Trafnidiaeth Integredig ar gyfer Caerdydd

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:44 pm ar 2 Mai 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 1:44, 2 Mai 2018

(Cyfieithwyd)

Wel, dyma fy neges: rydym wedi ymyrryd, oherwydd yr hyn y mae'r Aelod yn ei alw'n ffiasgo gyda gorsaf fysiau Caerdydd, ac mewn blynyddoedd i ddod, bydd pobl ar hyd a lled Caerdydd—ledled Caerdydd gyfan—yn gweld gwelliannau mewn gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus, nid yn unig o ran yr hyn a fydd yn teithio ar y rheilffyrdd, ond hefyd o ran gwasanaethau bysiau drwy ddiwygio gwasanaethau bysiau lleol a thrwy ddeddfwriaeth y byddwn yn ei chyflwyno yn ystod y tymor hwn. Mae'n gwbl hanfodol, fel y dywedais wrth Andrew R.T. Davies, fod pobl yn cael cyfle i adael eu ceir preifat a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus—trafnidiaeth gyhoeddus ddiogel a dibynadwy o'r ansawdd uchaf. Byddwn yn darparu hynny yn ogystal fel rhan o'r metro, a'r fasnachfraint rheilffyrdd newydd, a fydd yn cael ei chytuno a'i chyflwyno yn awr o fis Hydref eleni ymlaen.