Diogelwch ar y Ffyrdd

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 2 Mai 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 1:34, 2 Mai 2018

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf fi yn gyntaf groesawu'r buddsoddiad sylweddol y mae Llywodraeth Cymru, ar y cyd â Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, yn ei wneud mewn mesurau diogelwch ar y ffyrdd, yn sicr yn ngorllewin fy etholaeth, ac mae nifer o brosiectau ar y gweill? Yn benodol, ar gyffordd Beddau Halt yn fy etholaeth, man peryglus cyfarwydd lle mae damweiniau'n tueddu i ddigwydd, mae'r cytundeb diweddar i fuddsoddi £700,000 i wella hwnnw i'w groesawu'n fawr iawn. Cynnyrch ymgyrch gan bobl leol, trigolion lleol, gan gynghorwyr, yw'r buddsoddiad hwnnw mewn gwirionedd, ac mae wedi arwain, rwy'n credu, at bartneriaeth aruthrol i weithio ar ffyrdd o wella rhai o'r mannau peryglus hyn. A ydych yn cytuno bod hon yn ffordd dda ymlaen, gyda Llywodraeth Cymru yn gwrando ar beth y mae pobl leol a chynghorwyr lleol yn ei ddweud, a'r bartneriaeth yn buddsoddi mewn camau i wella ein mannau peryglus?