Part of the debate – Senedd Cymru am 5:35 pm ar 25 Ebrill 2018.
Diolch i'r Ceidwadwyr am gyflwyno'r ddadl heddiw. Mae'r ad-drefnu llywodraeth leol arfaethedig—neu'r fersiwn ddiweddaraf ohono yn hytrach—yn fater pwysig, ac mae'n sicr o fod yn ddadleuol. Bydd rhywun yn cwyno beth bynnag fo'r newid y mae Gweinidog yn penderfynu ei wneud i gyfansoddiad cyngor lleol. Felly, i fod yn deg â'r Gweinidog, fel y dywedais yn ystod y cwestiynau diwethaf i'r Gweinidog, beth bynnag y mae'n ei wneud, mae'n sicr o fod yn ddadleuol, gan na allwch wneud omlet heb dorri wyau. Neu i ddefnyddio trosiad arall, ni allwch ysmygu'r sigaréts heb agor y pecyn sigaréts. Wedi dweud hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud môr a mynydd o'r ad-drefnu dros y tair blynedd diwethaf. Rydym ar y trydydd Gweinidog gwahanol a'r trydydd cynllun gwahanol, er nad yw'r fersiwn ddiweddaraf, fel y nododd Siân Gwenllian y tro diwethaf inni drafod hyn, yn wahanol iawn i'r cynllun gwreiddiol, sef model Leighton Andrews.
Felly, rhaid inni gydnabod, fel y mae'r Ceidwadwyr yn ei wneud gyda'r cynnig heddiw, fod y saga hon wedi creu llawer o ansicrwydd ymhlith y staff sy'n gweithio mewn llywodraeth leol. Mewn rhai achosion, gall arwain at fath o barlys, lle na all cynghorau gynllunio ar raddfa fawr gan nad oes ganddynt unrhyw syniad a fyddant yn dal i fodoli ymhen ychydig flynyddoedd, a gall wneud recriwtio swyddogion yn anodd.
Mater arall a godwyd gan CLlLC yw bod y cynllun diweddaraf yn amharu ar weithio rhanbarthol yr oedd llawer o gynghorau eisoes yn ei wneud gyda chyrff ac awdurdodau eraill, a chredaf fod hwn hefyd yn bwynt dilys. Ceir diffyg eglurder yn ogystal ynglŷn ag i ba raddau y byddai'r cynghorau newydd mwy o faint arfaethedig yn sicrhau budd o ran costau, sef y prif reswm dros eu creu yn y lle cyntaf. Felly, yn UKIP, credwn fod y rhain yn bwyntiau dilys, a byddwn yn cefnogi cynnig y Ceidwadwyr heddiw.
Siaradodd Lynne Neagle yn awr am yr angen am sylfaen dystiolaeth cyn inni gael unrhyw ad-drefnu, a chredaf fod llawer o'r pwyntiau a wnaeth yn ddilys iawn hefyd. Roeddent yn cyffwrdd â phethau y soniodd Mike Hedges amdanynt y tro diwethaf. Fe'n hatgoffodd ein bod yn cael clywed, bob tro y cawn ad-drefnu llywodraeth leol yng Nghymru, sef bob 20 mlynedd yn fras, mai hwn yw'r un terfynol, yr ad-drefnu i roi diwedd ar bob ad-drefnu, ond nid yw hynny byth yn wir yn y pendraw. Cawsom ad-drefnu yn 1974, ac eto yn 1995, a bellach mae un arall ar y gorwel, ac ar ôl pob ad-drefnu, o fewn ychydig flynyddoedd, clywn gan y Llywodraeth fod y cynghorau yng Nghymru yn rhy fach ac nad ydynt yn gynaliadwy. Os yw hyn yn parhau, bydd yna ad-drefnu arall ymhen 20 mlynedd, a fydd yn ein gadael gyda phedwar neu bump o gynghorau. Pan gyrhaeddwch y lefel honno, mae arnaf ofn eich bod yn symud oddi wrth unrhyw ymdeimlad ystyrlon fod pobl yn cael eu cynrychioli gan gynghorwyr wardiau lleol, ac rydych yn uno ardaloedd heb unrhyw gysylltiad hanesyddol mewn gwirionedd ac sy'n hollol wahanol o ran eu heconomïau a'u demograffeg o bosibl, a dyna rydym mewn perygl o'i wneud gyda'r ad-drefnu presennol hwn.
Mae'r pwynt arall a godwyd, unwaith eto gan Lynne Neagle, yn ymwneud â'r budd gwirioneddol o ran costau, a gwnaeth Mike Hedges y pwynt hwn y tro diwethaf hefyd. Nid ydym wedi cael unrhyw ddadansoddiad cost a budd go iawn, felly nid ydym yn gwybod a fydd cynghorau mwy o faint yn cyflawni'r arbedion y mae'r Llywodraeth yn eu haddo mewn gwirionedd. Eisoes rydym wedi gweld byrddau iechyd yng Nghymru yn uno, ac rydym wedi cael cyrff mwy o faint, nad yw'n ymddangos eu bod yn perfformio'n arbennig o dda yn gyffredinol. Felly, yr agwedd waethaf ar yr ad-drefnu llywodraeth leol yw y gall arwain at golli mwy o swyddi, darparu llai o wasanaethau i'r cyhoedd, a dal i fethu arbed unrhyw arian ystyrlon o safbwynt costau gweithredu cynghorau.
Rydym yn cytuno â Llywodraeth Cymru ein bod yn ymgynghori ar Bapur Gwyrdd ar hyn, ac rydym yn cytuno â hwy'n fras nad yw 22 o gynghorau lleol yn gynaliadwy. Felly, mewn gwirionedd rydym yn cytuno mewn termau eang iawn â'u gwelliant.
Yr hyn rydym ei eisiau yw mwy o weithio ar y cyd, ond gwyddom fod cydweithio rhwng gwahanol gynghorau'n digwydd eisoes. I ryw raddau, cafodd hyn ei ysgogi gan reidrwydd ariannol am fod y cynghorau'n ymdopi â chyllidebau llai, felly rhaid iddynt gydweithio er mwyn lleihau costau.
Un broblem bosibl yw bod ffurfiau gwahanol ar weithio ar y cyd. Mewn rhai ardaloedd, mae dau gyngor cyfagos yn gweithio gyda'i gilydd, mewn achosion eraill, mae tri neu bedwar cyngor gwahanol yn cyfuno adnoddau. Ac i ychwanegu at y cymysgedd, mae gennym bellach ddau ddinas-ranbarth yng Nghymru a dwy ardal ranbarthol arall sy'n gysylltiedig â bargeinion twf. Ar ben hynny, mae gennym hefyd gynlluniau datblygu strategol yn dod i mewn a fydd yn galw am gyfuniad arall o wahanol gynghorau. Felly, mae perygl, oni bai bod y Gweinidog Llywodraeth Cymru yn dal ei afael yn gadarn ar hyn, gallai patrwm llywodraeth leol a rhanbarthol yng Nghymru ddatblygu'n sydyn i fod yn dameidiog iawn, yn gymhleth iawn, ac i'r pleidleisiwr, yn ddryslyd iawn. Felly, mae gan y Gweinidog rôl bwysig i'w chwarae yn arwain llywodraeth leol. Fodd bynnag, byddai'n well gennym pe bai hyn yn cynnwys mwy o ymgynghori gyda'r cynghorau yr effeithir arnynt.
Felly, rydym yn cytuno gyda'r Ceidwadwyr; credwn eu bod yn iawn i godi'r materion hyn heddiw ac rydym yn cefnogi eu cynnig. Diolch yn fawr iawn.