Part of the debate – Senedd Cymru am 5:31 pm ar 25 Ebrill 2018.
Y gwir plaen yw, heb ddiwedd ar gyni, mae gwasanaethau cyhoeddus fel y gwyddom amdanynt o dan fygythiad. Mae'n ddealladwy fod hyn yn beth anodd i Lywodraeth Lafur sy'n malio am y gwasanaethau hyn ei wynebu, ond mae esgus y bydd newid nifer y cynghorau yn osgoi'r gwir anodd hwnnw yn gyfystyr â chuddio ein pennau yn y tywod.
Hyd yma, ymddengys nad yw'r ddadl wedi mynd y tu hwnt i'r ymateb greddfol ac arwynebol fod '22 yn ormod' y mae Llywodraeth Cymru yn ei chael hi'n anodd symud oddi wrtho. Yn amlwg, nid yw honno'n sail dystiolaethol ddigonol ar gyfer dilyn llwybr sy'n gostus iawn i'w weithredu. Yn sicr, mae baich y prawf ar Lywodraeth Cymru i ddarganfod beth fyddai cost ad-drefnu a pha fanteision a fyddai'n deillio ohono. Yn sicr, rwyf fi o'r farn fod y manteision ariannol mewn perygl o gael eu gorbwysleisio. Pa un a oes gennych wyth, 10, 12 neu 22 o gynghorau, byddant yn dal i orfod addysgu'r un nifer o blant yn yr un nifer o ysgolion, casglu'r un nifer o finiau a gofalu am yr un nifer o bobl sy'n agored i niwed. Dyma'r prif ffactorau sy'n rheoli costau.
Mae hyn yn arbennig o wir gan fod arbedion cost enfawr wedi'u gwneud gan gynghorau Cymru ers yr ymchwiliad diwethaf i ad-drefnu llawn. Y llynedd yn unig, arbedodd Cyngor Torfaen £1 filiwn yn sgil eu hadolygiad o'u gweinyddiaeth a'u gwasanaethau busnes, a chafwyd ymdrechion di-rif eraill i leihau costau canolog. Gwn y bydd Torfaen yn parhau i fynd ar drywydd camau i gydweithredu a ffyrdd gwahanol o weithio, ond mae profiad diweddar yn awgrymu, yn gynyddol, fod manteision i'r rhain o ran y gwasanaeth, yr ansawdd a chydnerthedd yn hytrach nag arbedion arian parod. Heb edrych yn fanwl ac yn wrthrychol ar y dystiolaeth, y perygl yw bod y gost o ad-drefnu wedi ei hamcangyfrif yn rhy isel a'r manteision wedi'u gorbwysleisio. Felly, byddai Llywodraeth Cymru yn gwario llawer o arian—dros £200 miliwn—ac ond yn arbed ychydig iawn, gan amharu ar y modd y caiff gwasanaethau eu darparu am nifer o flynyddoedd.
A pha dystiolaeth sydd yna i ddangos bod mwy yn gyfystyr â gwell? Er bod rhai o'r awdurdodau llai wedi wynebu heriau yn y gorffennol, rhai o'r awdurdodau bach hynny sydd wedi dangos peth o'r perfformiad gorau neu sydd wedi cael yr adroddiadau arolwg gorau. Yn y bwletin perfformiad diweddaraf gan Data Cymru, Torfaen oedd yr awdurdod yn y nawfed safle o ran perfformiad, a'r awdurdod yn y nawfed safle o ran gwella. Yr hyn y mae'r data yn ei ddangos yw nad yw maint yn benderfynydd perfformiad, gydag awdurdodau llai yn perfformio'n well yn gyffredinol. Er bod capasiti yn hanfodol, mae hyn yn awgrymu bod ffactorau megis arweinyddiaeth a diwylliant yn hollbwysig i lwyddiant yn hytrach na maint.
Yn olaf, pa ystyriaeth a roddwyd gan Lywodraeth Cymru i'r math o sefydliadau y byddent yn eu creu? Beth yw diffygion llywodraeth leol fel y mae ar hyn o bryd? Ac nid wyf yn cymryd arnaf nad oes rhai, ond yn hollbwysig, sut y byddai ad-drefnu yn eu gwneud yn well? Nid yw cyferbynnu'r sefyllfa bresennol gyda rhyw fath o berffeithrwydd dychmygol yn fan cychwyn synhwyrol. Y perygl gydag unedau mawr yw y byddent yn bell oddi wrth bobl, wedi'u rhannu'n blwyfol, ac yn gwrthod y cydweithredu a'r meddwl creadigol y byddai ei angen o hyd ni waeth pa mor fawr y byddent. Arweinyddiaeth a diwylliant sy'n gyrru gwelliant, nid maint.
Wrth siarad ar y mater hwn yn y ddadl ar adroddiad y comisiwn Williams yn ôl yn 2014, eglurais fy marn nad yw ad-drefnu yn ateb i bopeth. Yn y pedair blynedd a aeth heibio, rydym wedi mynd o ad-drefnu arfaethedig i fwy o gydweithredu rhanbarthol ac yn ôl at ymgynghori ar ad-drefnu unwaith eto. Bedair blynedd yn ddiweddarach, rwy'n fwy argyhoeddedig nag erioed y byddai ad-drefnu llywodraeth leol ar adeg o gyni a chyda Brexit ar y gorwel yn drychineb.