Part of the debate – Senedd Cymru am 2:43 pm ar 1 Mai 2018.
Dirprwy Lywydd, bydd adolygiad canol tymor y cynllun buddsoddi yn ein helpu i weithio mewn ffordd mwy cydweithredol ac integredig, o fewn y Llywodraeth a gyda ein partneriaid. Bydd yn sicrhau bod ein seilwaith yn gadarn, yn cyfrannu at dwf economi Cymru ac yn ein helpu i lunio dyfodol tymor hir ein gwlad a'i phobl. Rydw i'n cymeradwyo'r cynllun i'r Cynulliad.