Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 2:33 pm ar 2 Mai 2018.
Diolch ichi am yr ateb hwnnw, Gwnsler Cyffredinol. Yn amlwg, ers imi gyflwyno'r cwestiwn, mae pethau wedi symud ymlaen ychydig, ac o ganlyniad rydych wedi nodi'r camau a gymerwyd. Fodd bynnag, mae'n bosibl fod cynsail wedi'i sefydlu yma; y bwriad yn amlwg oedd mynd â'r Bil hwn i'r Goruchaf Lys pe na bai'r gwelliannau hynny wedi'u cytuno. O ganlyniad, yn y pen draw, gallem, ac rydym mewn sefyllfa lle roeddem yn y Goruchaf Lys ar gyfer ein Bil, tra bod Bil UE Llywodraeth y DU yn mynd drwodd. Beth fyddai'r sefyllfa gyfreithiol mewn perthynas â chael ein dal o fewn y Goruchaf Lys tra bo Biliau'r DU yn cael eu pasio, ac felly'n cael Cydsyniad Brenhinol, ond ein bod yn dal i aros am ganlyniad penderfyniad y Goruchaf Lys cyn inni allu cael Cydsyniad Brenhinol?