Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 1 Mai 2018.
Un o'r pethau yr ydym ni'n ei ystyried o ran y cynllun gweithredu economaidd, yr agenda gwaith teg a'n polisïau caffael ein hunain yw gweld pa ysgogwyr sydd gennym ni i sicrhau bod y nodau hynny yn nodau y ceisir eu cyrraedd yn y sector preifat yn ogystal ag yn y sector cyhoeddus. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig i ni roi trefn ar ein materion ein hunain yn gyntaf, hefyd, ond rydym ni'n gobeithio'n fawr iawn, trwy ddylanwad meddal a thrwy ysgogiad uniongyrchol gan ddefnyddio ein cyllid, y mae nifer fawr o sefydliadau sector preifat yng Nghymru yn ei dderbyn, gallu symud yr agenda honno ychydig yn gyflymach nag y mae'n ymddangos ei bod yn symud ar hyn o bryd.