1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru ar 2 Mai 2018.
4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu'r cymorth sydd ar gael i fusnesau yng nghanolbarth Cymru i ehangu eu gweithrediadau? OAQ52066
Gwnaf. Fel y nodir yn y cynllun gweithredu economaidd, rydym yn cyflawni amrywiaeth o gamau gweithredu mewn partneriaeth i gefnogi economi gryfach, decach ac i helpu busnesau i ddatblygu, tyfu a ffynnu ledled Cymru. Mae hyn yn cynnwys cymorth busnes, cyngor busnes a buddsoddi mewn seilwaith strategol, gan gynnwys safleoedd.
A gaf fi ddiolch i chi am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet? Mae nifer gynyddol o fusnesau wedi cysylltu â mi i ddweud eu bod eisiau ehangu eu busnesau ond yn methu, a'r rheswm am hyn yw oherwydd nad oes unrhyw lety addas na safleoedd masnachol ar gael iddynt ehangu eu gweithrediadau. Nawr, rwy'n credu bod unedau masnachol yn brin, yn arbennig yn ardal y Trallwng a'r Drenewydd, ond gwn fod hon yn broblem mewn rhannau eraill o Gymru hefyd, ac rwy'n credu mai'r broblem hon yw'r prif rwystr sy'n atal twf busnes bellach. Nawr, rwy'n tybio y byddwch yn ymwybodol o'r mater hwn, ond tybed a allech amlinellu beth y mae eich Llywodraeth yn ei wneud i gefnogi busnesau yn y sefyllfa benodol hon, a buaswn hefyd yn falch o wybod a fyddech yn gallu rhoi sylw ar unrhyw gymorth ar gyfer unedau ymlaen llaw neu unedau ar hap i gefnogi twf busnes. Buaswn yn ddiolchgar pe baech yn barod i gyfarfod â mi a llond llaw o fusnesau sydd â'r broblem hon—problem braf i'w chael, wrth gwrs.
Buaswn yn fwy na pharod i gyfarfod â'r Aelod a'r busnesau, ac os caf awgrymu, â'r prif swyddog rhanbarthol sy'n llunio'r cynllun rhanbarthol ar gyfer canolbarth a de-orllewin Cymru. Mae'r broblem a nodwyd gan Russell George yn un a nodwyd hefyd gan Chris Sutton, arbenigwr yn y maes. O ganlyniad i'r broblem hysbys hon, datblygwyd y cynllun gweithredu economaidd i fynd i'r afael yn benodol â diffyg argaeledd safleoedd addas ar gyfer busnesau sy'n tyfu.
Yng nghanolbarth Cymru, yn yr ardaloedd y mae'r Aelod yn eu cynrychioli, rydym wedi buddsoddi mewn safleoedd ar gyfer cwmnïau fel Zip-Clip, Invertek Drives a siopau Charlies. Rwy'n credu ei bod yn deg dweud bod y datblygiad a welwyd yn y Trallwng yn benodol wedi trawsnewid y gymuned honno. Ond mae'r angen i ddatblygu a darparu mwy o safleoedd addas mewn mannau eraill, yn ogystal ag yn y Trallwng, yn dwysáu.
Yn ddiweddar, rydym wedi gwerthu saith erw o dir yn Abermiwl i Gyngor Sir Powys. Eu cynnig yw adeiladu unedau busnes bach o ansawdd uchel ymlaen llaw fel rhan o'r safle, ond rwy'n credu bod rôl bwysig yn hyn o beth i fargen twf canolbarth Cymru. Yr wythnos diwethaf, cyfarfûm â'r Arglwydd Bourne a phartneriaid Tyfu Canolbarth Cymru, a buom yn trafod, yn gyffredinol iawn, beth sydd ei angen ar ganolbarth Cymru i ffynnu ac i fod yn fwy llewyrchus. Yn fy marn i, os ydych am sbarduno twf economaidd mewn modd cynaliadwy, mae'n rhaid i chi sicrhau eich bod yn buddsoddi mewn sgiliau a seilwaith a'r cyfryngau rhanbarthol cywir ar gyfer cynnal twf economaidd. Ynghyd â seilwaith, fel y dywedodd yr Aelod, mae safleoedd yn hanfodol bwysig.