– Senedd Cymru am 2:18 pm ar 1 Mai 2018.
Yr eitem nesaf, felly, yw arweinydd y tŷ, yn ei rôl fel arweinydd y tŷ, a'r datganiad a chyhoeddiad busnes. Rydw i'n galw arni, Julie James, i wneud y datganiad busnes. Julie James.
Diolch, Llywydd. Nid oes unrhyw newidiadau i fusnes yr wythnos hon. Dangosir busnes y tair wythnos nesaf yn y datganiad a chyhoeddiad busnes ymysg papurau'r cyfarfod sydd ar gael yn electronig i'r Aelodau.
Wel, a gaf i gydnabod eich dygnwch a galw am ddau ddatganiad gan Lywodraeth Cymru, y cyntaf ar grant byw'n annibynnol Cymru? Fel, ymysg pethau eraill, cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar anabledd, rwyf wedi bod yn mynegi pryderon yn y Siambr hon ac mewn gohebiaeth â Llywodraeth Cymru ers i Lywodraeth Cymru benderfynu symud grant byw'n annibynnol Cymru i gyllid awdurdodau lleol, yn wahanol i'r sefyllfa yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, lle y sefydlwyd partneriaeth â'r trydydd sector. Comisiynodd Gogledd Iwerddon o dan fodel yr Alban i sicrhau bod annibyniaeth a rheolaeth y defnyddiwr gwasanaethau yn cael eu hamddiffyn. Codais i hyn ddiwethaf yn gynnar ym mis Mawrth gyda'r Prif Weinidog, gan ddisgrifio'r cynnig fel bradychiad o hawl pobl anabl i fyw'n annibynnol a gwneud eu penderfyniadau eu hunain, ond, unwaith eto—er gwaethaf fy ngalwad ar y Prif Weinidog i gydnabod bod annibyniaeth yn golygu rhoi dewis a rheolaeth i bobl, ac nid gorfod cytuno ar sut y maen nhw yn gwario'u harian ag arbenigwyr â bwriadau da yn neuadd y sir pan mai nhw yw'r gwir arbenigwyr yn eu bywydau eu hunain, gwrthododd y Prif Weinidog hyn unwaith eto. Fodd bynnag, rwyf wedi cael copi erbyn hyn o adroddiad gan elusen yr wyf yn ei noddi, sy'n nodi y pleidleisiodd cynadleddwyr yng nghynhadledd ddiweddar Plaid Lafur Cymru yn Llandudno, ar gynnig a gyflwynwyd gan y Blaid Lafur De Clwyd i gefnogi parhad grant byw'n annibynnol Cymru, er gwaethaf polisi Llywodraeth Cymru, ac adroddwyd y bydd hyn bellach yn parhau o leiaf tan etholiadau'r Cynulliad yn 2021—croesawyd hyn gan yr ymgyrchwyr dan arweiniad Nathan Lee Davies o Wrecsam, ond maent yn awyddus i bwysleisio bod pellter i fynd i sicrhau'r grant yn y tymor hir. Felly, o gofio nad penderfyniad i unrhyw gynhadledd plaid yn unig yw hyn, rwy'n siŵr—mae'n benderfyniad i'r lle hwn hefyd—rwy'n credu bod yn rhaid i'r Cynulliad gael datganiad i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am yr hyn sy'n fater pwysig iawn i lawer iawn o bobl, yn enwedig yr ymgyrchwyr sydd wedi bod yn brwydro mor galed i gyflawni'r hyn yr ymddengys ei fod yn rhywfaint o gynnydd yn hyn o beth.
Yn ail, ac yn olaf, a gaf i alw unwaith eto, yn dilyn galwadau yr wythnos diwethaf, am ddatganiad ar ffordd osgoi yr A487 Caernarfon i Bontnewydd, er bod fy nghais i yn dod o ongl ychydig yn wahanol? Gwyddom y bu ymchwiliad cyhoeddus. Gwyddom, yn dilyn yr ymchwiliad, y dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai'n ystyried adroddiad yr ymchwiliad ac yn gwneud penderfyniad erbyn y gaeaf. Rydym yn gwybod, ym mis Mawrth, y dywedodd Llywodraeth Cymru fod arni angen mwy o amser i ystyried y cynlluniau, ond codwyd pryderon i mi gan fusnesau lleol bod dogfen yr oeddent wedi ei chyflwyno i'r ymchwiliad yn rhoi manylion gwrthwynebiadau, nid i'r ffordd osgoi ond i'r llwybr melyn a ffefrir gan Lywodraeth Cymru, yn cyflwyno—. Ond cynrychiolydd cyfreithiol o Lywodraeth Cymru, bargyfreithiwr Llywodraeth Cymru—. Ar sail ei gyflwyniadau, fe wnaethon nhw wrthod yr hawl i holi Llywodraeth Cymru ynghylch cynnwys y ddogfen, er y dywedodd y cyngor cyfreithiol yr oedden nhw wedi'i gael na fyddai unrhyw farnwr yn gwneud penderfyniad ar sail unrhyw adroddiad drafft, ac y byddai unrhyw adolygiad barnwrol dim ond yn bosibl pe cyhoeddir gorchmynion. Mentraf ddweud bod eich bargyfreithiwr wedi dweud na ddylen nhw fod wedi mynd i adolygiad barnwrol yn dilyn cyhoeddi'r gorchmynion drafft, yn erbyn y cyngor cyfreithiol a gafwyd. Maen nhw wedi codi pryder gyda mi ynghylch yr hyn y maen nhw wedi ei ddisgrifio yn anhyblygrwydd llwyr Llywodraeth Cymru dros 10 mlynedd wrth ystyried yr effaith ar swyddi a busnesau lleol. Maen nhw'n cefnogi'r ffordd osgoi yn gryf, ond wedi bod yn ceisio cyflwyno eu hachos—heb fawr o lwyddiant hyd yma—yn gofyn i Lywodraeth Cymru fabwysiadu'r llwybr oren neu ddu i amddiffyn busnesau a swyddi. Mae hwn yn fater pwysig iawn. Mae'r ddogfen y cyfeiriais ati yn gyflwyniad manwl, sy'n cadarnhau, os darllenwch chi'r cyflwyniadau gwreiddiol yn gywir, y cafwyd 75 y cant o gefnogaeth leol ar gyfer y llwybr du. Ni chyflwynwyd hynny yn nhystiolaeth WelTAG; ni chafodd ei holi yn yr ymchwiliad cyhoeddus. Felly rwy'n cefnogi'r galw am ddatganiad i'r Cynulliad ar y cynllun pwysig hwn ac yng nghyd-destun y gwrthwynebiadau dilys hyn a bygythiad gwirioneddol i swyddi mewn dau gyflogwr lleol mawr ar y llwybr.
Wel, o ran y mater cyntaf y mae'n ei godi, rydym yn parhau i fod o'r farn na all grant sefydlog ddiwallu holl ofynion pob person anabl yng Nghymru, sydd ag anghenion cymhleth ac amrywiol. Ni wnaed unrhyw newid mewn polisi Llywodraeth, felly ni allaf weld unrhyw reswm dros ddatganiad gan nad oes dim wedi newid ym mholisi'r Llywodraeth. Ac, fel y dywedodd Mark Isherwood ei hun, gofynnodd i'r Prif Weinidog am hynny yn ôl ym mis Mawrth.
O ran y ffordd osgoi, mae ymchwiliad cyhoeddus yn mynd rhagddo. Mae'r Aelod wedi gwneud ei sylwadau am gynnal yr ymchwiliad hwnnw, ond, yn amlwg, ni fyddai'n iawn i'r Llywodraeth roi sylwadau ar ymddygiad a chyflwyniadau cyfreithiol mewn ymchwiliad cyhoeddus.
Sylwaf, arweinydd y tŷ, y nodwyd heddiw bod y llosgydd arfaethedig ar gyfer y Barri yn debygol o fod yn weithredol erbyn diwedd y flwyddyn, ac rwy'n credu bod gwersi ehangach i Gymru gyfan o brofiadau pobl y Barri yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae rhywbeth wedi mynd o'i le yn ddifrifol, yn fy marn i, os oes gennym losgydd mor agos i gartrefi, mewn ardal o amddifadedd hefyd, o ran ansawdd aer, rydym ni i gyd yn ceisio'i wella yng Nghymru, heb ddatganiad ar yr effaith amgylcheddol. Nodwyd, rwy'n credu, gan y Gweinidog dros yr amgylchedd y lle hwn o'r blaen, ei bod yn bwriadu gofyn am gynnal astudiaeth o'r effaith amgylcheddol, ond dywedwyd wrthym, serch hynny, bod y llosgydd yn cael ei sefydlu. Felly, hoffwn yn fawr iawn, a hoffai Plaid Cymru, glywed datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd ar ba un a fyddwn yn gweld astudiaeth o'r effaith amgylcheddol. Ac, wrth gwrs, os bydd yr astudiaeth honno o effaith, yn codi cwestiynau ynghylch allyriadau, ynghylch cysylltiadau trafnidiaeth, ynghylch storio pren, ynghylch pob un o'r pethau y mae trigolion lleol wedi bod yn cwyno amdanyn nhw, bydd angen inni ddeall sut y gallai hynny effeithio ar roi'r trwyddedau terfynol ac amodau ar gyfer y llosgydd yn y Barri.
Hefyd, hoffwn i ofyn a fyddai modd i ddatganiad o'r fath, os, caiff ei wneud, gynnwys unrhyw waith y mae'r Llywodraeth wedi'i wneud gydag Ofgem ynghylch y ffaith bod y cynnig presennol yn ymddangos yn wahanol iawn i'r un a gafodd y dystysgrif rhwymedigaeth ynni adnewyddadwy yn wreiddiol—mae mor hen, y cynnig hwn, mae'n dyddio'n ôl i ddyddiau'r tystysgrifau rhwymedigaeth ynni adnewyddadwy, rwyf ar ddeall; fe'i gwnaed o dan drefn flaenorol. Ond bu llawer o newid ers hynny, gan gynnwys i'r llosgydd ei hun sydd o leiaf 10 y cant yn fwy o ran ei allbwn nag yr oedd o'r blaen. Felly, rwy'n credu y byddai pob un ohonom yn gwerthfawrogi, nid dim ond ar gyfer y Barri ond ar gyfer y gwersi ehangach ynghylch yr amgylchedd yng Nghymru, ddatganiad llafar er mwyn i ni allu gofyn cwestiynau i'r Gweinidog ynghylch hynny.
Yr ail eitem yr hoffwn ei chodi yw'r ffaith y gwnaeth llawer ohonom ddathlu bwyd a ffermio yn ystod amser cinio heddiw, ac rydym yn ddiolchgar iawn i Undeb Cenedlaethol y Ffermwyr, rwy'n siŵr, i lansio eu hymgyrch, Ni Yw Ffermio Cymru. Ond y cyd-destun i godi hyn gyda chi heddiw, wrth gwrs, yw bod gennym y cynnig hwn i uno Asda a Sainsbury, yn dweud wrthym y gwneir hyn gyda phrisiau is. Ni fydd unrhyw swyddi o'r siopau yn cael eu colli, ni fydd y siopau yn cau, ond rywsut bydd gennym brisiau sydd o leiaf 10 y cant yn is. Nawr, dim ond un ffordd sydd o wasgu prisiau'n is dan yr amgylchiadau hynny, a hynny gan y cyflenwyr, a'n ffermwyr ni yw'r cyflenwyr. Ac wrth wasgu ein ffermwyr, ie, efallai y cewch chi rywbeth rhatach yn y siop, ond mewn gwirionedd rydych chi'n gwasgu ein cymunedau, oherwydd bod y ffermwyr hynny yn ailgylchu'r punnoedd maen nhw'n eu hennill yn ein cymunedau, a dangosir hynny'n glir yng ngwaith Llywodraeth Cymru ei hun yn ogystal â gwaith yr undeb.
Felly, os bydd uno ac atgyfnerthu o'r fath raddau yn y sector archfarchnadoedd, mae'n rhaid codi'r cwestiwn bod angen atgyfnerthu'r ombwdsmon archfarchnadoedd yn sylweddol, oherwydd nid ydym yn dymuno gweld unrhyw gyflenwr—ond rwyf i'n sôn yn arbennig am ffermwyr Cymru yma—yn cael eu gwasgu gan farchnad afreolaidd a defnyddio gormod o bwysau a gormod o rymoedd gwrth-gystadleuol, mewn gwirionedd, y farchnad yn cael eu defnyddio. Felly, byddai'n dda cael ymateb gan Lywodraeth Cymru, efallai llythyr gan Lywodraeth Cymru ar y cam hwn, i'r tîm uno Asda a Sainsbury, pa drafodaethau yr ydych chi'n eu cael â Llywodraeth y DU ynglŷn â hyn, pa gamau y gellir eu cymryd i amddiffyn cyflenwyr Cymru a ffermwyr Cymru yn benodol, ac a ydych yn credu—chi, rwy'n credu, eich hun yn bersonol, ond yn sicr mae'r Llywodraeth wedi dweud yn y gorffennol bod ganddi ddiddordeb mawr mewn atgyfnerthu'r Ombwdsmon a gwneud yn siŵr y caiff llais y cyflenwr yn y gadwyn archfarchnadoedd ei gryfhau, yn ogystal ag, wrth gwrs, beth rydym ni'n ei weld nawr, sef yr archfarchnadoedd eu hunain yn cael eu cryfhau.
Rwy'n credu, o ran yr ail bwynt hwnnw, bod Simon Thomas yn gwneud cyfres ragorol o bwyntiau. Mae'n peri pryder mawr bod proses uno mor fawr yn cael ei hystyried, yn enwedig pan fydd un o'r partneriaid, i bob pwrpas, yn Walmart, gan nad yw'n enwog iawn am—dyweder—polisïau prynu blaengar. Mae'n amodol, fel y gwyddoch, ar y comisiwn cystadleuaeth, ond rwyf i ar ddeall bod y comisiwn cystadleuaeth yn edrych yn gyffredinol ar yr effaith ar ddefnyddwyr ac nid ar gyflenwyr. Mae gan Ysgrifennydd y Cabinet dros faterion gwledig a minnau bryderon am hyn a byddwn yn mynegi'r pryderon hynny i'r ymchwiliad monopolïau ac uno cwmnïau, oherwydd rwyf i'n rhannu eich pryderon, mewn gwirionedd, am y cyflenwyr. Dim ond un ffordd sydd o'i wasgu a hynny ar y diwedd. Felly, mae'n sicr yn fater i ni y byddwn yn ei ystyried.
O ran y llosgydd yn y Barri, dydw i ddim yn gwbl sicr beth yw'r sefyllfa o ran o broses honno. Rwy'n credu mai'r ffordd orau ymlaen, mae'n debyg, fyddai i'r Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni drwy lythyr ynglŷn â'r sefyllfa o'n safbwynt ni, ac yna gallwn symud ymlaen o'r fan honno.
Arweinydd y tŷ, hoffwn i ofyn am ddau ddatganiad. Ydych chi'n gwybod pryd y gallem ni ddisgwyl diweddariad ar ddefnydd meddygol o rwyll y wain yn y GIG? Rwyf i wedi codi hyn nifer o weithiau yn y Siambr, ac rwyf ar ddeall y bydd y grŵp gorchwyl a gorffen yn adrodd yn ôl yn fuan. Rwy'n credu y byddai'n briodol pe cawn ni ddatganiad yn dilyn hynny yn y Siambr.
Mae'r ail ddatganiad rwyf yn gofyn amdano yn ymwneud â lles anifeiliaid. Yr wythnos diwethaf, dywedodd y Gymdeithas Frenhinol er Atal Creulondeb i Anifeiliaid fod erlyniadau yn sgil creulondeb i anifeiliaid yng Nghymru ar y lefel uchaf mewn pedair blynedd a bod llawer o'r achosion yr ymdriniodd yr RSPCA â nhw yn ystod 2017 yn ymwneud â cheffylau ac aelodau eraill o'r un teulu o anifeiliaid. Mae'n aml yn achos o ddod o hyd iddyn nhw wedi'u hesgeuluso, ceffylau sâl, yn marw neu wedi marw weithiau. Un broblem sylweddol yw'r anhawster i ganfod pwy yw perchnogion y ceffylau hynny a gallai cofrestru helpu o bosibl. Felly, a gawn ni ddadl yn amser y Llywodraeth ar hyn a lles anifeiliaid yn ehangach?
O ran rhwyll y wain, gwn y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gwneud datganiad pan ddaw'r adroddiad, felly byddwn yn sicr o ddwyn hynny ymlaen cyn gynted ag y bo modd pan fydd wedi'i wneud.
Bydd Ysgrifennydd y Cabinet hefyd yn gwneud datganiad ar les anifeiliaid. Rydym yn ymwybodol iawn o'r mater ynghylch olrhain perchnogaeth ceffylau, sydd, Llywydd, yn fater enfawr yn fy etholaeth i fy hun, er ei bod yn ganol dinas, sy'n groes i'r disgwyl. Rydym yn ymwybodol o hynny. Gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet yn cymryd y mater o ddifrif ac y bydd yn gwneud datganiad yn fuan.
Arweinydd y tŷ, a gaf i ofyn am ddatganiad ar lefelau gordewdra ymhlith plant yng Nghymru? Mae adroddiad blynyddol y rhaglen mesur plant ddiweddaraf yn dangos bod mwy na chwarter y plant yng Nghymru yn rhy drwm neu'n ordew. Mae hyn yn llawer uwch nag yn Lloegr. Cafodd ardaloedd megis Blaenau Gwent a Chaerffili yn fy rhanbarth ill dau ganlyniadau uwch na chyfartaledd Cymru. Rwyf ar ddeall bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru i ddatblygu strategaeth newydd i fynd i'r afael â gordewdra. A gawn ni ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd ar pryd y bydd y strategaeth yn debygol o adrodd, a pha ddulliau y mae'n bwriadu eu defnyddio i ymdrin â'r broblem hon yn y cyfamser yng Nghymru? Diolch.
Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi nodi ei fod yn disgwyl cynnal ymgynghoriad a bydd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr ymgynghoriad hwnnw cyn toriad yr haf.
Arweinydd y tŷ, hoffwn i ofyn am ddau ddatganiad, os yw hynny'n bosibl. Mae'r cyntaf yn ymwneud â'r cyhoeddiad heddiw gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, sy'n honni bod gwasanaethau plant yng Nghymru bron mewn argyfwng—. Nawr, yn amlwg, mae galw cynyddol a lleihau cyllidebau yn arwain at drychineb, fel y gwyddom ni i gyd. Rydym ni wedi gweld yr anawsterau ym Mhowys yn ddiweddar, ac mae'n amlwg bod cynghorau eraill yng Nghymru yn teimlo pwysau o ran y galwadau ar eu gwasanaethau a'u gallu i ymateb. Felly, gyda'r cefndir hwnnw, a gaf i ofyn a fyddai'r Gweinidog dros Blant a Gwasanaethau Cymdeithasol, felly, yn fodlon cyflwyno datganiad llafar ar y cyfle cyntaf ar y pwysau sy'n wynebu gwasanaethau plant, a'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei wneud i fynd i'r afael â nhw? Dyna'r cyntaf.
Mae'r ail gais yn ymwneud â chynlluniau i ddatblygu system fetro ar gyfer Bae Abertawe a'r Cymoedd gorllewinol. Fel yr wyf wedi sôn o'r blaen yn y Siambr hon, mae datblygu system metro sydd, mewn egwyddor, yn ceisio gwella amseroedd teithio i bobl y de-orllewin i'w groesawu, yn naturiol, ond byddwch chi'n ymwybodol o'r pryderon yng Nghastell-nedd o ran yr angen i amddiffyn statws gorsaf drenau Castell-nedd yn rhan o unrhyw gynnig metro. Mae teimladau cryf yng Nghastell-nedd ar hyn o bryd. Felly, o gofio bod gwaith wedi dechrau ar ddatblygu'r achos busnes amlinellol strategol ar gyfer y metro, a fyddai Ysgrifennydd y Cabinet dros drafnidiaeth yn fodlon cyflwyno datganiad llafar sy'n amlinellu'r gwaith sy'n mynd rhagddo ar hyn o bryd a sut y mae'n disgwyl i'r prosiect ddatblygu? Diolch yn fawr.
Gan ymateb iddyn nhw am yn ôl, o ran hynny, mae fy nghyd-Aelod Aelod y Cynulliad dros Gastell-nedd wedi mynegi ei farn yn glir ar unrhyw bosibilrwydd o gau gorsaf Castell-nedd. Nid yw'r fath gau yn agos at y gorwel. Ni allwn hyd yn oed ysgogi Llywodraeth y DU i drydaneiddio'r rheilffordd, heb sôn am ei sythu. Felly, rwy'n credu mai breuddwyd gwrach yw hynny. Mae yna drafodaeth ynghylch metro Bae Abertawe, rydych yn gwbl gywir, ac mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth wedi rhoi arian ar gyfer astudiaeth ddichonoldeb i hynny, ond nid yw hynny'n cynnwys cau gorsaf Castell-nedd.
O ran gwasanaethau plant, bydd y Gweinidog dros blant yn gwneud datganiad ar y materion hynny yn fuan iawn, ac wrth gwrs bydd fy nghyd-Aelod, Ysgrifennydd y Cabinet dros lywodraeth leol yn gwneud datganiad ar Bowys yn nes ymlaen ar yr agenda heddiw.
A fedrwch chi fy sicrhau i fy mod yn cael ateb gonest a chlir gan eich Llywodraeth ar fater syml rwyf wedi bod yn mynd ar ei ôl o rŵan ers mis Ionawr? Rwyf wedi gofyn i Weinidog y Gymraeg faint o staff sydd wedi eu lleoli yn uned Gymraeg y Llywodraeth—y staff sy'n gyfrifol am baratoi rheoliadau safonau'r iaith Gymraeg. Ar ôl cael yr ateb 'loads' mewn pwyllgor, mi ges i ateb i gwestiwn ysgrifenedig a oedd yn dweud mai'r Ysgrifennydd Parhaol a oedd i fod i ateb. Ni ches i ddim ateb ganddi hi tan ddydd Iau diwethaf, a hynny oherwydd fy mod i wedi gorfod codi'r mater yma yn y Siambr. Ac mi ges i yr ateb yma, a oedd yn syfrdanol:
'Rwy’n fodlon bod digon o swyddogion polisi yn gweithio yn yr Is-adran er mwyn ymgymryd â’r gwaith hwn yn unol â blaenoriaethau Gweinidogol.'
Yr Ysgrifennydd Parhaol ddywedodd hynny. Felly, yn gyntaf, nid wyf wedi cael ateb o hyd i gwestiwn syml gan Aelod Cynulliad ers mis Ionawr. Yn ail, onid ydy hwn yn enghraifft eto fyth o ddiffyg tryloywder gan eich Llywodraeth chi—rhan o batrwm, o ddiwylliant, yn anffodus? Ac, yn drydydd, a ydy pennaeth y gwasanaeth sifil, sydd i fod yn ddi-duedd, i fod i roi ymateb y byddai rhywun yn ei ddisgwyl a fyddai'n dod gan Weinidog, ac ai ymdrech i osgoi rhoi ateb gonest i gwestiwn syml sydd yn mynd ymlaen fan hyn? Felly, buaswn i'n hoffi cael eich cefnogaeth chi i sicrhau ateb i fy nghwestiwn i. Nid wyf fi'n meddwl y dylai'r Cynulliad yma, na'ch Llywodraeth chi, ganiatáu y math yma o ymddygiad gwrth-ddemocrataidd.
Rwy'n ymwybodol o'r mater. Rwy'n credu ei fod, mewn gwirionedd, yn gymharol gymhleth. Ond byddaf yn ysgrifennu atoch chi, Siân Gwenllian, ac yn gwneud yn siŵr y cewch chi, pa mor gymhleth bynnag yw'r ateb, ateb uniongyrchol i'ch cwestiwn.
Diolch i arweinydd y tŷ.
Rydych chi'n haeddu eich cwpanaid o de bellach. Diolch ichi am hynny.