Part of the debate – Senedd Cymru am 5:51 pm ar 25 Ebrill 2018.
Mae'n ddrwg gennyf ddychwelyd at hyn, Ysgrifennydd y Cabinet, ond credaf ei fod yn dweud llawer fod y cynnig ac un o welliannau Plaid Cymru yn adlewyrchu'r ffaith nad yw Ysgrifennydd y Cabinet wedi cychwyn ar y broses hon mewn gwirionedd yn y ffordd fwyaf doeth. Mae'r ddau'n cyfeirio at ddull annigonol o ymgysylltu ag arweinwyr cynghorau presennol a dylanwadu arnynt. Credaf fod pob un ohonom yn deall yr angen i roi rhai camau ar waith ar yr agenda hon, ond drwy weini'r un stwnsh yn hytrach nag ymgysylltu â chynghorau er mwyn paratoi'r fwydlen, rydych yn dechrau anobeithio y gellir maethu'r rhai y mae angen ichi eu perswadio. Rwy'n siŵr eich bod yn cofio'r llanastr yn rhengoedd y Blaid Lafur ym Mhen-y-bont ar Ogwr y tro diwethaf yr awgrymodd rhywun yn garedig pwy y dylent fod yn uno â hwy. Cafwyd rhwygiadau a gwaharddiadau, ac er eu bod yn rhywfaint o hwyl i'r pleidiau gwleidyddol eraill wrth gwrs, roeddent yn ymyriad enfawr a niweidiodd awdurdod y cyngor ac amsugno llawer o amser pan allai'r Cyngor fod yn gwneud rhywbeth defnyddiol ar ran ei drigolion. Ac nid wyf yn credu mewn gwirionedd ei fod yn ymwneud â hunan-fudd ar ran y rhai a gafodd eu dal yn y frwydr. Yr hyn sy'n dal i aros yno yw'r teimlad eu bod wedi cael eu gwthio i ymladd gan gynigion na chafodd eu llunio ganddynt, a lle na chynigiwyd cyfleoedd i liniaru'r difrod yn y camau cynnar o ddatblygu polisi. Credaf nad yw ymgynghoriad post facto fel yr un sydd gennym yn awr yn mynd i dawelu'r dicter hwnnw mewn gwirionedd.
Rwy'n amau eich bod hefyd yn mynd i wynebu trafferthion gyda'r modelau cydweithio presennol, sydd eisoes wedi'u crybwyll, a'r dymuniad i weld cydffiniant yn digwydd. Cyflwynodd eich Llywodraeth y byrddau partneriaeth rhanbarthol, ac ar hyn o bryd, mae Bae'r Gorllewin yn fy rhanbarth i yn adlewyrchu nid yn unig ffiniau etholaethau, fwy neu lai, ond ffiniau Bwrdd Iechyd Lleol Abertawe Bro Morgannwg hefyd. Rwy'n credu bod symud gofal ysbyty Pen-y-bont ar Ogwr yn rhan o Gwm Taf, sydd mor bendant yn yr arfaeth ag y gall fod, rwy'n credu, yn cael gwared ar y cydffiniant hwnnw'n llwyr, ond wrth gwrs, byddai'n ei adfer pe bai eich syniad chi o uno rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn mynd rhagddo. Mae newid cyfrifoldeb bwrdd iechyd lleol, y teimlid cryn bryder dealladwy yn ei gylch ar y dechrau, bellach wedi dod yn newid sy'n sbarduno dicter, ynghyd â drwgdeimlad, oherwydd mae'n edrych fel pe bai Llywodraeth Cymru wedi achub y blaen drwy ragdybio y bydd ei fersiwn hi o ddiwygio llywodraeth leol yn cael ei dderbyn.
A beth sy'n mynd i ddigwydd i'r byrddau partneriaeth rhanbarthol? Mae'n debyg y bydd rhai gwelliannau i Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013, ond rwy'n eithaf awyddus i ddarganfod beth rydych yn mynd i'w wneud i Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 2015 ei hun. Os cofiwch, roedd yn seiliedig ar derfyn amser Tachwedd 2015. Felly, a fyddwch yn tynnu hyn oddi ar y llyfrau statud am ei fod yn ddianghenraid bellach? Os bu erioed ddarn hurt o ddeddfwriaeth, hwn ydoedd—a osodai derfynau amser ar awdurdodau lleol na ellid cadw atynt, neu lle y llwyddwyd i gadw atynt, câi cynlluniau a ffafrid eu hanwybyddu. A nododd Janet Finch-Saunders ddiffygion amlwg y ddeddfwriaeth honno, fel yr oedd yn mynd drwodd, ond cafodd ei gwrthod yn llwyr, fel yn wir y gwrthodwyd safbwyntiau arweinwyr y cynghorau.
Felly, Weinidog y Cabinet, os ydych yn bwriadu bod ychydig yn fwy cymodlon na'r Gweinidog ar y pryd, efallai y gallwch roi syniad i ni pa rannau o'r Ddeddf honno y bwriadwch eu cadw, oherwydd gwelaf rai ymadroddion cyfarwydd yn y Papur Gwyrdd, ond rwy'n eich annog i roi'r gorau i'r syniad o bwerau i atal awdurdodau lleol rhag cynllunio eu hunain yn ôl egwyddorion cabinetau meiri. Pam mai Llywodraeth Cymru a ddylai benderfynu hynny? Mae'r lle hwn wedi llwyddo i gael y pwerau'n ddiweddar i bennu ei strwythurau a'i system etholiadol ei hun, gan agor trafodaeth. Felly, pam y byddai'r Llywodraeth bellach yn ystyried cau'r drafodaeth ynghylch sut bethau fydd y cynghorau, gan gynnwys cynghorau a fyddai wedi uno?
Dau bwynt i orffen, gan fod pobl eraill wedi siarad yn fwy cyffredinol am gost—a allwch ddweud wrthyf a fyddwch yn trin a thrafod effeithiau uno ar y dreth gyngor a dyledion cynghorau cyn hyd yn oed ystyried arfer pŵer Gweithredol? Fel y mae'n rhaid cytuno ar delerau ymadael â'r UE cyn gadael, dylid cytuno felly ar delerau uno cyn uno cynghorau—ymlaen llaw, nid ar y cam llunio is-ddeddfwriaeth. A allwch ddweud wrthyf hefyd beth rydych wedi'i wneud i sicrhau nad yw'r don newydd hon o ansicrwydd yn effeithio'r un iot ar y cynnydd a wnaed gan y ddwy fargen ddinesig sy'n effeithio ar fy rhanbarth? Cynlluniau ar gyfer y Dyfed newydd—ac mae Paul Davies wedi crybwyll digon o broblemau gyda hwy eisoes—nid yn unig eu bod yn gwbl groes i uchelgeisiau'n ymwneud â chydffiniant, ond maent hefyd yn rhoi unrhyw gyngor cyfunol newydd mewn sefyllfa anodd iawn o ran trigolion Ceredigion a'r ffaith y cânt eu hepgor ar hyn o bryd o'r cynnydd economaidd a gontractiwyd ar gyfer cynghorau Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro yn unig.
Nawr, wrth gwrs, mae hi bob amser yn mynd i fod yn eithaf trafferthus gydag arweinwyr cynghorau. Rwy'n credu y gallai pawb ohonom fod wedi rhagweld hynny mae'n debyg, ond rwy'n meddwl tybed beth a ddigwyddodd i'r Alun Davies a wnaeth sioe fawr yn y Siambr hon, pan oedd yn Weinidog dros y Gymraeg, ynglŷn â sut yr oedd yn rhesymol a digyffro, yn taenu blodau ar hyd y llwybr i oleuedigaeth ac yn creu dealltwriaeth ymhlith y cynghorau, yn hytrach nag ufudd-dod, sef yr hyn sydd gennym yn awr.