Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 2 Mai 2018.
Ni allwn gytuno mwy. Yn wir, mae'r enghraifft y mae'r Aelod yn cyfeirio ati hefyd yn dangos bod pum ffordd o weithio Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn cael eu cyflawni ar lefel leol, gyda chydweithrediad a chyfranogiad, ac yn wir, mae yna lefel dda o gydweithio rhwng fy swyddogion a'r awdurdod lleol er mwyn gwella ansawdd y cais o'r cam cyntaf i'r ail gam. Ac rwy'n falch iawn ein bod yn gallu cefnogi'r cynigion gyda mwy na £300,000 o gyllid, ac rwyf hefyd yn falch o allu dweud ein bod wedi dyrannu gwerth £119,000 o adnoddau i helpu i wella addysg diogelwch ffyrdd ar draws y fwrdeistref.