie Wilcox,
Nid oeddem angen i Lywodraeth Cymru roi mandad i ni weithio'n rhanbarthol. Fe aethom ati i wneud hynny am ein bod yn cydnabod bod hynny'n fuddiol i'r bobl a'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.
Yn wir, dywedodd y Cynghorydd Peter Fox:
Mae cynghorau yn ne-ddwyrain Cymru wedi bod yn gweithio'n galed tuag at yr argymhellion diwethaf gan Lywodraeth Cymru, a ofynnai i ni weithio'n gydweithredol ar sail ranbarthol.
Ac am esiampl wych: bargen ddinesig prifddinas-ranbarth Caerdydd, gyda 10 awdurdod lleol yn cydweithio ar draws y rhaniadau gwleidyddol i wella ffyniant economaidd y rhanbarth, wedi'i arddangos yn rhagorol gan yr arweinydd—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Iawn, parhewch.
Y cyfan yr oeddwn am ei ddweud yw bod yn union yr un peth wedi'i wneud yn ninas-ranbarth Abertawe.
Cafodd ei arddangos yn wych gan arweinydd Cyngor Caerdydd, Huw Thomas, pan ddywedodd:
Byddai gennym bryderon ynglŷn ag unrhyw broses ad-drefnu neu ailwladoli sy'n tynnu ein sylw oddi ar ein hagenda gyflawni.
Dro ar ôl tro, rydym wedi gweld ymatebion ymwthiol a herio gennych, Ysgrifennydd y Cabinet, wrth graffu yma ac yn ystod cyfarfod â CLlLC, yn datgan bod gwrthwynebiad i'ch cynigion yn gwneud teledu da ond nid yw'n wleidyddiaeth dda. Onid ydych yn sylweddoli eich bod yn chwarae â chalonnau a meddyliau yr union bobl sy'n darparu gwasanaethau mor hanfodol i'n pobl fwyaf agored i niwed, i'n plant a'n holl drigolion ar sail ddyddiol, 24 awr, 365 diwrnod?
Nid oes unrhyw amheuaeth fod pob un ohonom yn y Siambr hon yn ceisio gwella'r modd y caiff ein gwasanaethau cyhoeddus eu darparu ledled Cymru, gyda llawer yn credu, er hynny, fod hwn yn fandad mwy na llywodraeth leol yn unig. Os awn yn ôl at adroddiad gwreiddiol comisiwn Williams, roedd yna argymhellion cadarn yno ar gyfer diwygio gwasanaethau cyhoeddus yn eu cyfanrwydd. Mae'r Papur Gwyrdd yn sôn am gyflawni Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 drwy ddiwygio llywodraeth leol, ond ni ellir gwneud hynny ar ei ben ei hun. Siaradwch ag unrhyw weithiwr profiadol a gonest yn y sector cyhoeddus ar hyd a lled Cymru, a byddant yn dweud wrthych: nid oes angen cyfres arall o gynigion llywodraeth leol ar Gymru. Yr hyn y mae Cymru ei angen yn y bôn, fodd bynnag, yw adolygiad trylwyr o'r sector gwasanaethau cyhoeddus cyfan. Rydym yn gwybod bod rhaid inni sicrhau bod cydweithio gwell yn digwydd rhwng awdurdodau lleol, iechyd, gwasanaethau cymdeithasol, addysg a thai er mwyn inni allu cyflawni ein rhwymedigaethau o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Ysgrifennydd y Cabinet, pam nad ydych yn fwy radical yma? Pam nad ydych yn ceisio diwygio gwasanaethau cyhoeddus yn eu cyfanrwydd yng Nghymru? Pam nad ydych yn agor hyn i drafodaeth lawer ehangach? Sut y byddwch yn cynnwys eich cyd-Ysgrifenyddion Cabinet o amgylch y bwrdd yn hyn i sicrhau ei fod yn cael ei ddatblygu mewn modd unffurf a chydgysylltiedig?
Mae amser yn brin, Ysgrifennydd y Cabinet, i'r Llywodraeth hon—eich Llywodraeth Lafur—i ddiogelu gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru ar gyfer y dyfodol. Rydych mewn sefyllfa freintiedig, gyda phoblogaeth Cymru'n dibynnu ar y Llywodraeth hon yng Nghymru i'w gael yn iawn y tro hwn. Mae gennych y dulliau, mae gennych y pŵer ac mae gennych yr adnoddau i gyflawni uchelgais sylfaenol—diwygio ein gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru yn sylfaenol, gan weithio gyda hwy, nid yn eu herbyn, a gweithio drwy bob un o'r sectorau hyn, fel y crybwyllais. Ni allwch wneud hyn eich hunain—ni allwch fwrw ymlaen i ddiwygio llywodraeth leol ar eich pen eich hun. Rhaid ei gynllunio'n llawer mwy strategol na hyn.
Rhaid imi fod yn onest gyda chi. Nid yw'n ymadrodd rwy'n ei hoffi, ond cynigion pecyn sigaréts—wedi'u hysgrifennu ar gefn pecyn sigaréts—yw'r rhain y bwriadwch eu cyflwyno. Maent yn bradychu pawb sy'n gweithio yn ein gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru yn sylfaenol. Maent oll yn awyddus, maent oll yn bryderus ac maent oll yn frwd i weithio gyda chi i weld ein gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu diwygio'n radical yn y dyfodol, i'n cynnal am flynyddoedd i ddod. Buaswn yn dweud mai uchelgais diog yw'r cynigion hyn unwaith eto, ac rwyf o ddifrif yn eich annog yn awr i fynd yn ôl i ailfeddwl, siarad â'ch cydweithwyr yn Llywodraeth Cymru, a chyflwyno cynigion strategol wedi'u cynllunio'n dda, wedi'u costio ar gyfer diwygio gwasanaethau cyhoeddus yn llwyr ac yn radical. Gyda model teilwng o unrhyw Lywodraeth yng Nghymru, efallai wedyn, a dim ond wedyn, y gallwn eich cefnogi ar daith o'r fath.
Rwyf wedi dethol y pedwar gwelliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2 a 3 yn cael eu dad-ddethol. A galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Julie James, yn ffurfiol.
Yn ffurfiol.
Diolch. Galwaf ar Siân Gwenllian i gynnig gwelliannau 2, 3 a 4, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth.
Gwelliant 2. Rhun ap Iorwerth
Ychwanegu fel pwynt newydd ar ôl pwynt 2 ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn gresynu'r llymder sydd wedi arwain at doriadau enbyd i gyllidebau llywodraeth leol ers sawl blwyddyn, a’r ansicrwydd parhaus y mae cynghorau yn ei wynebu o ran eu sefyllfa ariannol ac ad-drefnu posibl.
Gwelliant 3. Rhun ap Iorwerth
Ychwanegu fel pwynt newydd ar ôl pwynt 3 ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn gresynu at ddiffyg cydnabyddiaeth yr Ysgrifennydd Cabinet am bwysigrwydd cynnal perthynas, a chydweithio adeiladol rhwng Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol.
Gwelliant 4. Rhun ap Iorwerth
Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu y dylai unrhyw gynigion ar gyfer ad-drefnu llywodraeth leol fod gyda’r bwriad o gryfhau democratiaeth leol, integreiddio iechyd a gofal, cryfhau’r Iaith Gymraeg a chynnig gwasanaethau mwy effeithiol i’w defnyddwyr.
Diolch yn fawr, a diolch am y cyfle i drafod y Papur Gwyrdd ar ddiwygio llywodraeth leol, sef canlyniad, wrth gwrs, tro pedol annisgwyl y Llywodraeth hon ychydig yn ôl. 'Cryfhau Llywodraeth Leol: Cyflawni dros ein Pobl' ydy teitl y ddogfen ddiweddaraf yma, ac rydw i'n cytuno'n llwyr efo'r angen i gryfhau ein cynghorau ni. Mae llywodraeth leol wydn, gynaliadwy, sy’n darparu cefnogaeth i’r rhai mwyaf bregus yn ein cymunedau, yn bwysig mewn cenedl lle mae tegwch yn un o’n gwerthoedd craidd. Ond nid wyf i'n hollol argyhoeddedig mai cyflwyno ad-drefnu costus ar adeg o lymder ydy’r ffordd fwyaf effeithiol o gryfhau llywodraeth leol.
Mae’r gwasanaethau sy’n cael eu darparu gan lywodraeth leol yn gwegian, a hynny yn sgil blynyddoedd ar flynyddoedd o doriadau sy’n deillio yn uniongyrchol o ideoleg wrthun y Torïaid yn San Steffan. Mae’n cynghorau ni wedi gorfod torri eu cyllidebau i’r asgwrn, ac mae’r cynghorau yn y broses o ganfod miliynau ar filiynau o arbedion eto er mwyn gallu gosod cyllidebau ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Mi glywais i ddoe fod cyngor Ceredigion wedi colli 700 o swyddi yn barod. Felly, mae o'n her anferth, ac mae sylw arweinwyr, penaethiaid a chynghorwyr yn hollol ddealladwy ar sut i gynnal gwasanaethau efo cyllideb sy’n crebachu. Mae cynghorau Plaid Cymru yn ceisio gwneud hynny mewn ffordd sydd yn diogelu y rhai sydd angen y gefnogaeth fwyaf, gan hefyd gefnogi staff sydd yn aml yn darparu’r gefnogaeth honno.
Hyd yn oed mewn cyfnod o gyni, rydw i'n falch o weld bod Cyngor Gwynedd wedi cyflwyno’r cyflog byw, neu fwy, i bawb o’r staff, ac wedi dileu contractau dim oriau yn llwyr. Ond erbyn hyn, nid ydy hi bob tro yn bosib gwarchod grwpiau anghenus rhag toriadau wrth i bolisïau llymder frathu go iawn. Dim rhyfedd, felly, fod yna ddim awydd ar gyfer ad-drefnu ymhlith arweinwyr cynghorau Cymru, fel y canfu’r Ysgrifennydd Cabinet pan aeth o i ffau llewod y WLGA yn ddiweddar.
Mae yna lawer iawn o arbedion effeithlonrwydd wedi cael eu gwneud yn barod, ac mae’n gwestiwn erbyn hyn faint o arbedion ychwanegol y gellir eu gwneud drwy uno cynghorau, o gofio’r costau sylweddol a fyddai ynghlwm â’r broses ei hun. Mae’r cynghorau eisoes wrthi'n sefydlu trefniadau rhanbarthol mewn sawl maes, ac mae ffordd esblygol y cyn-Ysgrifennydd Cabinet yn mynd ymlaen yn hwylus mewn sawl rhan o Gymru.
Er bod yr Ysgrifennydd Cabinet presennol wedi honni bod arweinwyr llywodraeth leol wedi dweud wrtho fo nad oedden nhw eisiau symud ymlaen efo awgrymiadau a chynigion ynglŷn â gweithio’n rhanbarthol, rydw i yn meddwl mai’r elfen fandadol oedd asgwrn y gynnen, nid y rhanbartholi ei hun. Beth oedd y cynghorau ddim yn licio oedd bod Papur Gwyn Mark Drakeford yn symud y cynghorau i drefniadau rhanbarthol drwy ddeddfwriaeth mewn tri maes, ac mae hon yn enghraifft o un o’r tensiynau parhaus sy’n bodoli rhwng llywodraeth leol a Llywodraeth ganol, wrth gwrs. Ond mae ddim yn licio cael eu gorfodi i weithio’n rhanbarthol wedi troi yn ddicter gwirioneddol am y tro pedol yma, am yr ymgais i fynd yn ôl at gynigion methiannus y cyn-cyn-Ysgrifennydd Cabinet a wnaeth godi gwrychyn pawb o bob lliw gwleidyddol. Mae cynnal perthynas a chydweithio adeiladol rhwng Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yn greiddiol i wella gwasanaethau.
Mae angen i unrhyw ddiwygio neu ad-drefnu ddigwydd i bwrpas, ac mae Plaid Cymru wedi gosod nifer o egwyddorion craidd a ddylai fod wrth wraidd unrhyw ddiwygio, sef gwneud y gwasanaethau yn fwy effeithiol i'r defnyddwyr, cryfhau democratiaeth leol, symud tuag at integreiddio iechyd a gofal, a chryfhau’r iaith Gymraeg.
I sôn, wrth gloi, am un o’r egwyddorion hynny yn unig, mae yna lawer o arfer da yn digwydd o ran integreiddio iechyd a gofal o’r henoed, ac mae o'n digwydd orau os ydy o’n digwydd o’r gwaelod i fyny ac yn digwydd yn gwbl naturiol os mai anghenion y person y mae’r gwasanaeth ar ei gyfer sydd yn cael eu blaenoriaethu. Yng Ngwynedd mae yna bump o dimau integredig pobol hŷn yn gweithio ar draws y sir, lle mae’r gweithwyr cymdeithasol a’r nyrsys cymunedol ac ati—pobl o'r ddwy sector—yn gweithio efo’i gilydd gan roi’r person yng nghanol bob dim y maen nhw'n ei wneud. Ar lefel ranbarthol, mae’r cynghorau yn comisiynu gwasanaethau cymdeithasol ar y cyd.
Felly, mae yna newid yn digwydd. Mae'r cynghorau yn gweithio efo'i gilydd ac yn gweithio tuag at fod yn fwy cynaliadwy, ac mae arnaf i ofn nad oes yna lawer o groeso i'r Papur Gwyrdd newydd yma.
Rwy'n ddiolchgar am y cyfle i gymryd rhan yn y ddadl hon, a byddaf yn canolbwyntio fy nghyfraniad ar yr effeithiau y gallai unrhyw ddiwygio llywodraeth leol eu cael ar fy ardal i.
Ni fydd yr Aelodau'n synnu fy mod yn parhau i wrthwynebu'n llwyr y cynigion ar gyfer diwygio llywodraeth leol yn Sir Benfro, a fyddai'n arwain at weld gorllewin Cymru i gyd yn dychwelyd at fodel Dyfed o lywodraethu. Yn fy marn i, ni fydd unrhyw gynigion ar gyfer uno Sir Benfro gyda Sir Gaerfyrddin a Cheredigion yn arwain at ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yng ngorllewin Cymru yn fwy effeithiol. Wrth gwrs, mae pobl gorllewin Cymru wedi byw o dan fodel Dyfed o lywodraethu o'r blaen a diddymwyd y model hwnnw yn 1996. A pham y digwyddodd hynny? Wel, roedd yn eithaf clir fod maint daearyddol ac amrywiaeth ardal Dyfed gyfan yn creu heriau sylweddol i'r awdurdod ac o ganlyniad, câi Cyngor Sir Dyfed ei weld yn anghysbell ac amhoblogaidd gan lawer o gymunedau lleol. Felly, yn fy marn i, ni fydd cynigion presennol Llywodraeth Cymru ond yn mynd â gorllewin Cymru yn ôl at awdurdod hen ffasiwn, amhoblogaidd nad yw'n gallu ymdopi â'r heriau yr oedd eisoes wedi methu eu datrys yn y gorffennol.
Nawr, wrth ddadansoddi diwygio llywodraeth leol, cydnabu comisiwn Williams y byddai dychwelyd at fodel Dyfed, ac rwy'n dyfynnu,
'yn cwmpasu'r ardal fwyaf o holl awdurdodau unedol DU y tu allan i'r rhannau mwyaf gwledig ac anghysbell o'r Alban er bod ganddi boblogaeth gryn dipyn yn uwch nag unrhyw un o'r ardaloedd hynny'.
Roedd yr adroddiad hefyd yn cydnabod mai ardaloedd cyngor yr Alban yr Ucheldiroedd, Argyll a Bute, Dumfries a Galloway a Swydd Aberdeen yn unig sy'n fwy yn ddaearyddol na'r model arfaethedig ar gyfer awdurdod Dyfed, ond mae gan bob un o'r ardaloedd cyngor hyn yn yr Alban boblogaeth lawer iawn yn llai na'r model arfaethedig ar gyfer Dyfed. Felly, pe bai Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i ddychwelyd at fodel Dyfed, bydd yn rhaid iddo reoli daearyddiaeth debyg i un yr awdurdodau cyngor hynny yn yr Alban yn ogystal â phoblogaeth sydd gryn dipyn yn fwy. Felly, wrth ymateb i'r ddadl heddiw, efallai y gallai Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau pam y mae model Dyfed o dan ystyriaeth hyd yn oed ar hyn o bryd, yn enwedig o gofio bod y cynigion yn cadarnhau y byddai Powys yn parhau i fod yn awdurdod ar ei ben ei hun, oherwydd ei ddaearyddiaeth a'i boblogaeth mae'n debyg.
Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn gwybod fy mod yn credu nad yw creu awdurdodau mwy o faint yn golygu gwasanaethau gwell ac yn y pen draw mae'n dileu'r 'lleol' o lywodraeth leol. Yn sicr, byddai'n llawer mwy priodol inni drafod pa wasanaethau penodol yr ydym am i'n hawdurdodau lleol eu darparu yn y dyfodol cyn penderfynu ar strwythur.
Nawr, mae pobl Sir Benfro eisoes wedi gweld effaith canoli gwasanaethau ar eu cymunedau, ar ôl yr israddio parhaus a diddymu gwasanaethau o ysbyty Llwynhelyg. Mae'r agenda ganoli wedi cael effaith niweidiol ar gymunedau lleol ac ofnaf y byddem ni yn Sir Benfro yn gweld yr un peth gyda gwasanaethau cyngor os ydym yn caniatáu i'r cynigion hyn fynd rhagddynt.
Yn fy etholaeth i, ceir pryderon difrifol iawn hefyd ynglŷn ag effaith y cynigion hyn ar frand Sir Benfro. Y mis diwethaf yn unig, enwodd cylchgrawn Countryfile Sir Benfro yn 'gyrchfan y flwyddyn', i gydnabod ansawdd ei harddwch naturiol a'i bywyd gwyllt. O ystyried ei harfordir a'i phorthladdoedd, mae Sir Benfro yn prysur ddod yn arweinydd byd ym marchnad ynni'r môr, fel cynhyrchydd ynni ac fel allforiwr gwybodaeth ynni morol. Ac yn olaf ond nid yn lleiaf mae Sir Benfro yn enwog am ei bwyd a'i diod o'r radd flaenaf, fel tyrcwn Capestone, caws Sir Benfro a thatws Sir Benfro. Mae pob un o'r newidynnau hyn yn cyfrannu at greu enw da byd-eang cryf ac unigryw i Sir Benfro, ac rwy'n credu bod yr enw da hwnnw mewn perygl os yw'r Sir yn mynd i foddi mewn awdurdod ehangach o dan fodel Dyfed.
Fodd bynnag, efallai mai'r ystyriaeth bwysicaf oll yw'r bobl y bydd yn rhaid iddynt fyw o dan yr awdurdod arfaethedig hwn. Dair blynedd yn ôl, pleidleisiodd Cyngor Sir Penfro—cynghorwyr Llafur, ynghyd ag eraill—o blaid cynnig sy'n cydnabod na fydd y cynigion hyn yn helpu'n economaidd, yn gymdeithasol nac yn darparu gwasanaethau gwell yn lleol. Felly, efallai y gall Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym mewn ymateb i'r ddadl hon a yw'n cytuno â'i gydweithwyr Llafur ar y mater hwn.
I gloi, Ddirprwy Lywydd, fy marn i yw y bydd uno rhwng Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Cheredigion yn arwain at ddychwelyd at adeg pan oedd Llywodraeth Leol yn bell ac yn anghynrychioladol. Nid oes unrhyw awydd ymhlith y cyhoedd i greu'r awdurdod mawr newydd hwn. Yn wir, mae'n ymddangos mai dyma'r unig uchelgais ar gyfer diwygio llywodraeth leol yng ngorllewin Cymru, yn hytrach na thrafodaeth ar bŵer cymhwysedd cyffredinol i awdurdodau lleol a pha wasanaethau yr hoffem eu gweld yn cael eu darparu ar lefel leol.
Dywedodd CLlLC, yn eu tystiolaeth i gomisiwn Williams, ac rwy'n dyfynnu:
Mae Cymru yn genedl o gymunedau ac mae hunaniaeth a theyrngarwch cymunedol yn nodweddion pwerus sy'n ysgogi ac yn uno a rhaid i Gymru geisio manteisio ar y rhain yn y cyfnod sydd i ddod.
Felly, rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi ein cynnig a helpu i warchod y cymunedau a'r hunaniaethau lleol hynny.
Y gwir plaen yw, heb ddiwedd ar gyni, mae gwasanaethau cyhoeddus fel y gwyddom amdanynt o dan fygythiad. Mae'n ddealladwy fod hyn yn beth anodd i Lywodraeth Lafur sy'n malio am y gwasanaethau hyn ei wynebu, ond mae esgus y bydd newid nifer y cynghorau yn osgoi'r gwir anodd hwnnw yn gyfystyr â chuddio ein pennau yn y tywod.
Hyd yma, ymddengys nad yw'r ddadl wedi mynd y tu hwnt i'r ymateb greddfol ac arwynebol fod '22 yn ormod' y mae Llywodraeth Cymru yn ei chael hi'n anodd symud oddi wrtho. Yn amlwg, nid yw honno'n sail dystiolaethol ddigonol ar gyfer dilyn llwybr sy'n gostus iawn i'w weithredu. Yn sicr, mae baich y prawf ar Lywodraeth Cymru i ddarganfod beth fyddai cost ad-drefnu a pha fanteision a fyddai'n deillio ohono. Yn sicr, rwyf fi o'r farn fod y manteision ariannol mewn perygl o gael eu gorbwysleisio. Pa un a oes gennych wyth, 10, 12 neu 22 o gynghorau, byddant yn dal i orfod addysgu'r un nifer o blant yn yr un nifer o ysgolion, casglu'r un nifer o finiau a gofalu am yr un nifer o bobl sy'n agored i niwed. Dyma'r prif ffactorau sy'n rheoli costau.
Mae hyn yn arbennig o wir gan fod arbedion cost enfawr wedi'u gwneud gan gynghorau Cymru ers yr ymchwiliad diwethaf i ad-drefnu llawn. Y llynedd yn unig, arbedodd Cyngor Torfaen £1 filiwn yn sgil eu hadolygiad o'u gweinyddiaeth a'u gwasanaethau busnes, a chafwyd ymdrechion di-rif eraill i leihau costau canolog. Gwn y bydd Torfaen yn parhau i fynd ar drywydd camau i gydweithredu a ffyrdd gwahanol o weithio, ond mae profiad diweddar yn awgrymu, yn gynyddol, fod manteision i'r rhain o ran y gwasanaeth, yr ansawdd a chydnerthedd yn hytrach nag arbedion arian parod. Heb edrych yn fanwl ac yn wrthrychol ar y dystiolaeth, y perygl yw bod y gost o ad-drefnu wedi ei hamcangyfrif yn rhy isel a'r manteision wedi'u gorbwysleisio. Felly, byddai Llywodraeth Cymru yn gwario llawer o arian—dros £200 miliwn—ac ond yn arbed ychydig iawn, gan amharu ar y modd y caiff gwasanaethau eu darparu am nifer o flynyddoedd.
A pha dystiolaeth sydd yna i ddangos bod mwy yn gyfystyr â gwell? Er bod rhai o'r awdurdodau llai wedi wynebu heriau yn y gorffennol, rhai o'r awdurdodau bach hynny sydd wedi dangos peth o'r perfformiad gorau neu sydd wedi cael yr adroddiadau arolwg gorau. Yn y bwletin perfformiad diweddaraf gan Data Cymru, Torfaen oedd yr awdurdod yn y nawfed safle o ran perfformiad, a'r awdurdod yn y nawfed safle o ran gwella. Yr hyn y mae'r data yn ei ddangos yw nad yw maint yn benderfynydd perfformiad, gydag awdurdodau llai yn perfformio'n well yn gyffredinol. Er bod capasiti yn hanfodol, mae hyn yn awgrymu bod ffactorau megis arweinyddiaeth a diwylliant yn hollbwysig i lwyddiant yn hytrach na maint.
Yn olaf, pa ystyriaeth a roddwyd gan Lywodraeth Cymru i'r math o sefydliadau y byddent yn eu creu? Beth yw diffygion llywodraeth leol fel y mae ar hyn o bryd? Ac nid wyf yn cymryd arnaf nad oes rhai, ond yn hollbwysig, sut y byddai ad-drefnu yn eu gwneud yn well? Nid yw cyferbynnu'r sefyllfa bresennol gyda rhyw fath o berffeithrwydd dychmygol yn fan cychwyn synhwyrol. Y perygl gydag unedau mawr yw y byddent yn bell oddi wrth bobl, wedi'u rhannu'n blwyfol, ac yn gwrthod y cydweithredu a'r meddwl creadigol y byddai ei angen o hyd ni waeth pa mor fawr y byddent. Arweinyddiaeth a diwylliant sy'n gyrru gwelliant, nid maint.
Wrth siarad ar y mater hwn yn y ddadl ar adroddiad y comisiwn Williams yn ôl yn 2014, eglurais fy marn nad yw ad-drefnu yn ateb i bopeth. Yn y pedair blynedd a aeth heibio, rydym wedi mynd o ad-drefnu arfaethedig i fwy o gydweithredu rhanbarthol ac yn ôl at ymgynghori ar ad-drefnu unwaith eto. Bedair blynedd yn ddiweddarach, rwy'n fwy argyhoeddedig nag erioed y byddai ad-drefnu llywodraeth leol ar adeg o gyni a chyda Brexit ar y gorwel yn drychineb.
Diolch i'r Ceidwadwyr am gyflwyno'r ddadl heddiw. Mae'r ad-drefnu llywodraeth leol arfaethedig—neu'r fersiwn ddiweddaraf ohono yn hytrach—yn fater pwysig, ac mae'n sicr o fod yn ddadleuol. Bydd rhywun yn cwyno beth bynnag fo'r newid y mae Gweinidog yn penderfynu ei wneud i gyfansoddiad cyngor lleol. Felly, i fod yn deg â'r Gweinidog, fel y dywedais yn ystod y cwestiynau diwethaf i'r Gweinidog, beth bynnag y mae'n ei wneud, mae'n sicr o fod yn ddadleuol, gan na allwch wneud omlet heb dorri wyau. Neu i ddefnyddio trosiad arall, ni allwch ysmygu'r sigaréts heb agor y pecyn sigaréts. Wedi dweud hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud môr a mynydd o'r ad-drefnu dros y tair blynedd diwethaf. Rydym ar y trydydd Gweinidog gwahanol a'r trydydd cynllun gwahanol, er nad yw'r fersiwn ddiweddaraf, fel y nododd Siân Gwenllian y tro diwethaf inni drafod hyn, yn wahanol iawn i'r cynllun gwreiddiol, sef model Leighton Andrews.
Felly, rhaid inni gydnabod, fel y mae'r Ceidwadwyr yn ei wneud gyda'r cynnig heddiw, fod y saga hon wedi creu llawer o ansicrwydd ymhlith y staff sy'n gweithio mewn llywodraeth leol. Mewn rhai achosion, gall arwain at fath o barlys, lle na all cynghorau gynllunio ar raddfa fawr gan nad oes ganddynt unrhyw syniad a fyddant yn dal i fodoli ymhen ychydig flynyddoedd, a gall wneud recriwtio swyddogion yn anodd.
Mater arall a godwyd gan CLlLC yw bod y cynllun diweddaraf yn amharu ar weithio rhanbarthol yr oedd llawer o gynghorau eisoes yn ei wneud gyda chyrff ac awdurdodau eraill, a chredaf fod hwn hefyd yn bwynt dilys. Ceir diffyg eglurder yn ogystal ynglŷn ag i ba raddau y byddai'r cynghorau newydd mwy o faint arfaethedig yn sicrhau budd o ran costau, sef y prif reswm dros eu creu yn y lle cyntaf. Felly, yn UKIP, credwn fod y rhain yn bwyntiau dilys, a byddwn yn cefnogi cynnig y Ceidwadwyr heddiw.
Siaradodd Lynne Neagle yn awr am yr angen am sylfaen dystiolaeth cyn inni gael unrhyw ad-drefnu, a chredaf fod llawer o'r pwyntiau a wnaeth yn ddilys iawn hefyd. Roeddent yn cyffwrdd â phethau y soniodd Mike Hedges amdanynt y tro diwethaf. Fe'n hatgoffodd ein bod yn cael clywed, bob tro y cawn ad-drefnu llywodraeth leol yng Nghymru, sef bob 20 mlynedd yn fras, mai hwn yw'r un terfynol, yr ad-drefnu i roi diwedd ar bob ad-drefnu, ond nid yw hynny byth yn wir yn y pendraw. Cawsom ad-drefnu yn 1974, ac eto yn 1995, a bellach mae un arall ar y gorwel, ac ar ôl pob ad-drefnu, o fewn ychydig flynyddoedd, clywn gan y Llywodraeth fod y cynghorau yng Nghymru yn rhy fach ac nad ydynt yn gynaliadwy. Os yw hyn yn parhau, bydd yna ad-drefnu arall ymhen 20 mlynedd, a fydd yn ein gadael gyda phedwar neu bump o gynghorau. Pan gyrhaeddwch y lefel honno, mae arnaf ofn eich bod yn symud oddi wrth unrhyw ymdeimlad ystyrlon fod pobl yn cael eu cynrychioli gan gynghorwyr wardiau lleol, ac rydych yn uno ardaloedd heb unrhyw gysylltiad hanesyddol mewn gwirionedd ac sy'n hollol wahanol o ran eu heconomïau a'u demograffeg o bosibl, a dyna rydym mewn perygl o'i wneud gyda'r ad-drefnu presennol hwn.
Mae'r pwynt arall a godwyd, unwaith eto gan Lynne Neagle, yn ymwneud â'r budd gwirioneddol o ran costau, a gwnaeth Mike Hedges y pwynt hwn y tro diwethaf hefyd. Nid ydym wedi cael unrhyw ddadansoddiad cost a budd go iawn, felly nid ydym yn gwybod a fydd cynghorau mwy o faint yn cyflawni'r arbedion y mae'r Llywodraeth yn eu haddo mewn gwirionedd. Eisoes rydym wedi gweld byrddau iechyd yng Nghymru yn uno, ac rydym wedi cael cyrff mwy o faint, nad yw'n ymddangos eu bod yn perfformio'n arbennig o dda yn gyffredinol. Felly, yr agwedd waethaf ar yr ad-drefnu llywodraeth leol yw y gall arwain at golli mwy o swyddi, darparu llai o wasanaethau i'r cyhoedd, a dal i fethu arbed unrhyw arian ystyrlon o safbwynt costau gweithredu cynghorau.
Rydym yn cytuno â Llywodraeth Cymru ein bod yn ymgynghori ar Bapur Gwyrdd ar hyn, ac rydym yn cytuno â hwy'n fras nad yw 22 o gynghorau lleol yn gynaliadwy. Felly, mewn gwirionedd rydym yn cytuno mewn termau eang iawn â'u gwelliant.
Yr hyn rydym ei eisiau yw mwy o weithio ar y cyd, ond gwyddom fod cydweithio rhwng gwahanol gynghorau'n digwydd eisoes. I ryw raddau, cafodd hyn ei ysgogi gan reidrwydd ariannol am fod y cynghorau'n ymdopi â chyllidebau llai, felly rhaid iddynt gydweithio er mwyn lleihau costau.
Un broblem bosibl yw bod ffurfiau gwahanol ar weithio ar y cyd. Mewn rhai ardaloedd, mae dau gyngor cyfagos yn gweithio gyda'i gilydd, mewn achosion eraill, mae tri neu bedwar cyngor gwahanol yn cyfuno adnoddau. Ac i ychwanegu at y cymysgedd, mae gennym bellach ddau ddinas-ranbarth yng Nghymru a dwy ardal ranbarthol arall sy'n gysylltiedig â bargeinion twf. Ar ben hynny, mae gennym hefyd gynlluniau datblygu strategol yn dod i mewn a fydd yn galw am gyfuniad arall o wahanol gynghorau. Felly, mae perygl, oni bai bod y Gweinidog Llywodraeth Cymru yn dal ei afael yn gadarn ar hyn, gallai patrwm llywodraeth leol a rhanbarthol yng Nghymru ddatblygu'n sydyn i fod yn dameidiog iawn, yn gymhleth iawn, ac i'r pleidleisiwr, yn ddryslyd iawn. Felly, mae gan y Gweinidog rôl bwysig i'w chwarae yn arwain llywodraeth leol. Fodd bynnag, byddai'n well gennym pe bai hyn yn cynnwys mwy o ymgynghori gyda'r cynghorau yr effeithir arnynt.
Felly, rydym yn cytuno gyda'r Ceidwadwyr; credwn eu bod yn iawn i godi'r materion hyn heddiw ac rydym yn cefnogi eu cynnig. Diolch yn fawr iawn.
Rwy'n ddiolchgar am y cyfle hwn i siarad am y gyfres ddiweddaraf o gynigion gan Lywodraeth Cymru i ddiwygio Llywodraeth Leol. Y ddogfen hon yw'r drydedd mewn cyfres o gynigion yn y tair blynedd diwethaf, a phwy a ŵyr, ar ôl ad-drefnu'r Cabinet sydd i ddod ar ddiwedd y flwyddyn hon, efallai nad hon fydd yr olaf.
Mae angen diwygio llywodraeth leol yng Nghymru. Argymhellodd comisiwn Williams a sefydlwyd i ymchwilio i ad-drefnu llywodraeth leol y dylid uno cynghorau yn 10, 11 neu 12 o awdurdodau newydd. Fodd bynnag, ar ôl gwahodd awdurdodau lleol i gyflwyno cynigion ar gyfer trefniadau uno gwirfoddol, gwrthododd y Gweinidogion ar y pryd gynlluniau i uno chwe awdurdod lleol yn dri awdurdod. Yna, cyhoeddodd y Gweinidog ei gynnig unochrog ei hun i gwtogi nifer yr awdurdodau lleol i wyth neu naw. Roedd y cynllun hwn yn ddadleuol ym mhob rhan o Gymru. Mae polisi Llywodraeth Cymru o fynd ati'n fwriadol i anwybyddu pryder awdurdodau lleol, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a chymunedau wedi creu awyrgylch o gryn ansicrwydd sy'n parhau hyd heddiw.
Yr wythnos hon, galwodd y Cynghorydd Peter Fox, y cynghorydd gwych o Fynwy, gynllun Llywodraeth Cymru—eich cynllun chi— yn un cythryblus. 'Unsettling' yw'r gair ar dudalen gyntaf y papur newydd lleol. Aeth ymlaen i ddweud bod arweinwyr cynghorau eisoes wedi gwneud camau breision ymlaen ar weithio gyda'i gilydd. Ni fyddai'r uno ond yn arwain at fanteision ariannol cymedrol, ond byddent yn fach iawn o'u cymharu â chost yr uno.
Y gost yw un o'r cwestiynau sy'n cael eu gadael heb eu hateb gan y Papur Gwyrdd hwn. Mynegwyd pryder go iawn ynghylch cysoni'r dreth gyngor. Gallai talwyr y dreth gyngor band 4 yn Sir Fynwy a Thorfaen orfod talu hyd at £300 yn ychwanegol o dan gynlluniau newydd Ysgrifennydd y Cabinet. Pa lefel o gymorth ariannol y gall awdurdodau lleol ei disgwyl gan Lywodraeth Cymru i'w helpu gydag uno ac i ystyried yr effaith bosibl ar ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yn y tymor byr? Mae Casnewydd yn un o'r ardaloedd, Ddirprwy Lywydd, ar gyfer adleoli ceiswyr lloches, ffoaduriaid a mewnfudwyr eraill. Mae galw cynyddol ar Gasnewydd i ddarparu gwasanaethau penodol i gynorthwyo'r grwpiau hyn sy'n agored i niwed. Rhaid cynnal effeithiolrwydd a gallu awdurdodau lleol i ddarparu gwasanaethau o ansawdd yn y maes hwn.
Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â'r cymunedau lleol eu hunain i sicrhau eu bod yn cymryd rhan lawn yn y broses uno? Pa sicrwydd a roddir i weithlu'r awdurdodau lleol er mwyn rhoi sefydlogrwydd iddynt ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel pan fyddant yn wynebu graddau amhenodol o ddiswyddiadau?
Mae angen mynd i'r afael â'r cwestiynau hyn, ond rhaid i unrhyw gynnig i ddiwygio llywodraeth leol yng Nghymru fynd i'r afael hefyd â diffyg democrataidd. Mae lefelau isel o bobl yn pleidleisio yn arwydd o'r diffyg ymgysylltiad rhwng cynghorau a'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. Mae pobl dduon, lleiafrifoedd a phobl ethnig wedi eu tangynrychioli'n sylweddol ym myd gwleidyddiaeth yng Nghymru. Dangosodd arolwg o ymgeiswyr llywodraeth leol yn 2012 mai 1 y cant yn unig o gynghorwyr Cymru sy'n dod o gefndiroedd nad ydynt yn wyn, dyna'r ffigur.
O ganlyniad i'r etholiadau lleol y llynedd, mae ychydig dros 28 y cant o gynghorwyr yn fenywod. Mae absenoldeb unrhyw amrywiaeth go iawn o ran rhyw, oedran ac ethnigrwydd mewn llywodraeth leol yng Nghymru yn parhau. Mae angen i wleidyddion lleol allu ymwneud â'u hetholwyr, deall eu hanghenion a siarad am y materion sy'n effeithio arnynt yn uniongyrchol. Ddirprwy Lywydd, mae diwygio llywodraeth leol yn cynnig cyfleoedd i ailystyried sut y darperir gwasanaethau cyngor ac i adnewyddu ein democratiaeth. Rwy'n annog Llywodraeth Cymru i ymgynghori ac ymgysylltu er mwyn sicrhau'r budd mwyaf posibl o ran cost a darparu gwasanaethau, a pheidio â cheisio gosod rhaglen o'r brig i'r bôn—ac nid yw'n addas i bawb, sef yr hyn y mae gwir angen inni edrych arno. Diolch yn fawr iawn.
Creodd ad-drefnu llywodraeth leol yn 1974 wyth cyngor sir a 37 o gynghorau dosbarth, gan roi diwedd ar fwrdeistrefi sirol, a oedd yn awdurdodau unedol. Y rheswm? Roeddem angen awdurdodau mwy o faint ac unffurfiaeth, ac roedd llawer o'r cynghorau dosbarth trefol a'r cynghorau dosbarth gwledig yn rhy fach. Yna, yn 1992, sefydlwyd 22 prif gyngor, a'r awdurdodau unedol hyn sydd wedi llywodraethu Cymru ers 1996.
Mae'r comisiwn Williams a sefydlwyd gan Carwyn Jones, a'r cynigion dilynol a gyflwynwyd gan Leighton Andrews fel y Gweinidog gwasanaethau cyhoeddus wedi argymell lleihau nifer yr awdurdodau lleol yng Nghymru ymhellach eto. Mae trefniadau uno llywodraeth leol o dan ystyriaeth unwaith eto, a cheir consensws gwleidyddol fod arnom angen awdurdodau mwy o faint, er bod galw ailgyfansoddiad o fodel Dyfed yn gyngor lleol i'w weld braidd yn rhyfedd—i mi o leiaf. Efallai ei fod yn seiliedig ar lwyddiant mawr Hywel Dda fel bwrdd iechyd. Cafodd hyn ei adeiladu ar y gred fod cynghorau mwy o faint yn perfformio'n well ac yn fwy effeithlon. Wel, mae gan Loegr a'r Alban nifer o awdurdodau unedol sy'n fwy na Chaerdydd, ond mae gan yr Alban bump yn llai na Merthyr—Inverclyde, Clackmannan, Ynysoedd y Gorllewin, Ynysoedd Orkney ac Ynysoedd Shetland—ac mae gan Loegr un, Rutland.
Pe bai awdurdodau mwy o faint yn fwy effeithlon ac effeithiol, byddai dau beth yn digwydd: byddai'r dreth gyngor yn is a byddai perfformiad yn well. Dylai'r awdurdodau mwy o faint a Phowys, na thybiwyd bod angen ei huno, godi'r symiau isaf. Rwyf bob amser wedi rhyfeddu pam y caiff Powys ei thrin yn wahanol i unrhyw le arall yng Nghymru, ond—. Er bod gan y ddau awdurdod lleiaf y dreth gyngor uchaf, mae'n ymddangos bod awdurdodau canolig eu maint yn perfformio'n well nag awdurdodau mawr neu awdurdodau bach ar gost y dreth gyngor i breswylwyr.
A yw perfformiad cynghorau yn dangos bod yr awdurdodau mwy o faint yn ôl poblogaeth yn perfformio'n well? Yn ôl y Western Mail, nid yw ansawdd gwasanaethau a ddarperir gan awdurdodau lleol yng Nghymru wedi'i bennu yn ôl maint y cyngor.
Mae ffigurau'r Western Mail yn seiliedig ar 28 o ddangosyddion ar draws amrywiaeth o feysydd llywodraeth leol, gan gynnwys addysg, gofal cymdeithasol, tai, yr amgylchedd a thrafnidiaeth, gwasanaethau cynllunio a rheoleiddio, hamdden, diwylliant ac iechyd corfforaethol, gyda phedwar pwynt yn cael eu rhoi i gynghorau a berfformiodd yn chwartel uchaf pob dangosydd, ac un pwynt i'r rhai ar y gwaelod. O'r data hwn, nid yw'n bosibl casglu bod cynghorau mwy o faint a Phowys yn perfformio'n well, oherwydd mai awdurdodau o faint canolig sydd mewn tri o'r pedwar lle uchaf.
Yn yr Alban, mae'r amrywiad yn y dreth gyngor yn llawer llai nag yn Nghymru, ond mae'r dreth gyngor isaf yn Ynysoedd y Gorllewin ac Ynysoedd Shetland, dau o'r awdurdodau lleiaf, ac mae'r dreth gyngor fwyaf yn Glasgow, sef yr awdurdod mwyaf.
Dros y 25 mlynedd diwethaf, ad-drefnwyd gwasanaethau sydd wedi creu sefydliadau mwy o faint ledled y sector cyhoeddus a reolir gan Lywodraeth Cymru—ac iechyd yw'r enghraifft berffaith. Yn gyffredinol, ceir consensws gwleidyddol yn y Cynulliad Cenedlaethol fod y cyrff mwy o faint hyn yn well na'r rhai bach a bod uno yn gyffredinol yn beth da.
Mae uno'n ddrud, nid yn unig o ran costau diswyddo a chostau ailddiffinio'r sefydliad, TGCh—ac i'r bobl sydd wedi bod yn ei ddilyn, ar ôl creu Cyfoeth Naturiol Cymru, daethant yn ôl dro ar ôl tro i ofyn am fwy o arian i'w fenthyca er mwyn datrys eu problemau TGCh. Ac mae'n anochel; TGCh yw'r hyn sy'n gwmwl uwchben ad-drefnu unrhyw sefydliad. Iawn.
Diolch am ildio, Mike Hedges. Nid wyf yn anghytuno â gair rydych wedi'i ddweud hyd yma. A wnewch chi ymrwymo i roi'r gorau i'r cynlluniau hyn pan ddowch yn Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol? [Chwerthin.]
Diolch i Nick Ramsay am—
Mae gennyf ddiddordeb yn yr ateb hwn. [Chwerthin.]
A gaf fi ddiolch i Nick Ramsay am ei sylwadau? Nid wyf yn meddwl mai'r cynigion hyn yw'r ffordd gywir ymlaen. Dyna'r cyfan a ddywedaf. [Torri ar draws.]
Oherwydd, TGCh, mae pobl dan gontract, mae angen eu diweddaru neu eu dirwyn i ben wrth uno ac weithiau fe fyddwch yn talu—[Torri ar draws.] Weithiau fe fyddwch yn talu—
Byddwch yn dawel.
—cymaint fesul 1,000 neu 10,000 o eitemau yn eich cronfa ddata neu yn eich strwythur, ac mae hynny'n golygu nad yw uno o reidrwydd yn arbed unrhyw arian i chi, oherwydd, os ewch o 10,000 i 15,000, ni fyddwch yn dweud, 'O, rydym wedi uno dau', rydych mewn gwirionedd—. Ac mae'n rhaid i chi gynhyrchu'r un nifer o slipiau cyflog. Nid ydych yn mynd i dalu llai o bobl oherwydd eich bod wedi uno.
Mae'r rhain oll yn gostau ymlaen llaw ac er bod y gost o ad-drefnu llywodraeth leol oddeutu 5 y cant o'r gwariant blynyddol y tro diwethaf, rydym hefyd yn gwybod bod pethau eraill wedi digwydd bellach o ran y newid yn y telerau ac amodau.
Os dilynwch gasgliadau gor-syml rhai pobl, wedyn, ar ôl uno, caiff yr holl swyddi uwch swyddogion a ddyblygir eu dileu ac felly gwneir arbedion sylweddol parhaus. Mae theori economaidd yn darogan y gallai sefydliad ddod yn llai effeithlon os yw'n rhy fawr. Mae sefydliadau mwy o faint yn aml yn dioddef o gyfathrebu gwael, oherwydd eu bod yn ei chael hi'n anodd cynnal llif effeithiol o wybodaeth rhwng adrannau, is-adrannau neu rhwng y brif swyddfa a rhannau anghysbell. Mae problemau cydgysylltu hefyd yn effeithio ar sefydliadau mawr. 'X-aneffeithlonrwydd' yw colli effeithlonrwydd rheoli sy'n digwydd pan fydd sefydliadau'n mynd yn fawr ac yn gweithredu mewn marchnadoedd anghystadleuol. Mae colli effeithlonrwydd o'r fath yn cynnwys gordalu am adnoddau, gan gynnwys staff uwch—efallai fod hynny'n rhywbeth y gallai rhai pobl fod yn meddwl amdano—a gwastraff gormodol o adnoddau.
A gaf fi ychwanegu, os oes tystiolaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet—tystiolaeth empirig—fod sefydliadau mwy o faint yn y sector cyhoeddus, a llywodraeth leol yn arbennig, unrhyw le yn y byd yn gweithio'n fwy effeithlon a chosteffeithiol, a wnaiff ei gyhoeddi? Oherwydd ni allaf ddod o hyd i unrhyw rai.
Mae'n ddrwg gennyf ddychwelyd at hyn, Ysgrifennydd y Cabinet, ond credaf ei fod yn dweud llawer fod y cynnig ac un o welliannau Plaid Cymru yn adlewyrchu'r ffaith nad yw Ysgrifennydd y Cabinet wedi cychwyn ar y broses hon mewn gwirionedd yn y ffordd fwyaf doeth. Mae'r ddau'n cyfeirio at ddull annigonol o ymgysylltu ag arweinwyr cynghorau presennol a dylanwadu arnynt. Credaf fod pob un ohonom yn deall yr angen i roi rhai camau ar waith ar yr agenda hon, ond drwy weini'r un stwnsh yn hytrach nag ymgysylltu â chynghorau er mwyn paratoi'r fwydlen, rydych yn dechrau anobeithio y gellir maethu'r rhai y mae angen ichi eu perswadio. Rwy'n siŵr eich bod yn cofio'r llanastr yn rhengoedd y Blaid Lafur ym Mhen-y-bont ar Ogwr y tro diwethaf yr awgrymodd rhywun yn garedig pwy y dylent fod yn uno â hwy. Cafwyd rhwygiadau a gwaharddiadau, ac er eu bod yn rhywfaint o hwyl i'r pleidiau gwleidyddol eraill wrth gwrs, roeddent yn ymyriad enfawr a niweidiodd awdurdod y cyngor ac amsugno llawer o amser pan allai'r Cyngor fod yn gwneud rhywbeth defnyddiol ar ran ei drigolion. Ac nid wyf yn credu mewn gwirionedd ei fod yn ymwneud â hunan-fudd ar ran y rhai a gafodd eu dal yn y frwydr. Yr hyn sy'n dal i aros yno yw'r teimlad eu bod wedi cael eu gwthio i ymladd gan gynigion na chafodd eu llunio ganddynt, a lle na chynigiwyd cyfleoedd i liniaru'r difrod yn y camau cynnar o ddatblygu polisi. Credaf nad yw ymgynghoriad post facto fel yr un sydd gennym yn awr yn mynd i dawelu'r dicter hwnnw mewn gwirionedd.
Rwy'n amau eich bod hefyd yn mynd i wynebu trafferthion gyda'r modelau cydweithio presennol, sydd eisoes wedi'u crybwyll, a'r dymuniad i weld cydffiniant yn digwydd. Cyflwynodd eich Llywodraeth y byrddau partneriaeth rhanbarthol, ac ar hyn o bryd, mae Bae'r Gorllewin yn fy rhanbarth i yn adlewyrchu nid yn unig ffiniau etholaethau, fwy neu lai, ond ffiniau Bwrdd Iechyd Lleol Abertawe Bro Morgannwg hefyd. Rwy'n credu bod symud gofal ysbyty Pen-y-bont ar Ogwr yn rhan o Gwm Taf, sydd mor bendant yn yr arfaeth ag y gall fod, rwy'n credu, yn cael gwared ar y cydffiniant hwnnw'n llwyr, ond wrth gwrs, byddai'n ei adfer pe bai eich syniad chi o uno rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn mynd rhagddo. Mae newid cyfrifoldeb bwrdd iechyd lleol, y teimlid cryn bryder dealladwy yn ei gylch ar y dechrau, bellach wedi dod yn newid sy'n sbarduno dicter, ynghyd â drwgdeimlad, oherwydd mae'n edrych fel pe bai Llywodraeth Cymru wedi achub y blaen drwy ragdybio y bydd ei fersiwn hi o ddiwygio llywodraeth leol yn cael ei dderbyn.
A beth sy'n mynd i ddigwydd i'r byrddau partneriaeth rhanbarthol? Mae'n debyg y bydd rhai gwelliannau i Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013, ond rwy'n eithaf awyddus i ddarganfod beth rydych yn mynd i'w wneud i Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 2015 ei hun. Os cofiwch, roedd yn seiliedig ar derfyn amser Tachwedd 2015. Felly, a fyddwch yn tynnu hyn oddi ar y llyfrau statud am ei fod yn ddianghenraid bellach? Os bu erioed ddarn hurt o ddeddfwriaeth, hwn ydoedd—a osodai derfynau amser ar awdurdodau lleol na ellid cadw atynt, neu lle y llwyddwyd i gadw atynt, câi cynlluniau a ffafrid eu hanwybyddu. A nododd Janet Finch-Saunders ddiffygion amlwg y ddeddfwriaeth honno, fel yr oedd yn mynd drwodd, ond cafodd ei gwrthod yn llwyr, fel yn wir y gwrthodwyd safbwyntiau arweinwyr y cynghorau.
Felly, Weinidog y Cabinet, os ydych yn bwriadu bod ychydig yn fwy cymodlon na'r Gweinidog ar y pryd, efallai y gallwch roi syniad i ni pa rannau o'r Ddeddf honno y bwriadwch eu cadw, oherwydd gwelaf rai ymadroddion cyfarwydd yn y Papur Gwyrdd, ond rwy'n eich annog i roi'r gorau i'r syniad o bwerau i atal awdurdodau lleol rhag cynllunio eu hunain yn ôl egwyddorion cabinetau meiri. Pam mai Llywodraeth Cymru a ddylai benderfynu hynny? Mae'r lle hwn wedi llwyddo i gael y pwerau'n ddiweddar i bennu ei strwythurau a'i system etholiadol ei hun, gan agor trafodaeth. Felly, pam y byddai'r Llywodraeth bellach yn ystyried cau'r drafodaeth ynghylch sut bethau fydd y cynghorau, gan gynnwys cynghorau a fyddai wedi uno?
Dau bwynt i orffen, gan fod pobl eraill wedi siarad yn fwy cyffredinol am gost—a allwch ddweud wrthyf a fyddwch yn trin a thrafod effeithiau uno ar y dreth gyngor a dyledion cynghorau cyn hyd yn oed ystyried arfer pŵer Gweithredol? Fel y mae'n rhaid cytuno ar delerau ymadael â'r UE cyn gadael, dylid cytuno felly ar delerau uno cyn uno cynghorau—ymlaen llaw, nid ar y cam llunio is-ddeddfwriaeth. A allwch ddweud wrthyf hefyd beth rydych wedi'i wneud i sicrhau nad yw'r don newydd hon o ansicrwydd yn effeithio'r un iot ar y cynnydd a wnaed gan y ddwy fargen ddinesig sy'n effeithio ar fy rhanbarth? Cynlluniau ar gyfer y Dyfed newydd—ac mae Paul Davies wedi crybwyll digon o broblemau gyda hwy eisoes—nid yn unig eu bod yn gwbl groes i uchelgeisiau'n ymwneud â chydffiniant, ond maent hefyd yn rhoi unrhyw gyngor cyfunol newydd mewn sefyllfa anodd iawn o ran trigolion Ceredigion a'r ffaith y cânt eu hepgor ar hyn o bryd o'r cynnydd economaidd a gontractiwyd ar gyfer cynghorau Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro yn unig.
Nawr, wrth gwrs, mae hi bob amser yn mynd i fod yn eithaf trafferthus gydag arweinwyr cynghorau. Rwy'n credu y gallai pawb ohonom fod wedi rhagweld hynny mae'n debyg, ond rwy'n meddwl tybed beth a ddigwyddodd i'r Alun Davies a wnaeth sioe fawr yn y Siambr hon, pan oedd yn Weinidog dros y Gymraeg, ynglŷn â sut yr oedd yn rhesymol a digyffro, yn taenu blodau ar hyd y llwybr i oleuedigaeth ac yn creu dealltwriaeth ymhlith y cynghorau, yn hytrach nag ufudd-dod, sef yr hyn sydd gennym yn awr.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, Alun Davies?
Am yr ail dro mewn ychydig fisoedd cefais fy ngadael yn fud gan syndod, Ddirprwy Lywydd. Ymddengys fy mod wedi gadael fy mlodeugedau yn rhywle arall, ac nid oes gennyf ddim heblaw fy ffraethineb a fy noethineb. Felly, gallai hwn fod yn gyfraniad byr iawn. [Chwerthin.] Ond fe atebaf y pwynt oherwydd roeddwn yn meddwl ei bod hi'n araith feddylgar a diddorol iawn gan Suzy Davies yn awr, a oedd yn fy herio, rwy'n teimlo, mewn ffordd deg a rhesymol iawn. Wrth gwrs, nid ydym am orfodi. Rydym yn dymuno dod i gytundeb. Ac mae yna gytundeb, mewn gwirionedd, ac mae yna gytundeb ar draws llywodraeth leol ac rwy'n credu—. Clywsom gan lefarydd UKIP y prynhawn yma, ac rydym wedi clywed gwleidyddion ar bob ochr i'r Siambr mewn mannau eraill yn cydnabod nad yw'r strwythurau presennol sydd gennym yn gynaliadwy. Ac yn y cyfarfod cyntaf a gefais gyda CLlLC yn neuadd y ddinas Caerdydd ym mis Tachwedd, roedd CLlLC eu hunain yn glir iawn bryd hynny nad yw'r strwythurau presennol yn gynaliadwy: nid yw 22 o awdurdodau lleol mewn gwlad o 3 miliwn o bobl yn strwythur cynaliadwy, ac mae hynny—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Fe ganiatâf ichi ymyrryd.
A dôi hynny gan CLlLC, nid gan Lywodraeth Cymru.
Sut y mae hynny'n cymharu â gweddill gorllewin Ewrop?
Wel, nid aeth CLlLC mor bell â hynny, mae arnaf ofn, ond fe ddywedaf wrth fy ffrind da iawn o Ddwyrain Abertawe, sydd wedi gwneud araith nad yw'n hollol anghyfarwydd i mi, nad oes gennym, fel gwlad, y boblogaeth fwyaf ar y blaned. Mae poblogaeth Cymru ychydig yn fwy nag un Paris neu Rufain, ond mae'n llai nag un Berlin a Madrid. Mae arnom angen y strwythurau sy'n adlewyrchu'n briodol y cymunedau a wasanaethir gennym, ac roeddwn yn meddwl bod y pwyntiau a wnaeth Paul Davies yn hynny o beth yn rhai teg, ac yn bwyntiau da a rhesymol. Wrth gwrs, roeddem ein dau'n byw yn Nyfed yn y dyddiau hynny, a hoffwn atgoffa'r Aelod dros y Preseli fod rhai o broblemau Dyfed wedi'u hachosi, wrth gwrs, gan Ysgrifennydd Gwladol Ceidwadol a gyfyngodd gryn dipyn ar lywodraeth leol ar y pryd, a gwelsom broblemau sylweddol nid yn unig yn Nyfed ond ledled Cymru.
Pan fyddaf yn siarad ag arweinwyr llywodraeth leol—. Rwy'n falch fod llefarydd y Ceidwadwyr, Janet Finch-Saunders, ar daith o amgylch Cymru. Efallai y byddwn yn taro ar ein gilydd ar ryw bwynt hyd yn oed, ac fe edrychwn ymlaen at y sgyrsiau hynny. Ond pan fyddaf yn teithio o amgylch Cymru, ac yn teithio i ymweld ac i siarad â chynghorwyr, cynghorau ac arweinwyr cynghorau, maent yn gwneud pwyntiau cadarn iawn weithiau, gadewch inni wynebu hynny. Rydym yn cael sgyrsiau cadarn a heriol iawn. Ond wyddoch chi, nid oes yr un ohonynt—nid oes yr un ohonynt—nid oes neb yn unman wedi dweud wrthyf, 'Hoffwn pe bai gennym Weinidog Ceidwadol yn darparu polisïau Ceidwadol, fel y maent yn ei wneud ar draws y ffin yn Lloegr'. Neb ohonynt. Hyd yn oed eich cynghorydd Ceidwadol. Rwy'n cytuno â disgrifiad Oscar o Peter Fox—mae'n arweinydd awdurdod lleol gwych—ond rhaid dweud fy mod yn dal i aros am yr ohebiaeth lle mae'n ceisio dylanwadu arnaf i ddilyn polisïau Ceidwadol yn Lloegr, sydd wedi lleihau pŵer gwario awdurdodau lleol 49 y cant yn ystod y chwech neu saith neu wyth mlynedd diwethaf. [Torri ar draws.] Rwyf bob amser yn gwybod pan wyf yn gwneud cynnydd oherwydd mae'r Aelod dros Orllewin Clwyd yn dechrau codi ei lais.
Mae pŵer gwario awdurdodau lleol yn Lloegr wedi gostwng 49 y cant. Nawr, dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr, yr Aelod dros Aberconwy, fod angen inni barchu Llywodraeth Leol, ac rwy'n cytuno gyda—mae angen inni wneud hynny. Ond nid dangos parch yw torri'r cymorth i wasanaethau lleol yn ei hanner, diffyg parch yw hynny. Mae'n dangos nad ydynt yn becso'r dam am y gwasanaethau neu'r bobl sy'n darparu'r gwasanaethau, a dyna realiti polisi'r Ceidwadwyr. Mae'r Ceidwadwyr wedi sefyll y prynhawn yma a gwneud rhai pwyntiau teg a rhesymol ar adegau, rwy'n cytuno, ynglŷn â rhaglen uno. Ond yr hyn nad ydynt wedi atgoffa'r Siambr yn ei gylch yw bod y Llywodraeth Geidwadol yn Lloegr nid yn unig wedi gorfodi ac wedi galluogi uno i ddigwydd, ond maent wedi gwneud hynny heb unrhyw gymorth nac unrhyw gyllid o gwbl, yn unrhyw le ar unrhyw adeg. Felly, nid yw'n iawn nac yn briodol iddynt ddod yma i wrthwynebu polisïau gan Lywodraeth yma sy'n ceisio cefnogi a grymuso llywodraeth leol heb gymryd cyfrifoldeb ar yr un pryd am rai o'r polisïau y maent hwy eu hunain yn eu cefnogi ar draws y ffin. [Torri ar draws.] Rwyf am wneud rhywfaint o gynnydd, os caf. Gwelaf fod yr amser yn fy erbyn.
Oherwydd rwyf am fynd y tu hwnt i'r sgwrs a gawsom y prynhawn yma. Yn rhy aml o lawer pan fyddwn yn dadlau ac yn trafod llywodraeth leol rydym yn trafod llinellau ar fapiau ac rydym yn trafod rhaglen uno. Credaf fod rhaglen o greu awdurdodau lleol mwy o faint yn rhagofyniad i rywbeth arall, a'r rhywbeth arall sy'n bwysig i mi. Fe ddywedaf gyfrinach wrth yr Aelodau yma. Pan fyddaf yn mynd i'r gwely yn y nos, nid wyf—[Torri ar draws.] Rwy'n mynd i orffen y frawddeg. Nid wyf yn—[Torri ar draws.]
A gawn ni i gyd dawelu?
Nid wyf yn gosod copi o'r Papur Gwyrdd neu fap o'r awdurdodau newydd o dan fy ngobennydd. Nid wyf yn gwneud hynny. Nid wyf yn breuddwydio, nid wyf yn deffro'n sydyn am dri o'r gloch yn y bore yn breuddwydio am awdurdodau newydd ym Mro Morgannwg neu yn Nyffryn Clwyd neu rywle arall, neu ddychweliad baner Dyfed a brenhinoedd Deheubarth. Nid wyf yn breuddwydio na'n meddwl am bethau fel hynny, ac nid wyf wedi ymrwymo i fodel penodol neu ddaearyddiaeth benodol, ond rwyf wedi ymrwymo i rywbeth arall. Rwyf wedi ymrwymo i lywodraeth leol wedi'i grymuso. Rwyf wedi ymrwymo i lywodraeth leol gryfach a democratiaeth leol well ac atebolrwydd democrataidd. A wyddoch chi beth sy'n fy nghymell, beth sy'n fy nghadw ar ddihun yn y nos? Gwybod bod 700 o bobl yng Ngheredigion wedi colli eu swyddi oherwydd yr hyn sy'n digwydd i lywodraeth leol heddiw. Yr hyn sy'n fy nghadw ar ddihun yn y nos yw gwybod bod yna bobl sy'n ofni gweld bil y dreth gyngor oherwydd bod cynghorau'n cael trafferth i wynebu cyni ac yn wynebu anawsterau i gydbwyso eu cyllidebau, a hynny mewn cyd-destun lle mae'r Llywodraeth hon wedi diogelu'r cyllidebau hynny ac wedi diogelu'r gwasanaethau hynny. Nid ydym ni yng Nghymru wedi gweld unrhyw beth tebyg i'r toriadau a welwyd yn Lloegr, ond rydym wedi gweld y tarfu ar wasanaethau a'r methiant i ddarparu gwasanaethau ar wahanol adegau am fod gennym strwythur nad yw'n addas at y diben nac yn gynaliadwy, ac mae CLlLC yn cytuno â'r dadansoddiad hwnnw, a gwn fod pobl ar bob ochr i'r Siambr yn cytuno â hynny.
Ond gadewch inni fynd y tu hwnt i ddadl sych a blinedig ar linellau ar fapiau a chynlluniau uno. Gadewch inni edrych ar y weledigaeth. Nid yw'n ddigon da—nid yw'n ddigon da i unrhyw Aelod ar unrhyw ochr i'r Siambr yma heddiw sefyll a gwneud araith yn dweud wrthym beth y maent yn ei wrthwynebu a beth nad ydynt yn ei hoffi. Ni chawn ein talu i ddweud wrth bobl beth nad ydym yn ei hoffi. Ni chawn ein talu i ddweud wrth bobl am y problemau y maent eisoes yn gwybod amdanynt. Cawn ein talu yma i ddod o hyd i atebion i'r problemau hynny, i ddod o hyd i atebion i'r anawsterau sy'n wynebu pobl. A gadewch imi ddweud hyn—gwn fod amser yn fy erbyn, Ddirprwy Lywydd—mae Llafur Cymru yn credu yn y polisi hwn o greu cynghorau cryfach mwy o faint am ein bod am amddiffyn ein gwasanaethau, rydym am amddiffyn y bobl sy'n darparu'r gwasanaethau hynny, ac rydym eisiau sicrhau mwy o atebolrwydd democrataidd. Rydym eisiau diwylliant newydd, rydym eisiau perthynas newydd rhwng y lle hwn a llywodraeth leol. Dywedais yn fy araith ar y penwythnos yn Llandudno ei bod hi'n bryd cael setliad newydd yng Nghymru.
Rydym wedi gweld ac rydym wedi ymgyrchu dros, a'r prynhawn yma rydym wedi trafod datganoli i Gymru. Ond credaf ein bod angen datganoli o fewn Cymru hefyd—mwy o bwerau i awdurdodau lleol cadarn gyda'r gallu i'w defnyddio a chyda gweledigaeth strategol i ddarparu gwasanaethau ledled Cymru, a mwy o bwerau i bob awdurdod lleol, pob awdurdod lleol diwygiedig yng Nghymru. Rwyf wedi rhoi ymrwymiad y byddwn yn dechrau ystyried cyflwyno Siarter yr UE ar gyfer hunanlywodraeth leol yng nghyfraith Cymru, ac rwyf am fynd ymhellach na hynny. Rwyf am ystyried cydwasanaethau a chorff gwella yng Nghymru i roi pwerau i lywodraeth leol a chyfrifoldeb dros welliant mewn llywodraeth leol.
Yn rhy hir, mae'r lle hwn a llywodraeth leol wedi bod fel chwiorydd anhapus, yn dadlau â'i gilydd. Mae angen perthynas aeddfed rhyngom a llywodraeth leol. Mae angen perthynas newydd rhyngom a llywodraeth leol. Mae arnom angen setliad newydd ar gyfer llywodraeth leol. Mae angen llywodraeth leol sydd wedi'i grymuso, cynghorau cryfach, yn gweithio ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru i ddarparu gwasanaethau ar gyfer Cymru gyfan, a chredaf, Ddirprwy Lywydd, mai dyna yw dymuniad pobl Cymru yn ogystal. Diolch yn fawr iawn.
Diolch.
Fe benderfynaf fi pwy sy'n siarad yn rhy hir yn y Siambr hon, diolch yn fawr iawn, ac efallai y bydd rhai ohonoch eisiau siarad mewn dadleuon eraill yn nes ymlaen heddiw. A gaf fi alw yn awr ar Nick Ramsay i ymateb i'r ddadl, os gwelwch yn dda?
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi gofnodi ar ddechrau fy nghyfraniad nad wyf fi'n gorwedd ar ddihun am dri o'r gloch y bore naill ai'n meddwl, neu'n cysgu ac yn breuddwydio am gynlluniau'r Ysgrifennydd y Cabinet ar gyfer llywodraeth leol yng Nghymru, er gwaethaf sïon a allai fod wedi mynd o gwmpas ar ôl y datganiad diwethaf a roesoch ar y pwnc hwn, Alun Davies, pan ddywedais y buaswn yn fwy na pharod i fyw gerllaw a'r drws nesaf i Ysgrifennydd y Cabinet ond yn llai na hapus i fyw gydag ef yn yr un awdurdod, ac rwy'n siŵr y byddech yn cytuno â hynny yn ogystal, Ysgrifennydd y Cabinet.
Efallai y dylwn ofyn i Mike Hedges grynhoi'r ddadl hon, gan ei fod ychydig bach yn fwy gwrthwynebus i'r cynlluniau hyn nag yr wyf fi, er mai enw'r Ceidwadwyr sydd ar y ddadl. Ond ni wnaf hynny, Ddirprwy Lywydd, oherwydd gwn y byddai hynny'n ennyn eich dicter ar y pwynt hwn.
Edrychwch, mae'n rhaid i mi ddweud, dechreuais deimlo braidd yn ddrwg drosoch chi, mewn gwirionedd, Alun Davies, gan ei fod ychydig bach fel annerch cyfarfod o CLlLC neu gyfarfod o'r Blaid Lafur, y ddadl hon heddiw. Oeddech wir—wel, ni allaf feddwl am un person mewn gwirionedd a gefnogai eich cynlluniau. Fe wnaethoch—hynny yw, nid yw'n ddyn drwg. Rwy'n rhoi hynny i chi Ysgrifennydd y Cabinet—nid ydych yn ddyn drwg. Ac nid ydych yn anneallus, felly gwn eich bod wedi meddwl—nid cymaint ag y dylech fod wedi'i wneud efallai—am rai o'r cynigion hyn, ac mae hynny i'w groesawu.
Yr hyn a ddywedwn yw eich bod wedi gwneud pwynt pwysig iawn tua'r drydedd ran cyn diwedd eich rhethreg yn gynharach, lle y dywedoch eich bod wedi cael llond bol ar y ddadl sych hon. Rwy'n credu ein bod i gyd wedi cymeradwyo hynny, oni wnaethom? Credaf fod pawb ohonom wedi blino arni hefyd. Ond wrth gwrs, y rheswm pam yr ydym yn cael y ddadl sych hon yw oherwydd eich bod wedi dwyn y drafodaeth hon i'r Cynulliad drwy gyflwyno'r cynigion hyn sydd wedi hen drengi sawl gwaith dros y blynyddoedd ers inni gael y Cynulliad hwn. Ni allwn gyfrif nifer y—bydd Mike Hedges yn cofio'r union nifer o weithiau yr ydym wedi trafod hyn—ac rydym wedi cau'r drws ar y cynigion hyn o'r blaen.
Felly, fe gyflwynoch y ddadl i ni. Ac os yw'r hyn a ddywedwch yn wir, sef mai rhagofyniad yw hyn i'r hyn rydych eisiau ei drafod mewn gwirionedd—sef, rwy'n tybio, moderneiddio gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, ac sydd, rwy'n tybio, yn rhoi'r dinesydd wrth wraidd y system, a pha mor aml y trafodwn hynny—yna pam ar y ddaear, ni allaf ddirnad pam nad ydych yn cael y ddadl honno a pham nad ydych yn dod â'r cynigion hynny i'r lle hwn a mannau eraill yn gyntaf, a gadewch inni gael y drafodaeth am y strwythur sy'n dilyn. A phwy a ŵyr, efallai y llwyddwch chi i berswadio pobl—efallai y llwyddwch i berswadio un person. Rwy'n siŵr eich bod wedi gwneud hynny—nid af yno. Rwy'n siŵr eich bod wedi perswadio pobl o'r blaen. Ond yr hyn a oedd yn gwbl amlwg o'r ddadl hon heddiw oedd nad yw'n ymddangos eich bod yn ymgysylltu â phobl a chario'r cyhoedd ac ACau a gwleidyddion a llywodraeth leol gyda chi er gwaethaf eich dymuniad gwreiddiol i wneud hynny.
Mae'n rhaid i chi—wel, mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi nodi mai dadl y Ceidwadwyr yw hon, ond nid yw wedi dianc rhag ein sylw nad y Ceidwadwyr yn unig, nac Aelodau'r gwrthbleidiau eraill, a oedd yn cefnogi egwyddorion y ddadl hon heddiw. Mae'n amlwg nad ydych yn mynd o'i chwmpas hi yn y ffordd iawn. Rydych yn gwneud llawer o bethau yn y ffordd iawn, nid wyf yn amau hynny. Ond nid yw hyn, Ysgrifennydd y Cabinet, yn un ohonynt.
Mae wedi bod yn eithaf clir o'r ymateb heddiw gan Aelodau, a chyfeiriaf at rai ohonynt yn awr, fod yna bryderon. Mae Siân Gwenllian, a siaradodd, yn iawn. Oes, mae angen cryfhau ein cynghorau. Gan roi'r herian sy'n aml yn digwydd yn y lle hwn ynglŷn â thoriadau o'r neilltu, ac a ydynt yn doriadau'r DU neu'n doriadau yma, wrth gwrs bod moderneiddio awdurdodau lleol a gwasanaethau cyhoeddus yn rhywbeth y mae angen inni ei wneud nid yn unig mewn cyfnod o doriadau, ond ar adegau o ffyniant hefyd. A ydych yn cofio'r ymadrodd, 'Rhaid inni drwsio'r to pan fydd yr haul yn tywynnu'? Wel, roedd yn berthnasol ar lefel y DU, ac roedd yn berthnasol mewn gwleidyddiaeth ddatganoledig yn ogystal. Felly, er gwaethaf y sefyllfa economaidd, mae angen i lywodraeth leol foderneiddio. Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn iawn am hynny, mae aelodau'r Blaid Lafur yn iawn am hynny ac mae aelodau'r wrthblaid yn iawn am hynny, felly gadewch inni fwrw ymlaen â chael y drafodaeth honno.
Lynne Neagle—wel, beth rydych yn ei gredu mewn difrif, Lynne? Amddiffyniad stoicaidd o'r status quo—y status quo, ond wedi'i foderneiddio yn amlwg. Roedd eich sylwadau'n debyg iawn i rai CLlLC y gwn fod Llywodraeth Cymru yn aml yn eu gwrthod ac yn dweud, 'Wel, fe fyddent yn dweud hynny, oni fyddent?' Wel, byddent, fe fyddent yn dweud hynny, oherwydd maent yn cynrychioli nifer dirifedi o bobl mewn llywodraeth leol, ac nid swyddogion etholedig yn unig ond gweision cyhoeddus mewn llywodraeth leol sy'n gwneud eu gorau ar yr adegau anodd hyn i wneud yn siŵr fod gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu darparu cystal ac mor effeithlon â phosibl. Rwy'n siŵr ein bod i gyd gyda hwy yn yr ysbryd o ran yr awydd i gyflawni hynny.
Oscar, fe siaradoch am ymgysylltiad a pha sicrwydd y mae gweithwyr yn yr awdurdodau lleol hynny'n ei gael. Yn amlwg, rwy'n agosach at awdurdod lleol Ceidwadol a gynrychiolaf nag yr wyf fi at awdurdodau lleol eraill, ond nid wyf yn hollol siŵr pa sicrwydd yr ydych wedi'i gyflwyno i'n gweithwyr mewn awdurdodau lleol ar hyn o bryd, oherwydd maent o dan bwysau. Maent yn ymdrechu'n galed i wneud pethau mewn sefyllfa sy'n fwyfwy anodd. Yn sicr ni chânt eu calonogi gan y dadleuon a wnaethoch.
Paul Davies—wel, mewn gwirionedd, cyn imi ddod yma heddiw, mae'n debyg y dylwn fod wedi taro i roi bet ar eich clywed yn gwrthwynebu dychwelyd at fodel Dyfed. Yn yr un ffordd ag yr ydych chi wedi arfer â rhai o'r ymatebion a gawsoch heddiw, Alun, mae Paul wedi bod yn gadarn yn erbyn dychwelyd at fodel Dyfed ers amser hir iawn.
Mae'r ddadl am y brand yn allweddol. Nid wyf wedi ailadrodd honno eto, oherwydd gwneuthum hynny'n fanwl yn y datganiad diwethaf a roesoch. Gallaf gael trafodaethau gyda chi ynglŷn â phroblemau sydd gennyf ynghylch ailffurfio Sir Fynwy. Fe fyddwch yn ymateb drwy ddweud wrthyf pe baech yn rhoi Sir Fynwy a Blaenau Gwent yn ôl at ei gilydd, y byddech yn ail-greu rhyw hen syniad rhamantus am hen Sir Fynwy y cawsoch eich magu ynddi ac y cefais i fy magu ynddi, ac y mae pobl yn hiraethu amdani mewn gwirionedd. Gallwch wneud y ddadl honno yn achos Sir Fynwy, a gallech ailenwi'r awdurdod hwnnw yn y tymor hwy, ond sut ar y ddaear y gwnewch chi berswadio pobl yn Aberystwyth fod brand Sir Benfro yn mynd i weithio'n dda yno? Sut y gwnewch chi berswadio pobl yn Sir Gaerfyrddin fod brand Sir Benfro yn mynd i weithio yno? Nid yw'n gweithio, a dyna'r broblem gyda'r cynigion hyn, Ysgrifennydd y Cabinet.
Mae'n ddrwg gennyf—
Nid wyf yn credu bod gennyf amser ar ôl—mae'n ddrwg gennyf, Mike.
Nid yw'n gweithio. Nawr, gwnewch yr hyn y dywedoch eich bod am ei wneud yn wreiddiol—ewch yn ôl i'r dechrau. Os ydych wedi ysgrifennu'r cynigion hyn ar gefn pecyn sigaréts, efallai y gallaf wneud cais rhyddid gwybodaeth ynghylch y pecyn sigaréts hwnnw mewn gwirionedd, oherwydd mae'n swnio'n eithaf diddorol ei weld yn ysgrifenedig yn rhywle. Ond er mwyn popeth, gadewch inni fwrw ymlaen gyda'r gwaith o foderneiddio gwasanaethau cyhoeddus yn gyntaf cyn penderfynu ar y strwythurau. Mae pawb yma yn meddwl mai dyna'r ffordd i'w wneud. Gwrando, ymgysylltu a gadewch inni fwrw ymlaen â'r gwaith o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus gwell yng Nghymru.
Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, fe ohiriwn y pleidleisio ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.