Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 2 Mai 2018.
Gwnaf, wrth gwrs. Ers cyhoeddi ein gweledigaeth y llynedd, rydym yn gwneud cynnydd da iawn ar ddatblygu'r canolfannau trafnidiaeth integredig allweddol ar draws y rhanbarth, gyda ffocws cynnar ar Wrecsam a Glannau Dyfrdwy. Yn ddiweddar, fel cam diweddaraf y gwaith hwnnw, cyhoeddais £1.8 miliwn o gyllid i gefnogi gwelliannau i'r rheilffyrdd, bysiau a theithio llesol yng Nglannau Dyfrdwy.