Trafnidiaeth Integredig ar gyfer Caerdydd

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 2 Mai 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Neil McEvoy Neil McEvoy Independent 1:43, 2 Mai 2018

(Cyfieithwyd)

Mae'r metro wedi bod yn destun siarad ers wyth mlynedd. Fel y dywedodd eich cyd-Aelodau Llafur, mae gorsaf fysiau Caerdydd yn ffiasgo—ffiasgo llwyr. Os ydych yn teithio i'r cyrion, i orllewin y brifddinas, fel y rhagwelasom—ac roedd pobl yn ein galw'n gelwyddgwn ar y pryd—mae tai'n cael eu hadeiladu, mae'r teirw dur yno, ac mae yna ffordd unffrwd lle bydd 8,000 o dai eraill yn cael eu hadeiladu. Beth yw eich neges i drigolion gorllewin y brifddinas? A beth yw eich neges i bobl a fydd yn prynu'r tai newydd hynny, oherwydd nid oes ganddynt unrhyw ffordd o deithio i ganol Caerdydd? Beth a ddywedwch wrth y bobl hynny?