Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 2 Mai 2018.
Yn 2015, dywedodd Chris Blake o Cymoedd Gwyrdd (Cymru) fod ei gwmni wedi nodi o leiaf 500 o safleoedd yng Nghymru sy'n addas ar gyfer prosiectau micro-hydro. Y flwyddyn honno, rhoddodd The Guardian sylw i ffermwr mynydd yng Nghymru a ddywedodd ei fod wedi dyblu incwm ei fferm drwy osod generadur 18 KW a oedd yn weithredol 24 awr y dydd. O ystyried cyflwr enbyd ein ffermwyr mynydd o ganlyniad i bolisïau amaethyddol cyffredin, byddai'n arwydd o ewyllys da pe bai Llywodraeth Cymru yn rhoi cymhorthdal am gynlluniau o'r fath i'n ffermwyr mynydd, gyda mantais ychwanegol amlwg o dorri allyriadau carbon? Wrth gwrs, mae gennym rai cynlluniau ynni dŵr cymunedol yng Nghymru, ond gyda mwy o gymorth gan Lywodraeth Cymru, gallai fod llawer mwy. Ysgrifennydd y Cabinet, onid yw'n bryd i ni edrych o ddifrif ar y cynlluniau ynni dŵr bach hyn, yn enwedig o ystyried y sylwadau gwarthus a wnaed ar brosiect bae Abertawe ddoe gan Weinidog busnes y DU, yr Arglwydd Henley?