Part of the debate – Senedd Cymru am 2:37 pm ar 1 Mai 2018.
Dirprwy Lywydd, rydym ni wedi gwneud hyn, a mwy, ar adeg pan fydd ein cyllideb cyfalaf confensiynol 20 y cant yn llai mewn termau real erbyn diwedd y degawd nag yr oedd hi yn 2009-10. A hyn i gyd yn union yn ystod y cyfnod yn y cylch economaidd pan ddylai Llywodraeth y DU fod wedi achub ar y cyfle yn hytrach na pheidio â buddsoddi yn y dyfodol. Yma yng Nghymru, yn y chwe blynedd ers y cafodd cynllun buddsoddi yn seilwaith Cymru ei gyhoeddi gyntaf, rydym ni wedi buddsoddi £9 biliwn o gyllid cyfalaf gan Lywodraeth Cymru, a datblygu ffyrdd newydd o sicrhau buddsoddiadau o ffynonellau eraill, i gyflawni prosiectau uchelgeisiol, sy'n creu manteision parhaol ar gyfer pobl Cymru.
Nawr, Dirprwy Lywydd, mae llawer wedi newid ers cyhoeddi'r cynllun buddsoddi yn seilwaith Cymru cyntaf un yn 2012. Bryd hynny, addawodd y Canghellor, George Osborne, y byddai cyni ar ben erbyn 2015. Bellach, bydd yn ymestyn i 2025. Rydym ni wedi cael refferendwm yr Undeb Ewropeaidd, a'r penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd. Mae'n rhaid bod effaith yr ansicrwydd y mae hyn wedi ei greu yn helpu esbonio pam, ar adeg pan mae economïau yn ardal yr ewro yn tyfu ar eu cyfradd gyflymaf ers degawd, mae twf ledled y DU yn arafu, ac mae ar ei wannaf ers 2012.
Dirprwy Lywydd, dyna'r sefyllfa sydd ohoni wrth gyhoeddi ein hadolygiad canol cyfnod o'r cynllun buddsoddi yn seilwaith Cymru heddiw. Mae'r adolygiad yn ystyried profiad y chwe blynedd diwethaf, lle gallwn ni weld cynnydd, a lle gallwn ni ddysgu gwersi ar gyfer y dyfodol. Mae'n ystyried y llu o newidiadau—rhai ohonyn nhw yr wyf i newydd sôn amdanynt—sydd wedi digwydd yn ystod oes y cynllun hyd yn hyn, ac mae'n disgrifio ein blaenoriaethau buddsoddi ar gyfer y cyfnod sy'n weddill o'r cynllun, gan ei gysoni ag amcanion a nodau 'Ffyniant i bawb' a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, a gosod gwariant Llywodraeth Cymru yn fwy uniongyrchol yng nghyd-destun y buddsoddiad y mae eraill yn cynllunio i'w wneud yng Nghymru.
Dirprwy Lywydd, mae gennym ni gynlluniau uchelgeisiol i fuddsoddi mwy yn seilwaith Cymru, gyda chynlluniau eisoes ar y gweill i fuddsoddi gwerth £6.5 biliwn yn ychwanegol o gyfalaf yn ein blaenoriaethau rhwng nawr a 2020-21. A heddiw, gallaf gyhoeddi pecyn ariannu cyfalaf newydd o £266 miliwn i helpu cyflawni blaenoriaethau'r Llywodraeth dros y tair blynedd nesaf. Ymhlith amcanion eraill, mae'r buddsoddiadau hyn yn ategiad cryf i gefnogi gwaith fy nghyd-Aelod Cabinet Lesley Griffiths yn y maes hanfodol o leihau allyriadau carbon.
Mae'r dyraniadau ariannu newydd yn cynnwys: £60 miliwn dros dair blynedd i gyflymu'r broses o greu llwybrau teithio llesol i gysylltu ardaloedd preswyl, gwaith, safleoedd addysg a gwasanaethau; mwy na £60 miliwn dros y tair blynedd nesaf ar gyfer y GIG, ar gyfer rhaglen gyfalaf Cymru gyfan; £31.5 miliwn dros dair blynedd ar gyfer mynediad band eang cam 2 y genhedlaeth nesaf; £25 miliwn dros dair blynedd ar gyfer y rhaglen Cymoedd Technoleg newydd; a £15 miliwn dros ddwy flynedd i ariannu cynllun arbrofol, yn rhan o'r tasglu gweinidogol ar gyfer Cymoedd y de, i sicrhau bod ysgolion yn yr ardal yn dod yn ganolfannau cymunedol ac yn darparu gwasanaethau estynedig i ganolfannau dysgu yn y gymuned. Mae'r adolygiad man canol hefyd yn cynnwys rhestr gyfredol o'r buddsoddiadau sydd gan Lywodraeth Cymru, awdurdod lleol a'r sector preifat yn yr arfaeth. Mae'n rhoi manylion ynglŷn â mwy na 350 o gynlluniau sydd werth tua £42 biliwn, gan gynnwys ymrwymiadau blaenllaw y Llywodraeth ei hun.
Llywydd, fel y gŵyr Aelodau o'r Pwyllgor Cyllid, fy egwyddor i erioed yw dihysbyddu'r defnydd lleiaf drud o gyfalaf cyn defnyddio'r ffynonellau eraill drutach. Mae'r cynllun, felly, yn dibynnu ar ein hymdrechion yn y lle cyntaf i ymrwymo'r rhan helaethaf o'n cyfalaf confensiynol, ymhell cyn ei wario, yna wedi hynny i ddefnyddio pob punt o gyfalaf sydd ar gael i ni drwy'r cronfeydd datblygu rhanbarthol y mae Cymru yn elwa ohonynt o ganlyniad i'n haelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd—mae hynny'n cyfateb i fwy na £720 miliwn o fuddsoddiad ychwanegol—yna i wneud defnydd llawn o'r pwerau benthyca gwerth £1 biliwn sydd yn awr ar gael i ni, ac yna i fynd ati i gefnogi benthyca ychwanegol fel bod modd i'n hawdurdodau lleol a'n cymdeithasau tai fuddsoddi.
Ac oherwydd, hyd yn oed pan rydym ni wedi dihysbyddu'r holl bosibiliadau hyn, mae gennym ni o hyd ddibenion cyhoeddus hanfodol bwysig na ellid fel arall eu fforddio, rydym ni wedi dyfeisio ein model buddsoddi cydfuddiannol ein hunain, gan adeiladu ar gynlluniau nid-er-elw Llywodraeth yr Alban, i ddod o hyd i ffordd o ariannu ysbyty canser newydd y Felindre ar gyfer de Cymru, i gwblhau'r gwaith o ddeuoli ffordd A465 Blaenau'r Cymoedd, ac i'n galluogi i gyflymu band B ein rhaglen addysg ac ysgolion ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. A, Dirprwy Lywydd, gallaf gyhoeddi heddiw y datblygiad diweddaraf yn y maes hwn, oherwydd yn unol â darpariaethau yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006, mae cytundeb bellach wedi'i sicrhau gyda Llywodraeth y DU y bydd yn cyflwyno deddfwriaeth i alluogi Gweinidogion Cymru i gyhoeddi bondiau ar gyfer gwariant buddsoddi cyfalaf, gan roi cyfres arall o declynnau benthyca i Lywodraeth Cymru yn y dyfodol.
Dirprwy Lywydd, rydym ni wrthi'n sefydlu comisiwn seilwaith cenedlaethol ar gyfer Cymru, ac yn ddiweddarach y prynhawn yma bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig yn gwneud datganiad ynghylch y dewis yr ydym ni'n ei ffafrio ar gyfer ein cynllun defnydd tir newydd, y fframwaith datblygu cenedlaethol. Gyda'i gilydd, bydd y rhain yn rhoi darlun strategol o anghenion ein seilwaith cenedlaethol a rhanbarthol, ac o gymorth inni sicrhau bod ein buddsoddiadau yn cyd-fynd a thargedau lle gallant gael yr effaith fwyaf yn wyneb cyni parhaus.