1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru ar 2 Mai 2018.
7. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am fetro gogledd Cymru? OAQ52073
Gwnaf, wrth gwrs. Ers cyhoeddi ein gweledigaeth y llynedd, rydym yn gwneud cynnydd da iawn ar ddatblygu'r canolfannau trafnidiaeth integredig allweddol ar draws y rhanbarth, gyda ffocws cynnar ar Wrecsam a Glannau Dyfrdwy. Yn ddiweddar, fel cam diweddaraf y gwaith hwnnw, cyhoeddais £1.8 miliwn o gyllid i gefnogi gwelliannau i'r rheilffyrdd, bysiau a theithio llesol yng Nglannau Dyfrdwy.
Hoffwn ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am yr ateb. Fel y gwyddoch, mae system fetro gogledd-ddwyrain Cymru a'r system drafnidiaeth integredig well yn gynllun uchelgeisiol yr wyf fi, a fy etholwyr yn Alun a Glannau Dyfrdwy, yn sicr yn ei groesawu. Roeddwn yn falch iawn o'ch croesawu i Lannau Dyfrdwy fis diwethaf i weld a dysgu mwy am y cynlluniau ar gyfer cysylltiadau trafnidiaeth gwell, yn enwedig ar ystâd ddiwydiannol Glannau Dyfrdwy. Ond mae ardaloedd gwledig yn aml yn mynd yn angof, felly rwy'n arbennig o falch eich bod yn rhannu fy uchelgais i sicrhau bod yr ardaloedd hynny wedi'u cysylltu'n llawn yn ogystal. A fyddai Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi fod buddsoddiad mewn ardaloedd fel y rhain—ardaloedd trefol a gwledig—yn allweddol i lwyddiant economaidd parhaus Alun a Glannau Dyfrdwy, a rhanbarth gogledd-ddwyrain Cymru yn wir?
Buaswn. Ni ddylai ardaloedd gwledig fod o dan anfantais oherwydd bod ganddynt lai o gysylltiadau trafnidiaeth. Boed yn drenau neu'n fysiau, mae angen i ni wneud yn siŵr fod y lefelau cywir o fuddsoddiad yn cael eu pwmpio i mewn i gymunedau gwledig, ac rwy'n falch o allu dweud wrth yr Aelod ein bod wedi penderfynu sefydlu uned fusnes gogledd Cymru yn Trafnidiaeth Cymru i fwrw ymlaen â gwaith mewn cymunedau trefol a gwledig. Rwyf hefyd wedi sefydlu grŵp llywio trawsffiniol, sy'n gweithio ar brosiectau amrywiol fel rhan o weledigaeth y metro, ac rwy'n falch o ddweud ein bod yn bwrw ymlaen â gwaith ar nifer o hybiau hefyd, nid yn unig yng Nglannau Dyfrdwy, ac roeddwn yn falch o ymuno â'r Aelod i ymweld â'r fan honno, ond yn Wrecsam hefyd. Rydym yn edrych ar ddatblygu hybiau eraill yn Llanelwy, Abergele, a llawer o gymunedau eraill, gan sicrhau bod cysylltiadau gwell rhwng ardaloedd trefol mawr â'i gilydd, ond bod mwy o gysylltiad rhyngddynt a chymunedau gwledig hefyd.
Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet.