Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 2:34 pm ar 2 Mai 2018.
Wel, bydd yr Aelod yn ymwybodol fod hwn yn fater sydd ar feddwl y Llywodraeth mewn sawl ffordd, nid yn lleiaf y ffaith bod maint y ddeddfwriaeth a'r is-ddeddfwriaeth gysylltiedig â Brexit sydd angen mynd ar ei thrywydd a'i gweithredu wedi ei gwneud yn ofynnol i holl Lywodraethau'r DU, a'r holl ddeddfwrfeydd, ddechrau'r gwaith cyn gynted â phosibl. Felly, fel y bydd yr Aelod yn gwybod, gwnaed cais i'r Goruchaf Lys i gyflymu'r gwrandawiad ar y mater. Mae'r cais hwnnw i gyflymu yn parhau i fod ar waith, ac yn amlwg ni fyddwn yn ei dynnu'n ôl hyd nes y tynnir y cyfeiriad ei hun yn ôl, ac nid oes penderfyniad wedi'i wneud eto gan y Goruchaf Lys ynghylch cynnal y gwrandawiad yn gynt. Yr hyn y byddem yn ei ddisgwyl a'r hyn sydd ei angen yw i'r Twrnai Cyffredinol dynnu'r cyfeiriad yn ôl os caiff y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol ei gymeradwyo gan y Cynulliad maes o law. Mae hwnnw'n amlwg yn fater i'r Cynulliad ei ystyried. Ac ar yr adeg honno, bydd y Bil parhad ar gael i'w gyflwyno ar gyfer Cydsyniad Brenhinol. Efallai fod hynny'n ymddangos yn gam rhyfedd i'w gymryd o dan yr amgylchiadau, ond fel y bydd yr Aelod ac eraill yn gwybod, ni fydd yn bosibl dirymu'r Bil parhad heb iddo gael ei gyflwyno yn y ffordd honno am Gydsyniad Brenhinol.