Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 1 Mai 2018.
Arweinydd y tŷ, fe ddywedasoch wrthyf yn ystod cwestiynau yr wythnos diwethaf y bydd yr adolygiad rhywiau yn cynnwys y bwlch cyflog ar draws pob sefydliad sector cyhoeddus. Gan mai dim ond un o'r 50 o gwmnïau mwyaf llwyddiannus yng Nghymru sydd â phrif weithredwr benywaidd—sef y Bathdy Brenhinol—byddwn yn awyddus i ddeall sut y mae cwmnïau preifat a arferai fod mewn perchenogaeth gyhoeddus, neu sydd â chysylltiadau cryf â'r sector cyhoeddus o leiaf, yn cael eu cynnwys yn eich adolygiad. Sut ydych chi'n rhagweld y bydd yr adolygiad yn helpu i berswadio cwmnïau preifat mawr o'r math sy'n rhan o gwmpas safonau'r Gymraeg ar hyn o bryd, er enghraifft, leihau eu bwlch cyflog rhwng y rhywiau?