Metro Gogledd Cymru

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 2 Mai 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jack Sargeant Jack Sargeant Labour 2:17, 2 Mai 2018

(Cyfieithwyd)

Hoffwn ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am yr ateb. Fel y gwyddoch, mae system fetro gogledd-ddwyrain Cymru a'r system drafnidiaeth integredig well yn gynllun uchelgeisiol yr wyf fi, a fy etholwyr yn Alun a Glannau Dyfrdwy, yn sicr yn ei groesawu. Roeddwn yn falch iawn o'ch croesawu i Lannau Dyfrdwy fis diwethaf i weld a dysgu mwy am y cynlluniau ar gyfer cysylltiadau trafnidiaeth gwell, yn enwedig ar ystâd ddiwydiannol Glannau Dyfrdwy. Ond mae ardaloedd gwledig yn aml yn mynd yn angof, felly rwy'n arbennig o falch eich bod yn rhannu fy uchelgais i sicrhau bod yr ardaloedd hynny wedi'u cysylltu'n llawn yn ogystal. A fyddai Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi fod buddsoddiad mewn ardaloedd fel y rhain—ardaloedd trefol a gwledig—yn allweddol i lwyddiant economaidd parhaus Alun a Glannau Dyfrdwy, a rhanbarth gogledd-ddwyrain Cymru yn wir?