Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 2 Mai 2018.
Yn hollol. Ni allwn gytuno mwy, ond rydym eisoes yn helpu ffermwyr a phobl eraill sy'n byw mewn ardaloedd gwledig i ddatblygu cynlluniau micro-hydro, gan ariannu cynlluniau yn ogystal â chynnig cyngor. Rwy'n arbennig o falch o weld bod UKIP wedi newid eu safbwynt i gefnogi dulliau cynaliadwy o gynhyrchu ynni, ac ynni adnewyddadwy ar hynny.