Part of the debate – Senedd Cymru am 4:42 pm ar 1 Mai 2018.
Dirprwy Lywydd, rwy'n ddiolchgar i arweinydd UKIP am ei sylwadau caredig a chywair ei anerchiad i'r Siambr y prynhawn yma. Mae'n ymddangos fy mod i'n dechrau pob cyfraniad heddiw drwy ateb y cwestiynau olaf yn gyntaf. Pa mor aml y byddwn ni'n adrodd? Rwy'n credu y byddwn i'n hapus iawn i adrodd i'r Aelodau yma bob tymor, ac rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol, y mae ei gylch gwaith yn ymdrin â'r materion hyn hefyd wrth gwrs, yn fodlon ac yn hapus i wneud hynny mewn modd tebyg. Rwy'n gweld ei fod yn nodio'i ben o'i sedd, felly fe wnawn ni gymryd bod hynny'n ymrwymiad ar ran y ddau ohonom i wneud hynny. Fe wnawn ni ddod o hyd i ffordd o sicrhau bod yr adroddiadau hynny ar gael i Aelodau, boed ar ffurf datganiad ffurfiol ar y llawr, neu drwy bwyllgorau neu drwy ddatganiad ysgrifenedig. Ond byddwn yn sicr yn ceisio trafod â'r Aelodau sut y bydden nhw'n dymuno derbyn y diweddariadau hynny.
Rwy'n pwysleisio unwaith eto bod Gweinidogion bob amser ar gael, yn arbennig i'r Aelodau hynny sy'n cynrychioli etholaethau Powys, i siarad yn breifat ac i gael sgwrs, os oes angen hynny, ac rydym yn hapus iawn i barhau i wneud hynny. Rwy'n credu pan gododd fy nghyd-Aelod, Rebecca Evans, y materion hyn gyntaf, roedd hi'n glir iawn, iawn o ran ym mhle yr oedd y materion hyn yn bodoli. Rwy'n credu hefyd ei bod yn deg dweud ei bod hi'n glir o ran sut yr oedd yn dymuno gweld y Llywodraeth a llywodraeth leol yn cydweithio i ddatrys rhai o'r materion hynny. Yn amlwg, gwelwyd yn ddiweddarach fod y materion hynny yn ehangach nag yr oeddent yn ymddangos yn y lle cyntaf, ac y mae'n iawn ac yn briodol i ni edrych yn ehangach ar y materion hyn o ganlyniad i hynny.
Nid wyf i'n dymuno rhoi sylwebaeth y prynhawn yma, neu ar unrhyw adeg arall, ar rai o'r rhesymau—fe soniodd arweinydd UKIP, Dirprwy Lywydd, am fethiant yr arweinyddiaeth. Rwy'n credu bod hynny'n glir ar rai lefelau; rwy'n credu bod hynny'n gwbl glir. Fodd bynnag, yr hyn yr hoffwn i allu ei wneud heddiw yw sicrhau ein bod yn canolbwyntio ar symud yr awdurdod yn ei flaen, yn hytrach nag edrych yn ôl ar y rhesymau pam y digwyddodd hynny. Mae'n bosibl iawn y bydd amser pan allai fod yn briodol i bwyllgor y cyngor neu bwyllgor y lle hwn edrych ar y materion hynny, ac yn sicr, byddwn i'n awyddus i gydweithredu ag unrhyw ymchwiliad a fydd yn digwydd i'r materion hynny, ond, i mi, rwy'n awyddus i ni ddarparu arweinyddiaeth yn awr, a darparu'r arweinyddiaeth y mae ar bobl a staff Powys ei heisiau, ei hangen a'i haeddu, ac fe wnawn ni hynny drwy weithio gyda'n gilydd. Fe wnawn ni hynny drwy ddysgu gyda'n gilydd a, rwy'n gobeithio, fel y dywedodd arweinydd UKIP, dysgu o'r camgymeriadau posibl a wnaed yn y gorffennol.
Mae'n llygad ei le yn yr hyn a ddywedodd am faterion cyfathrebu a chynllunio. Mae'r rhain yn faterion difrifol ac maen nhw'n faterion y mae'n rhaid rhoi sylw iddynt ac a fydd yn cael sylw. Rwy'n gwbl hyderus bod gan y bobl sydd wedi eu penodi i swyddi arweinyddiaeth ym Mhowys y sgiliau i allu arwain, ond mae ganddyn nhw ddealltwriaeth hefyd o'r hyn y mae'n ei olygu i arwain ac ystyr arweinyddiaeth weddnewidiol. Nid mater o fynd ymlaen gan bwyll bach yw hyn, nid mater o dicio blychau, ac nid mater o wneud dim ond cymryd camau unioni syml i ymdrin â materion unigol o fewn un adran. Mae a wnelo â newid gweddnewidiol o fewn awdurdod i fynd i'r afael â'r diwylliant o fewn yr awdurdod, sut y mae'r awdurdod yn cynnal ei hun, ac yna'n cael ei ddwyn i gyfrif am y newidiadau hynny gan y bobl maen nhw'n eu cynrychioli ym Mhowys.
Fe wnes i gydnabod llawer iawn o'r hyn yr ysgrifennodd Sean Harriss yn ei adroddiad. Rydych chi wedi'i ddyfynnu yn dweud bod diffyg dealltwriaeth o'r hyn sy'n 'dda', a diffyg dealltwriaeth o'r hyn sydd angen ei wneud a sut i wneud hynny. Mae'n rhaid i mi ddweud wrth yr Aelodau nad hwn yw'r tro cyntaf i mi ddarllen brawddegau o'r fath mewn adroddiad o'r fath. Gwn fod rhywfaint o gyndynrwydd mewn gwahanol rannau o'r Siambr am rai o'r cynigion yr wyf i wedi'u gwneud i fynd i'r afael â rhai o'r materion hyn, ond dywedaf wrth yr Aelodau ei bod yn ddyletswydd ar bob un ohonom i edrych o ddifrif ar y strwythurau sydd gennym ar waith, a sicrhau ein bod yn gallu gwneud mwy na dim ond ymdrin â materion unigol mewn awdurdodau unigol pan fyddan nhw'n codi, ond yn hytrach, mae'n rhaid i ni sefydlu strwythurau sy'n fwy cynaliadwy yn y dyfodol.
Bydd yr Aelodau wedi gweld y sylw a roddwyd gan y wasg heddiw i swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol mewn awdurdodau lleol, a'r hyn y mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn ei ddweud. Dywedaf i yn y fan hon, fy mod i'n cytuno â'r sylwadau a wnaed gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru heddiw. Nid wyf i'n credu bod y strwythurau sydd gennym ar waith yn gynaliadwy at y dyfodol. Rwyf wedi gwneud hynny'n glir iawn, iawn. Mater ar gyfer pob plaid unigol a gynrychiolir yma felly yw ystyried eu hymateb i'r heriau hynny, ac rwy'n gobeithio y gallwn ni, yn ystod yr wythnosau a'r misoedd nesaf, edrych tuag at weledigaeth y gallwn gytuno arni ar gyfer y dyfodol, lle bo gennym awdurdodau lleol cryf a chadarn sy'n gallu cymryd cyfrifoldeb am wella gwasanaethau ar gyfer llywodraeth leol, gan gyflawni o fewn llywodraeth leol. Ac rwy'n gobeithio y gallwn wneud hynny mewn ysbryd cydweithredol a thrwy ymagwedd gydweithredol, sef yr union beth a awgrymwyd gan arweinydd UKIP y prynhawn yma. Dyna'r hyn rwyf i'n ceisio'i gyflawni, ac rwy'n credu bod yna gytundeb eang i hynny, nid yn unig yn y Siambr hon, ond ledled llywodraeth leol hefyd.